Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Bod yn Denant i'r Cyngor

 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd yr eiddo yn barod ac yn gofyn i chi fynychu cyfweliad i gwblhau’r gwaith papur.

Eich Cytundeb Tenantiaeth

Pan fyddwch yn denant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, byddwch yn llofnodi cytundeb tenantiaeth â ni.  Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n amlinellu’r berthynas rhyngoch chi a ni.  Mae pob tenant newydd yn "denant rhagarweiniol", tra y bydd unrhyw un sy’n denant sicr i’r Cyngor neu Gymdeithas Tai yn ennill tenantiaeth "sicr".
   
Os ydych yn denant rhagarweiniol, bydd y 12 mis cyntaf yn eich cartref yn gyfnod prawf.  Esbonir eich holl hawliau a chyfrifoldebau yn y daflen sy’n dwyn y teitl "Eich Tenantiaeth Ragarweiniol".

Os ydych yn denant sicr, bydd gennych fwy o hawliau, a gellwch gadw eich cartref am faint bynnag o amser yr ydych yn dymuno, ar yr amod nad yw’r Llys wedi rhoi meddiant yr eiddo i’r Cyngor.

Eich Hawliau Fel Tenant Sicr

Esbonir eich hawliau a’ch rhwymedigaethau fel tenant sicr yn llawn yn y "Llawlyfr i Denantiaid".  Fel tenant sicr, gall eich hawliau gynnwys:

  • Trosglwyddo eich tenantiaeth i unrhyw gyd-denant pan fyddwch yn marw, neu i unrhyw ŵr, gwraig, partner neu berthynas agos os ydynt yn byw gyda chi ar adeg eich marwolaeth – proses o’r enw olyniaeth

  • Trosglwyddo eich tenantiaeth i rywun (fel yr uchod) cyn i chi farw a allai barhau â’r denantiaeth ar ôl i chi farw – proses o’r enw trosglwyddo

  • Derbyn lletywr neu is-osod rhan o’ch cartref

  • Cyfnewid eiddo â thenant sicr arall neu denant Cymdeithas Tai.

Eich Biliau

Rhaid i chi dalu eich rhent yn wythnosol.  Rydym yn eich annog i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, gan ei fod yn gyfleus i chi ac i ni.  Fel arall, gallwn roi cerdyn talu i chi sy’n eich caniatáu i dalu mewn swyddfeydd tai, gwefan a thros 100 o siopau lleol ar draws y fwrdeistref sy’n dangos yr arwydd PayPoint.  Gellwch hefyd dalu eich rhent dros y ffôn neu’r rhyngrwyd.  Os ydych yn ennill incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dâl Tai i’ch helpu i dalu eich rhent.

Mae talu eich rhent yn rhan o’ch cytundeb tenantiaeth ac rydych mewn perygl o golli eich cartref os ewch i ôl-ddyledion.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am dalu treth y cyngor, yswiriant ty, costau dwr a charthffosiaeth a chostau nwy a thrydan a gyflenwir i’r eiddo. 

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y mesuryddion ac yn rhoi’r darlleniadau i’ch cyflenwyr nwy a thrydan ar ddechrau eich tenantiaeth.

Gwaith Trwsio

Rydym ni’n gyfrifol am gadw strwythur yr eiddo a thu allan iddo mewn cyflwr da.  Byddwn hefyd yn gyfrifol am gadw’r canlynol mewn cyflwr da:

  • Gwres ac offer gwresogi dwr
  • Gwifrau trydanol a pheipiau nwy a dwr
  • Ffitiadau yn y gegin a’r ystafell
    ymolchi

Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw
ddiffygion neu ddifrod ar unwaith.  Os
byddwch yn difrodi eitemau (drysau neu
ffenestri) yn fwriadol, rhaid i chi eu hamnewid.  Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwn ni’n gwneud y gwaith ac yn codi tâl arnoch.  Rhaid i chi gadw eich cartref a’ch gardd mewn cyflwr glân a thaclus.

Eich Cymdogion

O bryd i’w gilydd, gall bobl anghofio bod eu gweithgareddau dyddiol arferol yn gallu bod yn niwsans ac yn gwylltio pobl eraill.  Gofynnwn i bob un o’n tenantiaid ystyried effaith eu gweithgareddau dyddiol ar eu cymdogion, gan roi sylw arbennig i:

  • chwarae cerddoriaeth uchel, parcio eich ceir, rheoli eich cwn, lleihau’r niwsans i gymdogion o ganlyniad i bartïon neu farbeciws.

Un o amodau eich cytundeb tenantiaeth newydd fydd sicrhau nad ydych chi, nac unrhyw un sy’n ymweld â chi, yn achosi niwsans i bobl eraill.  Byddwch mewn perygl o golli eich cartref os byddwch yn torri’r amodau hyn.

Eich Landlord

Darperir gwasanaethau tai gan 6 Swyddfa Tai.  Ym mhob un o’r swyddfeydd hyn rydym yn delio â chasglu taliadau, ôl-ddyledion rhent, y gofrestr tai, trosglwyddiadau a chyfnewidiadau, gwaith gwella a thrwsio a rheoli ystadau.

Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofal cwsmeriaid o ansawdd rhagorol i chi bob amser.  Mae rhoi tenantiaid yn gyntaf wrth wraidd ein holl weithgareddau.  Anelwn at ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon trwy fod yn ymatebol ac yn ofalgar, ac anelwn at gadw ein haddewidion.  Rydym yn gwrando ar ein tenantiaid, yn ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac mae angen i ni wybod os oes gennych unrhyw broblemau.

Hoffwn glywed gennych chi hefyd os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran sut y gallwn wella ein gwasanaethau, os ydych wedi cael trafferth wrth ddefnyddio unrhyw rai o’n gwasanaethau, neu os oes angen gwybodaeth arnoch am sut y gallwn eich helpu.

Os ydych am wneud sylw neu gwyno am y gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn, cysylltwch â’r:

Swyddog Sylwadau a Chwynion
Gwasanaethau Tai
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU

Ffôn: 01978 315442
Ebost: housing@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Mynegai Gwneud Cais Am Dy
Cymhwyster
Gwneud Cais Am Dy
Asesu Eich Pwyntiau
Cofrestru Eich Cais
Rhoi Gwybodaeth i Ni
Adolygu Eich Cais
Cynnig Eiddo i Chi
Gwrthod Neu Dderbyn y Cynnig
Bod yn Denant i'r Cyngor
Dewis Ardal
Eich Dewisiadau Tai Eraill
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint