Cwblhau Ffurflen Gais
Os ydych am wneud cais am dy, rhaid i chi gwblhau ffurflen gais am dy a’i dychwelyd at un o swyddfeydd tai lleol y Cyngor. Os bydd angen unrhyw gymorth pellach arnoch wrth gwblhau’r ffurflen, mae pob croeso i chi ofyn.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cwblhau’r ffurflen hon mor llawn a chywir â phosibl. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu faint o bwyntiau y mae gennych hawl i’w derbyn.
I gefnogi’ch cais am dy, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch enw, eich cyfeiriad a’ch amgylchiadau presennol, er enghraifft unrhyw gyflyrau meddygol sydd gennych neu fynediad at blant. Mae’r ffurflen yn cynnwys manylion yr hyn sydd ei angen arnom. Ni allwn dderbyn eich cais os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth hon.
Os canfyddwn eich bod wedi rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar eich ffurflen gais yn fwriadol a’ch bod yn dod yn denant o ganlyniad i hynny, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i ddod â’ch tenantiaeth i ben.
Penderfynu lle'r ydych am gael eich ailgartrefu
Rydym am roi cymaint o ddewis i chi ag sy'n bosibl ynghylch lle'r ydych
am fyw. Gellwch ddewis cymaint o ardaloedd yn y fwrdeistref ag y dymunwch, y math o eiddo sydd ei angen arnoch a'i faint.
Y math o eiddo a'i faint
O ganlyniad i'r lleihad parhaus yn nifer y tai y mae'r Cyngor yn eu rheoli,
rhaid i ni wneud y defnydd gorau o'r tai sydd ar gael. Am y rheswm hwn,
mae gennym reolau mewn perthynas â maint yr eiddo a gynigir i bobl fel
rheol. Cyfeiriwch at y tabl isod wrth ddewis y math o eiddo sydd ei angen
arnoch.
| Math o Deulu |
Math o Eiddo
(* gan ddibynnu ar y cyflenwad a'r galw lleol) |
| Unigolyn sengl dan 60 oed |
- Fflat un ystafell
- Fflat ag 1 lofft
- Ty ag 1 lofft
- Byngalo ag 1 lofft*
|
| Parau heb blant |
- Fflat un ystafell
- Fflat ag 1 neu 2 lofft
- Fflat deulawr ag 1 neu 2 lofft
- Ty ag 1 neu 2* lofft
|
| Teuluoedd sy'n disgwyl plentyn ac sydd heb unrhyw blant eraill |
- Fflat â 2 lofft
- Fflat ddeulawr â 2 lofft
- Ty â 2 lofft
|
| Teuluoedd ag 1, 2 neu 3 o blant |
- Fflat â 2 neu 3* llofft
- Fflat deulawr â 2 neu 3* llofft
- Ty â 2 neu 3* lloft
|
| Teuluoedd â 4 neu fwy o blant |
- Fflat â 3 neu 4 llofft
- Fflat deulawr â 3 neu 4 llofft
- Ty â 3 neu 4 llofft
|
| Pobl dros 50 oed |
Eiddo sy'n "addas" i bobl hyn:
- Fflat un ystafell
- Fflat ag 1 neu 2 lofft
- Fflat deulawr ag 1 neu 2 lofft
|
| Pobl dros 60 oed |
Tai cysgodol:
- Fflat un ystafell
- Fflat ag 1 neu 2 lofft
- Fflat deulawr ag 1 neu 2 lofft
- Byngalo ag 1 neu 2 lofft
|
| Teuluoedd sydd ag ymgeisydd ag anabledd corfforol sydd angen eiddo addasedig |
Tai addasedig sy'n bodloni eu hanhenion neu eiddo y gellir ei addasu. Gallai hyn gynnwys eiddo sy'n "addas" i bobl hyn neu dai cysgodol. |
Fe'ch cynghorir i fod yn realistig wrth ddewis eiddo ac ardal. Os ydych
yn rhy gyfyngedig, gellwch effeithio ar eich siawns o gael cynnig ty.
Byddwch yn ymwybodol bod y cyflenwad tai mewn rhai rhannau o'r
fwrdeistref yn brin. Gwneir cynigion i'r ymgeiswyr hynny sy'n gallu
gwneud y defnydd gorau o'r eiddo, er enghraifft, fel rheol, ni fyddwn yn
cynnig ty 3 llofft i unigolyn sengl.
Gweler ein taflen wybodaeth "Dewis Ardal" ddiweddaraf i weld lle mae
ein tai a sut rai ydynt, faint a ddaeth yn wag yn y 12 mis diwethaf a
faint o bobl sydd ar y rhestr aros.
Tai Cysgodol
Rydym yn rheoli nifer o unedau tai cysgodol yn y fwrdeistref. Mae nifer
o'r unedau hyn yn ennill budd o gefnogaeth warden preswyl neu
ddibreswyl, larwm cymunedol a/neu tai addasedig i bobl sydd â
phroblemau symudedd.
Fel rheol, rhentir y tai hyn i:
- ymgeiswyr dros 60 oed, neu sydd â phartneriaid sydd dros 60 oed
- ymgeiswyr anabl sydd angen y math hwn o lety.
Dywedwch wrthym ar eich ffurflen gais os ydych am i ni eich ystyried ar
gyfer y math hwn o eiddo.
Os bydd lle gwag ar gael mewn ty cysgodol ac nad oes unrhyw
ymgeiswyr priodol ar y rhestr aros, byddwn yn ystyried ymgeiswyr addas
eraill sydd ar y rhestr aros gyffredinol yn ôl eu hoedran h.y. yr ymgeiswyr
hynaf yn gyntaf. Bydd gofyn i denantiaid newydd mewn tai cysgodol gael cymorth gan y gwasanaeth wardeiniaid e.e. ymweliad dyddiol.
Eiddo sy'n "addas" i bobl hyn
Mae tai ar gael ar draws y fwrdeistref sirol sy'n addas i bobl hyn
oherwydd oedran y tenantiaid presennol, y lleoliad neu'r math o dy. Fel
rheol, byddwn yn rhoi'r tai hyn i:
- ymgeiswyr dros 50 oed
- ymgeiswyr ag anabledd corfforol sydd angen y math o dy sydd ar gael am resymau penodol.
Os nad oes unrhyw ymgeiswyr addas dros 50 oed, byddwn yn ystyried
ymgeiswyr iau yn ôl eu hoedran h.y. yr ymgeiswyr hynaf yn gyntaf.
Eiddo Addasedig
Mae rhai o'n tai wedi'u haddasu'n arbennig ar gyfer ymgeiswyr anabl.
Pan ddaw'r tai hyn yn wag, byddwn yn ceisio dod o hyd i ymgeisydd a
all ddefnyddio'r cyfleusterau hyn.
Os ydych eisoes yn un o denantiaid y Cyngor, efallai y gallwn ddarparu
addasiadau yn eich ty presennol i fodloni anghenion eich teulu.
Cysylltwch â'ch swyddfa dai leol am fwy o wybodaeth.
Ymgeiswyr Digartref
Os ydych yn ddigartref a bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i'ch helpu,
bydd gofyn i chi ledu eich dewisiadau er mwyn ystyried mathau o dai y
mae mwy ohonynt ar gael.
Bydd gofyn i chi ystyried unrhyw ardal yn y fwrdeistref sirol. Os na
fyddwch yn cael cynnig ty ar ôl 4 wythnos, byddwch yn cael eich ystyried
am unrhyw dy yn y fwrdeistref sirol.
Byddwch hefyd yn cael eich ystyried ar gyfer enwebiadau cymdeithasau
tai fel mater o drefn.
Gweler yr adran Derbyn a Gwrthod Cynnig yn nes ymlaen yn y llyfryn
hwn.
Ceisiadau gan Denantiaid Presennol y Cyngor
Croesawir ceisiadau gan denantiaid presennol y Cyngor sydd am symud
i dy mwy addas yn y fwrdeistref sirol.
Fel rheol, bydd raid i ymgeiswyr fod yn denantiaid sicr i Gyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn gwneud cais i drosglwyddo, oni bai nad
yw'r eiddo bellach yn bodloni eu hanghenion e.e. oherwydd newid i
amgylchiadau'r teulu, rhesymau iechyd ac ati.
I gael eich ystyried am hyn, ni ddylech fod wedi torri unrhyw rai o
amodau'ch tenantiaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- cofnodion o ymddygiad gwrthgymdeithasol
- bod y tu mewn i'ch ty mewn cyflwr gwael o ran atgyweiriadau ac addurniad yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt
- bod eich gardd mewn cyflwr gwael
Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig beth sydd angen i chi ei wneud
i gael eich ystyried ar gyfer trosglwyddo.
Os oes gennych ddyledion sy'n gysylltiedig â'r ty, ôl-ddyledion rhent,
taliadau ychwanegol yn ddyledus i ni, byddwch yn cael llai o flaenoriaeth
ar y rhestr aros trwy dynnu pwyntiau cosb (gweler yr adran Asesu eich
Pwyntiau yn y llyfryn hwn).
Polisïau Gosod 'Lleol'
Mae'r polisïau hyn yn nodi'r mathau o dai y gellir eu dyrannu i ardal benodol.
Rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd cydraddoldeb ac
ni ddylent wahaniaethu yn erbyn unrhyw grwp, boed hynny'n uniongyrchol
neu'n anuniongyrchol.
Rhaid i ni roi ffafriaeth resymol hefyd i'r ymgeiswyr hynny o fewn y
grwpiau dethol fel y pennwyd gan Ddeddf Ddigartref 2002.
Rydym wedi cyflwyno nifer o bolisïau gosod 'lleol' sydd ar waith ar gyfer:
- Cynllun cefnogaeth i bobl sydd ag anawsterau dysgu
- Llety i bobl hyn â chynllun cefnogaeth
- Eiddo sy'n "anodd eu rheoli"
Gall eich swyddfa dai ddarparu mwy o wybodaeth am p'un a fyddwch
yn gymwys i gael y math hwn o lety ai peidio.
Taflen Gwneud Cais Am Dy
Taflen Gwneud Cais Am Dy - fformat PDF 407Kb 
Ffurflen Gais Am Dy
Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Ffurflen Gais Am Dy - fersiwn Word 575Kb 
Ffurflen Gais Am Dy - fersiwn PDF 201Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|