Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cyfraddau Lwfans Tai Lleol

 

Mae’r Lwfans Tai Lleol, LTLl, yn dibynnu ar ba ardal yr ydych yn byw ynddi a nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar bawb sy’n byw yn y tŷ.

Rhennir Wrecsam yn dair ardal LTLl a elwir yn Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang neu AMRhE. Mae’r AMRhE yng Nghymru yn cael eu gosod gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti, sy’n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae AMRhEau yn Lloegr yn cael eu gosod gan y Gwasanaeth Rhenti, asiantaeth weithredol o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Cytunir ar AMRhEau trawsffiniol ar y cyd gan y ddau wasanaeth. Mae Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti a’r Gwasanaeth Rhenti yn annibynnol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae cyfraddau’r LTLl yn cael eu darparu’n fisol gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti ac ar gael ar ein gwefan ar ddechrau pob mis. Nid yw’r cyfraddau’n newid bob mis.

Gan gyfrif pob preswylydd unwaith yn unig ac yn y grŵp cyntaf y maent yn perthyn iddo, caniateir un ystafell wely ar gyfer:

  • pob pâr o oedolion
  • unrhyw oedolyn arall dros 16 oed
  • unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw sydd dan 16 oed
  • unrhyw ddau blentyn dan 10 oed beth bynnag fo’u rhyw
  • unrhyw blentyn arall

Mae hawliwr sengl o dan 25 mlwydd oed yn gallu cymhwyso am dreth ystafell rhannol.

Lefelau rhent Lwfans Tai Lleol Tachwedd 2008 (wythnosol)

Nifer ystafelloedd Wrecsam a De Clwyd Sir Amwythig Gorllewin Sir Gaer
Ystafell a rennir £54.00 £69.46 £64.62
1 Ystafell wely £84.04 £94.62 £109.62
2 Ystafell wely £107.31 £114.23 £126.92
3 Ystafell wely £126.92 £135.00 £150.00
4 Ystafell wely £160.38 £183.46 £201.92
5 Ystafell wely £184.62 £229.62 £276.92
 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint