Os ydych yn cael gwybod bod y Cyngor o’r farn:
mae gennych hawl i ofyn i ni adolygu’r penderfyniad hwnnw. Gellwch hefyd apelio yn erbyn addasrwydd unrhyw gynnig am lety.
Rhaid i chi wneud cais i ni adolygu unrhyw benderfyniad o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad yr ydych yn derbyn y penderfyniad uchod yn ysgrifenedig.
Byddwn yn gofyn i chi ddatgan eich rhesymau dros ofyn am yr adolygiad yn ysgrifenedig ac yn eich cynghori ynghylch y weithdrefn apelio. Gall Shelter neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth eich helpu gyda’r broses hon.
Bydd y Cyngor yn ystyried unrhyw wybodaeth a gyflwynir gennych neu gan rywun arall ar eich rhan.
Os byddwch yn methu â chyflwyno unrhyw wybodaeth fanwl bellach, bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu ar sail yr holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael yn barod.
Fel rheol, rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniad o fewn 8 wythnos i’r dyddiad ar eich caisShelter Cymru, P O Box 2293, Wrecsam , LL13 9TY
Ffôn: 01978 317911
CAB, 35 Ffordd Grosvenor, Wrecsam
Ffôn: 01978 315137