Llety dros dro

Os ydych yn gymwys i gael help a’ch bod yn ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol, mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu llety dros dro ar eich cyfer.  Os ydych yn anfwriadol ddigartref, mewn angen blaenoriaethol ac â chysylltiad lleol â Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae gennym ddyletswydd i ddarparu llety dros dro hyd nes i chi ddod o hyd i lety parhaol.

Os ydych yn gymwys ac mewn angen blaenoriaethol, ond yn fwriadol ddigartref, mae gennym ddyletswydd i ddarparu llety dros dro er mwyn rhoi cyfle rhesymol i chi ddod o hyd i’ch llety eich hunan, a dyletswydd i ddarparu cyngor a chymorth.      

Os nad oes gennych angen blaenoriaethol, nid oes gan y Cyngor unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu llety dros dro ar eich cyfer.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig.  Byddwn yn cynnig cyngor a chymorth i’ch helpu i geisio dod o hyd i’ch llety eich hunan.

Os oes gennych angen blaenoriaethol, mae’n bosibl y byddwn yn darparu llety dros dro wrth i ni wneud ymholiadau pellach mewn perthynas â’ch achos.  Gallai’r llety hwn fod yn

  • Llety dros dro y Cyngor
  • Llety gwely a brecwast
  • Llety mewn hostel

yn ôl i'r brig