Sylwadau a Chwynion Tai

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i Ofal Cwsmer. Fel rhan o’n hymdrech i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, mae angen inni wybod pan fo gennych gwyn.

Hoffem glywed gennych os oes gennych unrhyw sylwadau am sut y gallwn ni wella ein gwasanaethau, neu os cewch chi unrhyw anhawster wrth ddefnyddio unrhyw wasanaeth neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am sut y gallwn helpu.

Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion Tai

Mae’r Weithdrefn Gwynion yn ymdrin â phob cwyn, canmoliaeth.

Mae’r adran am sicrhau fod unrhyw foddhad neu anfodlonrwydd cwsmeriaid yn cael eu cofnodi a’u cyfathrebu i’r swyddog perthnasol sy’n gyfrifol am yr agwedd honno o’r gwasanaeth.

Canmoliaeth yw unrhyw glod neu foddhad a fynegir gan gwsmer ynglŷn â’r gwasanaeth neu’r ffordd y cawsant eu trin gan aelod o staff y mae’r cwsmer yn teimlo y dylid ei gofnodi. Fel rheol bydd hyn yn fwy na chwsmer yn cydnabod y gwasanaeth a gafwyd drwy ddweud diolch yn unig.

Beth yw cwyn?

Cwyn yw mynegiant o anfodlonrwydd, sut bynnag y’i gwneir, am:

  • Ymddygiad/gweithredoedd aelodau o staff
  • Safon y gwasanaeth a ddarperir neu’r modd y’i darparwyd
  • Methu â chyflenwi gwasanaeth o fewn graddfeydd amser cytunedig a diffiniedig
  • Diffyg gweithredu

Byddai’r uchod yn cynnwys:

  • Methu â chyflenwi gwasanaeth y mae galw ar y Cyngor, neu y mae’r Cyngor wedi penderfynu, ei gyflenwi
  • Esgeulustod neu oedi wrth ymateb i gais o fewn graddfeydd amser
  • Methu â dilyn polisïau, rheolau neu drefnau cytunedig
  • Methu â chyflawni cyfrifoldebau statudol
  • Agwedd anghymwynasgar gan berson cyflogedig
  • Malais, rhagfarn neu gamwahaniaethu

Nid yw cwyn yn:

  • Sôn am y tro cyntaf am fai, er enghraifft, darn o offer wedi torri
  • Cais cyntaf am wybodaeth neu esboniad o un o bolisïau neu drefnau’r Cyngor
  • Mater ble nad oes hawl apelio neu ddatrysiad cyfreithiol, er enghraifft apêl statudol e.e. apêl ynghylch gwaharddiad neu dderbyniad ysgol; cais yswiriant
  • Anghytuno â pholisïau’r Cyngor neu ddefnydd o reoliadau gorfodi neu gyda phenderfyniad a ystyriwyd yn gywir yn unol â pholisïau, trefnau neu’r Gyfraith.

Mae’r adran yn cydnabod fod cwynion a chanmoliaeth yn offerynnau rheoli i fesur boddhad ein cwsmeriaid gyda’r gwasanaeth a ddarparwn. Mae’r cyfathrebiadau yn brawf ar realiti, ac mae’n rhaid inni ystyried y rhain ac ymateb iddynt. Mae’r wybodaeth hon yn gyfle inni adolygu ein systemau, sicrhau nad ydym yn darparu gwasanaeth gwael y tro nesaf a gwella’r gwasanaethau a ddarparwn.

Beth yw’r Gweithdrefn Cwyno?

Cofrestrir pob cwyn cychwynnol gan y Swyddog Cwynion.

Sut i gwyno i’r Gwasanaeth Tai

Swyddog Sylwadau a Chwynion
Gwasanaethau Tai
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU

Ffôn: 01978 315300
E-bost: housing@wrexham.gov.uk

Rydym eisiau i’n hymateb i chi fod yn gyflym, yn deg, yn gwrtais ac yn fuddiol. Byddwn yn cydnabod eich sylwadau, eich canmoliaeth neu gwyn o fewn pum diwrnod gwaith.

Byddant yn anelu i ymchwilio i’r mater ac yn rhoi ymateb ysgrifenedig llawn i chi o fewn 20 diwrnod gwaith. (Os yw’r mater yn un cymhleth ac yn cymryd mwy nag 20 diwrnod, byddwch yn derbyn ateb yn y cyfamser o fewn y cyfnod hwnnw yn esbonio sut bydd y mater yn mynd yn ei flaen)

Swyddog Cwynion Corfforaethol

Os byddwch yn dal yn anhapus gyda’r ymateb yma neu gyda’r ffordd y deliwyd â’ch cwyn, gallwch ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Bydd yr Adolygiad yma yn annibynnol ar yr adran tai.

Cysylltwch â’r Swyddog Cwynion Corfforaethol y Cyngor ar 01978 292201, a fydd yn hapus i’ch cynghori ymhellach. I gael gafael ar wasanaeth RNID Typetalk, dylai defnyddwyr ddeialu 18001 01978 292201.

Yr Ombwdsmon

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon â chanlyniad eich cwyn, gallwch gwyno’n uniongyrchol i:

Yr Ombwdsmon
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ

Ffôn: 01656 641150
Ffacs: 01656 641199

yn ôl i'r brig