A oes gennych "gysylltiad lleol" â Bwrdeistref Sirol Wrecsam?

I fod â chysylltiad lleol, rhaid i chi fod:

  • wedi byw yn Wrecsam am 3 blynedd yn y 5 mlynedd ddiwethaf; neu
  • wedi byw yn Wrecsam am 6 mis yn y 12 mis diwethaf; neu
  • fod â gwaith parhaol a sicr yn Wrecsam; neu
  • fod â pherthynas agos (e.e. rhiant, brawd neu chwaer) sydd wedi byw yn yr ardal am 5 mlynedd neu fwy.

Os nad oes gennych gysylltiad lleol ag unrhyw fan, yna rhaid i’r Cyngor yr ydych wedi gwneud cais iddo fod yn gyfrifol amdanoch.

Os oes gennych gysylltiad lleol ag ardal Cyngor arall (a heb gysylltiad lleol â Wrecsam), yna gall Wrecsam gyfeirio eich cais digartrefedd at y Cyngor hwnnw.

yn ôl i'r brig