Gwasanaethau Tai Strategol Gwybodaeth a Blaenoriaethau Allweddol 2008-09

Diben yr adran hon yw amlinellu strwythur y Gwasanaeth Tai Strategol ac egluro beth yw’r gwaith a wneir ym mhob un o’r gwahanol adrannau.

Mae’r Gwasanaeth Tai Strategol yn un o dair ‘cainc’ yr adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd, (y ceinciau eraill yw gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Landlord). Ceir manylion y tair adran isod.

1. Strategaeth a Safonau Tai

Adran Strategaeth Dai sy’n gyfrifol am weithredu strategaeth leol tai, sy’n datgan mai’r “weledigaeth ar gyfer Wrecsam yw gweld marchnad dai yn y dyfodol sy’n ateb anghenion ac uchelgeisiau tai trigolion”.

Mae’r tîm Strategaeth yn gyfrifol am:

Mae’r Gwasanaeth yn ceisio codi safonau yn y sector preifat.  Mae tîm o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn archwilio eiddo, gan gynnwys Tai Amlddeiliadaeth (HMO’s), gan orfodi deddfwriaeth o ran Safonau Tai.  Mae’r Tîm Safonau Tai yn gyfrifol am:

  • Archwilio eiddo – dan System Mesur Diogelwch ac Iechyd ar gyfer Tai , gan gynnwys rhagofalon tân, mannau dianc, gorlenwi, mwynderau a pheryglon. 
  • Gwelliant a Gorfodi i gyflawni safonau priodol
  • Archwilio cwynion gan denantiaid neu gymdogion eiddo ar rent 
  • Archwilio a thrwyddedu Tai Amlddeiliadaeth
  • Cefnogi a hyrwyddo cynllun Achredu Landlordiaid Cymru
  • Gweithio gyda landlordiaid drwy Fforwm Landlordiaid Sector Preifat i wella safonau yn y sector rhent preifat drwy wybodaeth a chyngor.    
  • Lleihau nifer yr eiddo gwag o fewn y fwrdeistref, drwy’r Strategaeth Cartrefi Gwag.
  • Cynnig cyngor i landlordiaid, tenantiaid, asiantaethau gosod tai ayb.  

2. Cefnogi Pobl

Fframwaith ariannu cenedlaethol yw Cefnogi Pobl a sefydlwyd yn 2003, i drosglwyddo gwasanaethau sy’n ymwneud â chefnogaeth tai i bobl sy’n agored i niwed, gan hybu annibyniaeth yn y gymuned.

Ceir dwy ffrwd ariannu
-   Grant Cefnogi Pobl (SPG) y mae’r Awdurdod Lleol yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ariannu gwasanaethau cefnogi sy’n ymwneud â thai ar gyfer pobl hŷn a grwpiau cleientiaid sy’n derbyn gofal yn y gymuned, a

  • Grant Refeniw Cefnogi Pobl (SPRG) a delir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i holl ddarparwyr gwasanaethau tai â chymorth ar gyfer yr holl grwpiau cleientiaid eraill sy’n agored i niwed. 

Enghreifftiau o wasanaethau a ariennir yn y ffyrdd hyn yw:

  • Tai cysgodol ar gyfer pobl hŷn
  • Lloches i fenywod
  • Cefnogaeth â thenantiaeth i bobl sydd â phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau
  • Llety â chymorth ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu

Mae’r tîm yn gyfrifol am drosglwyddo’r rhaglen Cefnogi Pobl yn Wrecsam.  Mae’r gwaith yn cynnwys:

  • Sefydlu cytundebau a monitro cytundebau
  • Datblygu’r Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl (SPOP) blynyddol
  • Comisiynu gwasanaethau newydd

3. Adnewyddu Tai

Nod y gwasanaeth hwn yw gwella ansawdd tai ac iechyd trigolion, trwy ddarparu cynlluniau a mentrau a ariennir drwy grant, mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill megis Gofal a Thrwsio.

Mae rhan fawr o waith y tîm yn ymwneud â darparu addasiadau drwy grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, sy’n galluogi pobl i barhau i fyw yn eu tai gan hybu annibyniaeth a diogelwch yn y cartref.

Cynlluniau eraill sydd ar waith ar hyn o bryd yw:

  • Cymorth trwsio cartrefi
  • ‘Houseproud’ (menter benthyciadau cartref Gogledd Cymru)
  • Cynllun atal anafiadau ‘Keep Safe’ 
  • Cynllun Dementia gyda Teleofal
  • Cartrefi Cynnes Wrecsam

Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am Strategaeth Adnewyddu Tai y Sector Preifat.

4. Adnewyddu Ardal

Mae’r Tîm Adnewyddu Ardal yn gyfrifol am oruchwylio a gweinyddu gwaith o fewn ardaloedd a ddatganwyd yn ardaloedd adnewyddu tai. Mae dwy ardal adnewyddu yn Wrecsam ar hyn o bryd, sef Smithfield/Hightown, Brymbo/Broughton, a De Orllewin Wrecsam.  Y nodau a’r amcanion yw ennyn hyder ac ymddwyn fel catalydd ar gyfer buddsoddiadau eraill trwy ddarparu tai sector preifat o ansawdd a gwneud gwelliannau amgylcheddol er mwyn gwella delwedd yr ardaloedd.  

Yn flynyddol, gwerir tua £2.5 m o fewn yr Ardaloedd Adnewyddu Tai ar gynlluniau trwsio grŵp a gwella ffabrig allanol tai perchnogaeth breifat ac ar gynlluniau amgylcheddol niferus.  Cyn bo ardal yn cael ei datgan yn Ardal Adnewyddu Tai, rhaid cynnal ymarferiad deuddeg mis a elwir yn Asesiad Adnewyddu Cymdogaeth.

Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am Strategaeth Adnewyddu Tai y Sector Preifat ynghyd â’r tîm Adnewyddu Tai.

5. Digartrefedd

Mae’r tîm Digartrefedd wedi ei leoli yn Stryt y Lambpit, ac mae’n darparu cymorth a chyngor ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.  Mae’r tîm yn rheoli unedau o lety dros dro ble gall pobl aros tra bo’r tîm yn cynnal ymchwiliadau i’w statws digartref.  Os canfyddir bod person yn ddigartref a’u bod mewn angen blaenoriaethol, yn ôl y ddeddfwriaeth, rhoddir cymorth iddynt sicrhau llety parhaol. 

Y categorïau angen blaenoriaethol yw:

  • Merch feichiog
  • Unigolyn sydd â phant dibynnol
  • Unigolyn sy’n agored i niwed fel canlyniad i henaint, afiechyd meddwl, anabledd ayb. 
  • Unigolyn sy’n ddigartref trwy dân, llifogydd neu drychineb 
  • Unigolyn sy’n gadael gofal neu sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol neu’n ariannol (18 oed neu hŷn, ond dan 21) 
  • Unigolyn sy’n dianc rhag trais yn y cartref
  • Unigolyn sy’n ddigartref wedi gaeael y lluoedd arfog
  • Cyn-garcharor sy’n ddigartref wedi ei rhyddhau/rhyddhau o’r carchar
  • Unigolion 16/17 mlwydd oed

Hefyd, mae dau Swyddog Atal Digartrefedd neilltuol yn gwneud llawer o waith canolbwyntiedig ar atal digartrefedd.  Maent wedi bod wrth eu gwaith ers Ebrill 2006, ac yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, yn cynorthwyo pobl i drafod gyda’u landlord, neu gydag aelodau o’r teulu, i’w galluogi i barhau yn eu llety presennol, yn hytrach na chael eu gwneud yn ddigartref. 

yn ôl i'r brig