Ydych chi'n "fwriadol" ddigartref?

Gellir eich ystyried yn fwriadol ddigartref os ydych yn gadael neu’n cael eich gorfodi i adael llety y gallech fod wedi aros ynddo’n rhesymol, ond y bu i chi ei adael o ganlyniad i rywbeth a wnaethoch neu rywbeth y gwnaethoch fethu â’i wneud.

Er enghraifft:

  • Os ydych yn gadael eich llety’n wirfoddol, naill ai yn y DU neu wlad dramor, ac y buasai wedi bod yn rhesymol i chi barhau i fyw yno;
  • Os cewch eich troi allan o’ch cartref o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent neu forgais mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw reswm da i chi beidio â thalu;
  • Os cewch eich troi allan o’ch cartref am ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis aflonyddwch neu werthu cyffuriau;
  • Os ydych yn dewis gwerthu eich tŷ heb reswm dilys;
  • Os ydych yn dewis rhoi’r gorau i’ch swydd, sy’n cynnwys llety, heb reswm dilys

yn ôl i'r brig