Yn yr adran hon cewch strategaethau cyfredol a chynlluniau a gwybodaeth ystadegol. Yma cewch wybodaeth am y prif faterion tai a chefnogi yn Wrecsam a sut y bwriadwn fynd i'r afael â hwy yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r rhybudd yma yn unol ag Adrannau 56 i 60 Deddf Tai 2004 a Rheoliad 9 o Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006.
Rhoddir rhybudd trwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dynodi cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer tai amlfeddiannaeth (TA). Mae’r dynodiad yn berthnasol i ardal gyfan Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Adnabyddir y dynodiad fel “Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2011”.
Gwnaethpwyd y dynodiad yng Nghyfarfod Bwrdd Gweithredol y Cyngor y 7fed Mehefin 2011. Nid oedd rhaid cadarnhau’r dynodiad. Mae’r Gymeradwyaeth Gyffredinol o dan Ddeddf Tai 2004 (Trwyddedu TA Ychwanegol) (Cymru) 2007, a ddaeth i rym y 13eg Mawrth 2007, yn berthnasol i’r dynodiad.
Bydd y dynodiad yn effeithiol o’r 1af Tachwedd 2011 ac oni bai ei fod wedi ei ddirymu cyn hynny, bydd yn peidio â bod yn weithredol y 31ain Hydref 2016. Mae’r dynodiad yn berthnasol i bob Tŷ Amlfeddiannaeth yn y Fwrdeistref Sirol heblaw’r rhai sydd wedi eu heithrio gan yr adrannau perthnasol o Ddeddf Tai 2004.
Dylai unrhyw landlord, sawl sy’n rheoli/gosod neu denant yn y Fwrdeistref Sirol geisio cyngor gan wasanaeth Safonau a Strategaeth Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynglŷn ag a yw’r dynodiad yn effeithio ar eu heiddo hwy.
O dan adran 72(1) o Ddeddf Tai 2004, mae rhywun yn cyflawni trosedd os yw’r sawl sydd a rheolaeth neu sy’n rheoli TA y mae’n rhaid iddo fod wedi ei drwyddedu ond nad yw wedi ei drwyddedu felly. Bydd rhywun sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon, wedi ei gollfarnu’n ddiannod, yn agored i ddirwy na fydd yn fwy nag £20,000. Ar ben hynny, gallai orfod talu’n ôl hyd at 12 mis o rent a gasglwyd yn ystod yr amser yr oedd yr eiddo heb drwydded.
Er mwyn i gais gael ystyriaeth mae’n rhaid iddo roi manylion a ragnodir ac mae’n rhaid iddo fod gyda’r ffi drwyddedu briodol. I ofyn am gais am drwydded neu am gyngor cyffredinol mae croeso i chi gysylltu â Safonau a Strategaeth Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7TU Fôn (01978) 315300 E-bost housing@wrexham.gov.uk.
Mae copi o’r dynodiad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd yn y Dderbynfa, Safonau a Strategaeth Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7TU.
Dewisiadau Tai ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Dewisiadau Tai ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam - PDF Format - 144Kb![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.