Asesu Eich Pwyntiau

Os ydych yn gymwys i ymuno â'r rhestr aros, byddwn yn asesu eich cais gan ddefnyddio'r cynllun pwyntiau canlynol i gyfrifo eich hawl. Gallem ddyfarnu un lefel o bwyntiau dan unrhyw rai o'r categorïau canlynol i adlewyrchu eich anghenion, heblaw am yr ymgeiswyr hynny nad oes ganddynt gartref parhaol (gweler Pwyntiau Ansicrwydd).

Ni fyddwn yn dyfarnu pwyntiau os oes tystiolaeth eich bod wedi gwaethygu eich amgylchiadau'n fwriadol e.e. trwy werthu eiddo neu dod â thenantiaeth yr oeddech yn gallu ei fforddio a'i chynnal i ben. Ni fydd ymgeiswyr sy'n ddigartref yn fwriadol yn cael y pwyntiau hyn.

Er mwyn cael eu hystyried, rhaid i blant fod yn byw gyda'r ymgeisydd fel eu prif gartref a rhaid i'r ymgeisydd fod yn cael Budd-dal Plant. O ganlyniad i'r galw parhaus am dai, ni ellir ystyried plant sy'n byw gyda'r ymgeisydd ar sail ran-amser trwy drefniadau mynediad.

Pwyntiau Digartrefedd

Os ydych wedi colli eich cartref neu'n debygol o wneud hynny yn y 28 diwrnod nesaf, gallem ddyfarnu:

  • 100 pwynt - Anfwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol
  • 50 pwynt - Anfwriadol ddigartref ond nid mewn angen balenoriaethol
  • 10 pwynt - Digartref yn fwriadol ac mewn angen blaenoriaethol
  • 5 pwynt - Digartref yn fwriadol ond nid mewn angen blaenoriaethol

Bydd y pwyntiau hyn yn cael eu dyfarnu ar ôl cyfweliad ac ymchwiliad ffurfiol i'ch amgylchiadau tai gan Swyddog Digartrefedd yn unig. Bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth ddigartrefedd. Bydd pwyntiau digartrefedd yn cael eu tynnu os byddwch yn gwrthod "cynnig terfynol" o lety "addas".

Pwyntiau Eiddo Gorlenwi

Os nad yw eich tŷ’n ddigon mawr ar gyfer eich anghenion, gallem ddyfarnu:

  • 75 pwynt  fesul gwely ychwanegol sydd ei angen (uchafswm o 150 pwynt)
    h.y. fesul unigolyn sydd angen llofft ychwanegol

Byddem yn ystyried bod angen llofftydd ar wahân ar gyfer:

  • pâr priod neu bâr sy’n cyd-fyw
  • unigolyn sengl neu riant sydd dros 16 oed
  • plentyn rhwng 8-15 oed (gan gynnwys yr oedrannau hynny) a fyddai’n gorfod rhannu ystafell â rhywun o’r rhyw arall

Oni bai eich bod yn gallu profi'n wahanol, byddwn yn gwneud tybiadau am gartref presennol yr ymgeisydd fel a ganlyn:

  • Tŷ ag un lofft = 2 le gwely
  • Tŷ â dwy lofft = 4 lle gwely
  • Tŷ â thair llofft = 5 lle gwely
  • Tŷ â phedair llofft = 7 lle gwely

Ni fyddwn yn dyfarnu pwyntiau os gellir osgoi gorlenwi trwy aildrefnu lle mae pobl yn cysgu, neu os yw'r gorlenwi wedi ei achosi'n fwriadol.

Tan-breswyliad

Os yw eich cartref presennol yn rhy fawr i’ch anghenion, gallem ddyfarnu:

  • 50 pwynt - fesul llofft nad oes ei hangen (i denantiaid presennol tai cymdeithasol, yr awdurdod lleol neu gymdeithasau tai yn unig)

Ni fyddwn yn dyfarnu pwyntiau i ymgeiswyr sydd wedi achosi tan-breswyliad oherwydd eu trefniadau cysgu.

Rhannu Cyfleusterau

  • 50 pwynt - I deuluoedd sydd â phlant neu sy'n disgwyl plentyn
  • 30 pwynt - I barau
  • 20 pwynt - I bobl sengl

Bydd y pwyntiau hyn yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sy'n rhannu ystafelloedd byw (lolfa, cegin neu ystafell ymolchi) â theulu arall (rhieni, ffrindiau, lletya ac ati) ac sy'n chwilio am gartref ar wahân.

Os oes perthynas wedi chwalu a bod yr ymgeisydd yn parhau i fyw gyda chyn bartner, bydd yr ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigolyn sengl h.y. y bydd angen ei lofft ei hun ac ati. Bydd angen tystiolaeth eich bod wedi gwahanu.

Ansicrwydd

Bydd y pwyntiau hyn yn cael eu dyfarnu os yw'r ymgeisydd yn byw mewn llety ansicr ar hyn o bryd, megis hostel, gwely a brecwast, unrhyw lety dros dro a ddarparwyd gennym ni neu unrhyw lety arall megis carafán, llety clwm neu sefydliad.

  • 50 pwynt - Llety dros dro CBSW
    I bobl sy'n anfwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol sydd wedi'u rhoi mewn llety dros dro gan Wasanaethau Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • 20 pwynt - Llety dros dro arall Hosteli a mathau eraill o lety dros dro lle mae arhosiad yr ymgeisydd yn gyfyngedig o ran amser e.e. The Foyer, hostel Hurst Newton ac ati
  • 20 pwynt - Ymgeiswyr sy'n cysgu ar y stryd neu sydd heb gartref parhaol. Bydd rhaid i ymgeiswyr sydd heb gartref parhaol brofi eu sefyllfa trwy ddarparu:
    • cadarnhad ysgrifenedig gan eu cyflogwyr o'u cyfeiriad at ddibenion gweinyddol
    • os ydych yn ddiwaith, cadarnhad ysgrifenedig gan yr Asiantaeth Budd-daliadau neu'r Ganolfan Waith mai'r cyfeiriad ar eich cais yw 'heb gartref sefydlog' (NFA) a manylion eich cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth. O ganlyniad i'r anawsterau wrth asesu eich amgylchiadau tai presennol, byddwch yn cael eich ystyried ar gyfer pwyntiau ansicrwydd yn unig ac ni fyddwch yn derbyn pwyntiau ar gyfer gorlenwi, rhannu ac ati.

Cyflwr yr eiddo

Os yw eich tŷ presennol mewn cyflwr gwael, gallem ddyfarnu:

  • 100 pwynt - “ Eiddo o safon anaddas” - eiddo sydd mewn cyflwr gwael iawn ac sy’n anaddas i fyw ynddo (angen cyswllt bwrdeistrefol arnoch)
  • 50 pwynt - Eiddo sydd angen ei drwsio ar frys
  • Bydd y pwyntiau hyn ond yn cael eu dyfarnu ar ôl i Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ymweld â’r cartref.
  • Rhaid gwneud atgyweiriadau mawr i godi eiddo’r ymgeisydd yn ôl at y safon. Gallai hyn gynnwys trwsio tu mewn neu du allan yr eiddo.
  • Mae Swyddogion iechyd yr Amgylchedd wedi ymrwymo’n gyfreithiol i gysylltu â landlordiaid sector preifat pan fo problemau ynglŷn ag atgyweiriadau. Dyfernir pwyntiau’n unig, os na fydd y landlordiaid, ar ôl cysylltu â hwy, wedi gwneud unrhyw ymgais i gywiro’r diffyg o fewn cyfnod rhesymol o amser a bennir gan Dîm Safonau Tai CBSW.
  • Ni fydd pwyntiau’n cael eu rhoi fel arfer i Denantiaid presennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam os gellir datrys y problemau ynglŷn ag atgyweiriadau.

Plant mewn fflatiau uchaf

Dim ond os ydych yn byw mewn fflat uwchben y llawr gwaelod a bod gennych blant yn byw gyda chi'n barhaol neu fod rhywun yn eich teulu'n disgwyl plentyn y gallwn ddyfarnu'r pwyntiau hyn. Rhaid darparu prawf o feichiogrwydd neu brawf o fudd-dal plant.

  • 70 pwynt - Dau neu fwy o blant dan 10 oed neu blant disgwyliedig yn byw uwchben y llawr gwaelod
  • 50 pwynt - Un plentyn dan 10 oed neu blentyn disgwyliedig yn byw uwchben y llawr gwaelod

Pwyntiau Iechyd a Chymdeithasol

Anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol

Os oes gennych gyflwr meddygol, anabledd neu angen cymdeithasol y gellir ei wella drwy eich ailgartrefu, gallem ddyfarnu:

  • 100 pwynt - Critigol (mae angen cyswllt bwrdeistrefol)
  • Hyd at 50 pwynt - Difrifol
  • Bydd y Panel Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dyfarnu'r pwyntiau ar ôl derbyn eich ffurflen Asesiad Meddygol ac Anghenion Arbennig. Rhaid darparu tystiolaeth ategol am amgylchiadau'r ymgeisydd ac unrhyw asiantaethau sy'n gysylltiedig â'r achos e.e. manylion unrhyw fudd-daliadau lles yr ydych yn eu cael, gwasanaethau cefnogi yr ydych yn eu cael, apwyntiadau a llythyrau atebol gan weithwyr proffesiynol sy'n nodi'n glir bod angen i chi gael eich ailgartrefu.
  • Mae achosion yn "gritigol" os yw'r ymgeisydd neu aelod o'i deulu:
    • yn dioddef o salwch difrifol, anabledd neu gyflwr meddygol e.e. afiechyd angheuol, anabledd parhaol neu afiechyd cynyddol ac nad yw'n gallu ymdopi yn ei gartref presennol. Ailgartefu yw'r unig opsiwn.
    • yn yr ysbyty ac yn methu â dychwelyd adref gan nad yw'n addas ar gyfer ei anghenion hirdymor oherwydd ei ddyluniad, ei leoliad ac/neu nad yw'n addas i'w addasu.
    • yn methu â defnyddio cyfleusterau hanfodol yn yr eiddo e.e. bath neu doiled, neu nad yw'r mynediad at yr eiddo ei hun yn addas. Ni ellir addasu'r eiddo i fodloni ei anghenion.
    • angen symud i gefnogi aelod o'i deulu neu unigolyn arall sydd ag afiechyd difrifol, anabledd neu gyflwr meddygol a gall yr unigolyn hwnnw ond ymdopi yn ei gartref presennol gyda chefnogaeth yr ymgeisydd.
    • ar fin gadael gofal yr awdurdod lleol ac angen ei gartref ei hun.
    • yn dioddef o afiechyd meddwl hirdymor neu barhaus y gellir ei leddfu trwy ailgartefu.
    • yn gallu rhoi rhesymau gofal cymdeithasol ailgartrefu, megis aflonyddwch hiliol, cynllun materion sy'n ymwneud â gorfodi tenantiaeth ac ati.
  • Mae achosion yn "ddifrifol" os yw'r ymgeisydd neu aelod o'i deulu:
    • yn ei chael yn anodd defnyddio cyfleusterau yn y cartref ac y gellir lleddfu hyn trwy ailgartrefu.
    • yn dioddef o broblemau iechyd new ofal cymdeithasol difrifl sy’n debygol o gael eu lleddfu pe byddai'n cael ei ailgartrefu yn agosach at ffrindiau neu deulu i gael cefnogaeth neu pe byddia’r unigolyn(ion) sy'n darparu'r gofal yn byw gerllaw.
    • yn dioddef  o afiechyd medwwyl y gellir ei lleddfu trwy ailgartrefu.
    • yn gallu rhoi rhesymau gofal cymdeithasol erail dros aligartrefu e.e. unigedd, aflonyddwch, anghydfodau â chymdogion ac ati.

Efallai y bydd angen i Therapydd Galwedigaethol ymweld â chi yn eich cartref i drafod eich cais yn fanwl. Bydd ef/hi yn asesu eich cartref presennol a sut y byddai symud ty o fudd i'ch sefyllfa feddygol.

Anghenion diogelwch cymunedol a lles

Os ydych yn rhan o brosiect cefnogaeth a noddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac angen eich ailgartrefu, gallem ddyfarnu:

10 pwynt

Mae'r pwyntiau hyn yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sydd dan nawdd prosiect CBS Wrecsam sy'n gweithio gyda phartneriaid i wella lles poblogaeth Wrecsam a diogelwch cymunedol. Gallai'r gwaith hwn gynnwys cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed i fyw'n annibynnol, cyn droseddwyr i'w hatal rhag ail-droseddu, adfer pobl sy'n camddefnyddio sylweddau a chefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu. Bydd gan ymgeiswyr sy'n gweithio gyda'r prosiectau canlynol hawl i gael y pwyntiau hyn:

  • Keyring
  • "The Moorlands"
  • Hurst Newton
  • CAIS
  • MIND
  • Tai Hafan
  • Hafan
  • NACRO
  • Hostel Sant Ioan

Pwyntiau Rheoli

300 pwynt

Dim ond y Panel Rheoli Symudiadau sy'n gallu dyfarnu'r pwyntiau hyn dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os yw eich materion tai brys yn disgyn y tu allan i'r polisi gosodiadau a bod sicrhau llety arall ar eich cyfer yn well er eich lles chi, er lles ystad neu er lles y gymuned.
  • os yw eich ailgartrefu'n fater brys, ond lle nad yw'r pwyntiau a ddyfarnwyd dan y cynllun pwyntiau'n adlewyrchu hyn.

Pwyntiau Cosb

  • Didynnir 50 o bwyntiau am unrhyw swm sy’n ddyledus o £1 hyd at £100.
  • 100 pwynt am £101 hyd at £200
  • 150 pwynt am £201 hyd at £300 ac ati.

Gallem ddidynnu pwyntiau os:

  • oes gennych unrhyw ddyledion sydd heb eu talu i ni neu landlord cymdeithasol arall, er enghraifft ôl-ddyledion rhent presennol neu flaenorol, taliadau ychwanegol ac ati.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym wedi didynnu unrhyw bwyntiau ac yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud i adfer y pwyntiau hynny, er enghraifft, gwneud taliadau rheolaidd a lleihau'r ôl-ddyledion neu wella cyflwr eich cartref.

Ni fyddwn yn didynnu’r pwyntiau hyn os yw’r arian sy’n ddyledus gennych dan ‘rwystr statud’ o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980 (unrhyw ddyled sy’n fwy na 6 oed ac na chymerwyd unrhyw gamau i’w adfer).

Pwyntiau Cyswllt Lleol

Cyswllt bwrdeistrefol

20 pwynt

Bydd y pwyntiau hyn yn cael eu dyfarnu i chi os:

  • ydych wedi byw yn y Fwrdeistref am 3 blynedd o leiaf yn y 5 mlynedd diwethaf ac wedi byw yno o’ch gwirfodd (er enghraifft, nid yw preswylio mewn hostel mechnïaeth yn gymwys), neu
  • os yw eich mam, tad, brawd, chwaer neu blant neu unrhyw oedolyn a oedd yn ymddwyn fel rhiant i chi wedi byw yn y Fwrdeistref ers y 5 mlynedd ddiwethaf.
  • oes gennych swydd barhaol yn ardal y Fwrdeistref a'ch bod yn gallu cadarnhau hyn trwy lythyr gan eich cyflogwr.
  • ydych yn geisiwr lloches a anfonwyd i Wrecsam heb unrhyw ddewis a'ch bod wedi cael statws ffoadur.
  • yn byw ar hyn o bryd mewn llety i ffoaduriaid (e.e. y lloches i ferched) o fewn y Fwrdeistref.

Cyswllt cymunedol

25 pwynt

Gallem hefyd ddyfarnu’r pwyntiau hyn os oes gennych gyswllt â'r "ardal gymunedol" yr ydych yn dymuno cael eich ailgartrefu ynddi drwy:

  • fyw yn yr ardal honno ar hyn o bryd ac am 3 blynedd o’r 5 mlynedd diwethaf o’ch gwirfodd.
  • fod â theulu yn yr ardal, er enghraifft: mam, tad, brawd, chwaer, plant neu unrhyw oedolyn a oedd yn ymddwyn fel eich rhiant ac y mae angen i chi fod yn agosach atynt i dderbyn neu roi cefnogaeth hanfodol a’u bod wedi byw yn y gymuned am 5 mlynedd. 
  • eich bod yn geisiwr lloches a anfonwyd i Wrecsam heb unrhyw ddewis a'ch bod wedi cael statws ffoadur.
  • yn byw ar hyn o bryd mewn llety i ffoaduriaid (e.e. y lloches i ferched) o fewn y Fwrdeistref.

Mae 8 "ardal gymunedol" yn y fwrdeistref.

Wrecsam

Rhostyllen, Tref Wrecsam (Acton, Bryn Offa, Colliery Close, Clos y Cilgant, Gatefield, Hermitage, Huntroyde, Little Acton, Maesgwyn, Maesydre, Maes Meifod, Sgwâr Napier, Rhosddu, Rhosnesni, 
Ardaloedd eraill y dref - Bronydre, Ffordd Caia, Maes Cambria)
Ardal Caia (Coed Aben - Tanycoed, Rhodfa Fenwick / Tanydre, Glan Gors, Cylch Kingsley, Ffordd Montgomery, Queensway, Spring Lodge, Whitegate

Broughton & Choedpoeth Brymbo, Brynteg, Bwlchgwyn, Caego, Coedpoeth-Adwy, Coedpoeth, Gwynfryn, Y Mwynglawdd, Moss, New Broughton, Pentre Broughton, Southsea, Tanyfron
Dyffryn Ceiriog a'r Waun Y Waun, Dolywern, Glyn Ceiriog, Halton, Llanarmon DC, Pontfadog, Tregeiriog
Gwersyllt & Llai Bradle, Cefn y Bedd/Tanyrallt, Gwersyllt, Llai, Pandy, Rhosrobin, Brynhyfryd
Plas Madoc Acrefair, Cefn Mawr, Froncysyllte, Garth, Plas Madoc, Rhosymedre, Rhiwabon, Trefor
Rhos Tre Ioan, Penycae, Ponciau, Rhosllanerchrugog
Gogledd Ddwyrain Gresffordd, Holt, Merffordd, Yr Orsedd, Pentre Maelor / Isycoed
De Ddwyrain Bangor Is-coed, Bettisfield, Bronington, Erbistock, Eutun, Hanmer, Marchwiel, Owrtyn, Llanerch Banna, Tallarn Green / Iscoyd, Worthenbury

yn ôl i'r brig