Gweithredu system Derbyniadau a Budd-daliadau Newydd

02 Mawrth 2010

Yn ddiweddar fe sefydlodd y Cyngor system dderbyniadau a budd-daliadau newydd ac un o’r tasgau cysylltiedig â hyn oedd cael cytundeb rhwng yr amseriadau talu presennol. Mae hyn wedi golygu bod nifer bach o denantiaid wedi cael 1 wythnos o fudd-dal tai er eu bod yn disgwyl cael pythefnos. Mae’r taliad o 1 wythnos o Fudd-dal Tai’n gywir, ac fe’i achoswyd oherwydd problem gyda’r system flaenorol, oedd wedi talu yn ôl amserlen anghywir.

Roedd y Cyngor eisoes wedi dweud wrth landlordiaid am newid yr amserlen. Fodd bynnag, mae’n ymddangos na chafodd nifer o denantiaid gadarnhad.

Bydd Budd-dal yn cael ei dalu ar 15 Mawrth a 29 Mawrth 2010 ac, felly, bydd tenantiaid yn cael budd-dal am bythefnos ar yr amseriad talu nesaf yn dilyn y cywiro hwn.

Os bydd unrhyw denantiaid angen rhagor o gyngor, dylent gysylltu â’r isadran fudd-daliadau ar (01978) 292032.

yn ôl i'r brig