Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Eich Dewisiadau Tai Eraill

 

Rydym yn cynghori pobl sy’n gwneud cais am dy i ystyried yr ystod lawn o ddewisiadau tai sydd ar gael.  Gallwn ond helpu nifer fechan o’r bob sy’n gwneud cais, a defnyddir y system bwyntiau i’n helpu i weld pa ymgeiswyr sydd angen y tai fwyaf.  Beth yw eich dewisiadau eraill?

Cyd-gyfnewid

Os ydych yn denant sicr, mae gennych hawl i gyfnewid eich ty ag un o denantiaid sicr eraill y Cyngor neu Gymdeithas Tai.  Rhaid i chi gael cytundeb ysgrifenedig gennym ni yn gyntaf, a dim ond mewn amgylchiadau penodol y gallwn wrthod rhoi caniatâd.

Gellwch weld rhestr o bobl sy’n fodlon cyfnewid tai ar y cofrestrau cyfnewid yn ein swyddfeydd tai lleol.  Dylech nodi ar eich ffurflen gais os ydych am gael eich cynnwys ar y gofrestr.  Gweler eich Llawlyfr i Denantiaid am fwy o fanylion.

Cymdeithasau Tai

Mae Cymdeithasau Tai yn gyrff annibynnol, nid er elw, sy’n adeiladu ac yn rheoli tai ac yn darparu cefnogaeth i’r rheiny sydd ag anghenion tai.  Gall cymdeithasau sy’n gweithredu yn ardal Wrecsam eich helpu drwy’r dulliau canlynol:

Trwy eu rhestrau aros eu hunain

Mae gan Gymdeithasau Tai lleol eu rhestrau aros eu hunain ar gyfer eiddo sy’n cael ei rentu.  Bydd eich tenantiaeth yn debyg iawn i denantiaeth y Cyngor, er y bydd eich hawliau’n wahanol.  Yn gyffredinol, gellwch gadw’r denantiaeth am ba bynnag hyd yr ydych ei eisiau.  Mae’r rhenti’n fforddiadwy a gellwch hawlio Budd-dâl Tai os ydych yn ennill incwm isel.  Dylech gysylltu â’r cymdeithasau tai am ffurflen gais.

Enwebiadau

Mae Cymdeithasau Tai yn gofyn i ni "enwebu" ymgeiswyr oddi ar ein rhestr aros ar gyfer rhyw 50% o dai’r Gymdeithas Tai sy’n dod ar gael.  Dylech nodi ar eich ffurflen gais os ydych am i ni eich ystyried ar gyfer hyn.

Taflen Enwebiadau

Taflen Enwebiadau - fformat PDF 272Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

Cydberchnogaeth / Tai Fforddiadwy

Mae Cymdeithasau Tai hefyd yn darparu rhai tai i’w rhan-rentu, rhan-brynu neu eu prynu am bris gostyngol.  Lluniwyd y cynlluniau hyn i helpu pobl sydd ag incwm isel neu gynilion cyfynygedig i brynu eu cartrefi eu hunain.  Ar hyn o bryd, mae Cymdeithasau Tai yn gweithio tuag at ddarparu mwy o’r tai hyn yn y sir.  Cysylltwch â nhw am fwy o wybodaeth.

Gweler rhestr o Cymdeithasau Tai sydd ag eiddo yn ardal Wrecsam

Rhentu'n Breifat

Efallai y byddwch am ystyried rhentu’n breifat gan landlord preifat hefyd.  Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael cymorth Budd-dâl Tai i dalu eich rhent.  Fel rheol, hysbysebir eiddo sydd i’w rentu’n breifat mewn papurau newydd lleol, neu gellwch ddod o hyd i eiddo drwy asiant gosod.

Gweler rhestr o Asiantau Gosod

 
English
 

Cyswllt i

Mynegai Gwneud Cais Am Dy
Cymhwyster
Gwneud Cais Am Dy
Asesu Eich Pwyntiau
Cofrestru Eich Cais
Rhoi Gwybodaeth i Ni
Adolygu Eich Cais
Cynnig Eiddo i Chi
Gwrthod Neu Dderbyn y Cynnig
Bod yn Denant i'r Cyngor
Dewis Ardal
Eich Dewisiadau Tai Eraill
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint