Ydych chi’n ddigartref neu’n poeni y gallech fod yn y dyfodol?

Yn unol â Rhan VII Deddf Tai (yn ymgorffori Ddeddf Digartrefedd 2002 a Gorchymyn Unigolion Digartref (Blaenoriaeth i Anghenion) (Cymru) 2001) mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfrifoldebau penodol am y bobl sydd naill ai’n ddigartref neu'n cael eu bygwth â digartrefedd. Ydych chi'n:

  • Ydych chi’n dioddef trais sy’n eich gorfodi i adael?
  • Ydych chi’n cysgu ar lawr un o’ch ffrindiau?
  • Ydych chi ar fin colli eich cartref?
  • Ydych chi’n cysgu mewn hostel?
  • Ydych chi’n cysgu ar y stryd

Efallai y gall Gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam eich helpu.

Os ydych chi'n ddigartref, neu ar fin bod yn ddigartref, mae'n ofynnol, yn ôl deddf gwlad, i'r Cyngor ymholi i'ch sefyllfa. Efallai y gallwn ni eich atal rhag mynd yn ddigartref neu eich helpu os ydych yn ddigartref.

Cysylltwch â ni

Y cam cyntaf yw cysylltu â'r Is-adran Digartrefedd yn:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1WH

Is-adran Digartrefedd -  01978 292947 / 01978 292949 / 01978 292937

Tu allan i oriau - 01978 264240

Ein horiau swyddfa yw:

Dydd Llun - Dydd Iau 8.45am - 5.15pm
Dydd Gwener 8.45am - 4.45pm

Apwyntiadau

Mae apwyntiadau ar gael:
Dydd Llun – ddydd Gwener   10.00am - 12.00 canol dydd a 2.00pm - 4.00pm

Gellir gweld achosion brys heb apwyntiad neu gellir gwneud trefniadau arbennig os gofynnwch. Fodd bynnag cewch eich gweld gan Swyddog Atal Digartrefedd i ddechrau.

Mae pob achos yn wahanol ac yn ystod eich cyfweliad gyda'r Swyddog Atal Digartrefedd gofynnir am wybodaeth am eich amgylchiadau personol a'ch sefyllfa letyaeth gyfredol. Gwneir hyn er mwyn i'r swyddog allu edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael i atal digartrefedd.

Os yw eich amgylchiadau cynddrwg fel bo digartrefedd yn anorfod bydd y Swyddog Atal Digartrefedd yn eich cyfeirio at y Swyddog Digartrefedd er mwyn canfod:

Yn ddibynnol ar ein penderfyniadau, efallai y bydd gennych hawl i:

yn ôl i'r brig