Cymhwyster

Ni fydd rhai ymgeiswyr yn gymwys a gallant gael eu heithrio rhag ymuno â'r rhestr aros am dy. 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Pobl sy'n iau nag 16 oed
  • Categorïau penodol o bobl o wledydd tramor oherwydd eu cenedligrwydd, statws mewnfudo neu fwriadau i fyw yn y wlad hon.
  • Pobl sy'n euog o ymddwyn mewn modd annerbyniol

megis ôl-ddyledion rhent difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu unrhyw fath arall o ymddygiad sy'n torri amodau tenantiaeth.  Rhaid i'r ymddygiad hwn fod yn ddigon difrifol i ni allu meddu ar orchymyn meddiant llwyr os oedd yr ymgeiswyr yn un o'n tenantiaid ni pan wnaed y cais.

Os ydym yn penderfynu nad ydych yn gymwys i ymuno â'r rhestr aros, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig, gan roi'r rhesymau pam.  Gellwch wneud cais i ni adolygu'r penderfyniad hwn o fewn 21 diwrnod.

Gweler ein "Polisi Gwahardd" am fwy o wybodaeth.

yn ôl i'r brig