Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Homeswapper.co.uk - am ddim i’n tenantiaid!

 

Homeswapper.co.uk yw’r gymuned gyfnewid fwyaf yn y DU ac nawr mae ar gael yn rhad ac am ddim i denantiaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam!

Cyfnewid Tai - canllaw

O fis Ionawr 2008 bydd gan holl denantiaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fynediad am ddim at HomeSwapper.co.uk, sef y gwasanaeth cyfnewid ar-lein mwyaf yn y DU.  Bydd y gwasanaeth hwn yn disodli’n cofrestr cyfnewid bresennol a gafodd ei chau ar 31 Rhagfyr 2007.

Beth yw HomeSwapper?

Mae HomeSwapper yn eich galluogi i gyfnewid tai a chwilio am eich cydweddiad perffaith gan chwilio trwy restr o filoedd o denantiaid eraill ledled y wlad.  Mae HomeSwapper yn hawdd ei ddefnyddio gyda chyfleuster cydweddu grymus ac effeithiol.  Mae cannoedd o deuluoedd yn cyfnewid cartrefi bob mis gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Sut ydw i’n dod o hyd i gydweddiadau?

Gall y wefan ddarparu diweddariadau a chydweddiadau posibl dros yr e-bost, neges testun neu’ch cyfrif ar-lein.  Mae’n hawdd cofrestru a gallwch wneud hynny’n ddiogel ac am ddim ar y wefan.

Hoffai rhywun dw i’n adnabod roi cynnig arno ond nid oes ganddo fynediad at y we!

Os nad oes gennych fynediad at y we neu os ydych yn adnabod rhywun a hoffai gymryd rhan ond sydd heb fynediad at y we, gallwch gael ffurflen gais HomeSwapper o’ch swyddfa dai leol neu gallech ymweld ag un o’n llyfrgelloedd i gael mynediad i’r rhyngrwyd AM DDIM.

Rydw i am roi cynnig arni!  Ble ydw i’n dechrau?

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen cwestiynau cyffredin.

I roi cynnig arni’n syth a chofrestru, ewch i’r tudalennau cofrestru.  

 
English
 

Cysylltiadau perthnasol:

Ceisio am Gartref
Y Cynllun Pwyntiau
Rhent
Budd-dâl Tai
Budd-daliadau Lles
Gorfodi Tenantiaeth
Cynlluniau Cymdeithasau Tai
Cysylltiadau Tai
Tai Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint