Archwiliad Mewnfudo

Pam rwyf angen Archwiliad Mewnfudo?

Wrth wneud cais i’r Awdurdodau Mewnfudo, bydd angen i’r noddwr neu’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth am gyflwr cartref eu llety arfaethedig, i fynd gyda’u cais.
Wedi derbyn cais bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn gwneud archwiliad o’r llety i sicrhau fod y llety:

  • yn rhydd o adfeiliad
  • a oes dim am yr adeilad fydd yn niweidiol i iechyd y deiliaid
  • a fydd y tŷ wedi ei orlenwi

Bydd angen y wybodaeth ganlynol i gefnogi’r cais:

  • Enw a dyddiad geni'r unigolyn sy’n ceisio am fynediad i’r DU.
  • Enw a dyddiad geni’r holl ddeiliaid eraill yn yr eiddo sydd i’w archwilio.
  • Copi o Gytundeb Tenantiaeth neu Brawf Perchenogaeth o’r eiddo.
  • Tystysgrif Diogelwch Nwy cyfredol ar gyfer eiddo i’w rentu.

Ar hyn o bryd ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.

Petaech yn dymuno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wneud archwiliad mewnfudo cyswllt Safonau Tai.

yn ôl i'r brig