Rôl eich Cynghorydd Lleol

Yn ogystal â chynrychioli eu cymuned a sicrhau bod barn y gymuned yn cael llais ym mhroses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gall Cynghorwyr weithredu ar ran pobl leol i ddatrys pryderon neu faterion penodol.

Pan fydd pobl yn gwneud cais am dŷ’r Cyngor, mae’n bosibl y byddan nhw’n mynd at eu Cynghorydd lleol i gael cyngor a chymorth. Mae nifer o bobl yn ansicr ynglŷn â rôl y Cynghorydd yn y broses o ddyrannu tai’r Cyngor.

Beth all eich Cynghorydd ei wneud...

  • Mynd at y Gwasanaethau Tai ar eich rhan, gyda’ch caniatâd, i sicrhau bod holl ffeithiau eich achos yn cael eu hystyried wrth asesu eich cais.
  • Rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr am y broses o wneud cais am dŷ’r Cyngor a’r tai sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae gan Gynghorwyr wybodaeth am ein stoc tai, gosodiadau a nifer yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr aros ym mhob ardal. Maen nhw hefyd yn cael gwybod am y tai sy’n dod yn wag yn eu ward.
  • Mae Aelodau’n cymryd rhan ar y cyd pan gaiff y Polisi Gosodiadau ei adolygu yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn cyrraedd ei nodau. Maen nhw hefyd yn cymeradwyo unrhyw Bolisïau Gosod Lleol sydd o bosibl yn gweithredu yn eich ardal.

Beth na all eich Cynghorydd ei wneud...

  • Penderfynu i bwy mae tŷ’r Cyngor yn cael ei ddyrannu neu fod yn rhan o’r penderfyniad. Gwneir dyraniadau yn unol â Pholisi Gosodiadau’r Cyngor. Caiff pob cais ei asesu a dyfernir pwyntiau iddo ar sail amgylchiadau cartref presennol yr ymgeisydd.
  • Gofyn am fanylion am eich cais, neu gais rhywun arall heb ganiatâd. Mae gwybodaeth bersonol megis enw unigolyn, cyfeiriad, amgylchiadau cartref presennol ac ati yn cael eu diogelu dan Ddeddf Diogelu Data 1998 ac ni all y Cyngor rannu’r manylion hyn heb gael caniatâd yr ymgeisydd.

yn ôl i'r brig