Unwaith fod yr eiddo’n barod i chi symud iddo, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn gofyn i chi ddod i gyfweliad i gwblhau'r gwaith papur.

Eich cytundeb tenantiaeth

Pan rydych yn dod yn denant efo ni, byddwch yn llofnodi cytundeb tenantiaeth. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n amlinellu’r berthynas rhyngoch chi a ni. Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn dweud wrthych os ydych yn denant rhagarweiniol neu’n denant diogel. Mae pob tenant newydd yn dod yn denantiaid rhagarweiniol. Bydd tenantiaid diogel neu sicr presennol gyda ni neu cymdeithas dai yn cael tenantiaeth ddiogel.

Os ydych yn dod yn denant rhagarweiniol, mae’r 12 mis cyntaf yn eich cartref yn gyfnod prawf. Eglurir eich hawliau a’ch cyfrifoldebau i chi yn y daflen o'r enw "Eich Tenantiaeth Ragarweiniol”, a ddarperir yn eich pecyn cyflwyno.

Os ydych yn dod yn denant diogel mae gennych fwy o hawliau, a gallwch gadw eich cartref am gyhyd ag y dymunwch chi, ar yr amod nad yw’r llys wedi rhoi meddiant o’r eiddo i ni.

Eich biliau

Rhaid i chi dalu eich rhent yn wythnosol. Rydym yn eich annog i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, gan mai dyma’r dull mwyaf cyfleus i chi ac i ni.

Mae talu eich rhent yn un o amodau eich cytundeb tenantiaeth a bydd perygl i chi golli eich cartref os oes dyled gennych.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am dalu eich treth y cyngor, yswiriant y cartref, taliadau dŵr a charthffosiaeth a thaliadau am nwy a thrydan a gyflenwir i’ch eiddo.

Mae’n bwysig eich bod yn cymryd darlleniadau mesurydd ac yn rhoi gwybod i’ch cyflenwyr nwy a thrydan am y darlleniadau, unwaith y bydd eich tenantiaeth yn dechrau.
 

Eich cymdogion

Weithiau mae pobl yn anghofio y gall digwyddiadau bob dydd ac arferol fod yn achos niwsans i eraill. Gofynnwn i bob tenant ystyried effaith bosibl gweithgareddau bob dydd ar eu cymdogion, fel...

  • chwarae cerddoriaeth yn uchel 
  • partïon neu farbeciws 
  • parcio eich car
  • cadw eich ci dan reolaeth

Un o amodau eich cytundeb tenantiaeth newydd yw nad ydych chi, nac unrhyw un sy’n ymweld â chi, yn achosi niwsans i bobl eraill. Bydd perygl i chi golli eich cartref os ydych yn torri’r amodau hyn.

Eich landlord

Darperir gwasanaethau tai drwy ein chwe swyddfa stad dai. Rydym yn delio â chasglu arian, ôl-ddyledion rhent, y gofrestr tai, trosglwyddiadau a chyfnewidiadau, atgyweirio a gwelliannau a rheoli eich stadau.

Ein nod yw darparu gwasanaethau effeithiol drwy fod yn ymatebol a gofalgar. Rydym yn gwrando ar ein tenantiaid – mae angen i ni eich hysbysu chi ac mae angen i ni wybod pan fydd problem gennych.

Hoffem hefyd glywed awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn ni wella ein gwasanaethau, os ydych yn cael unrhyw anhawster yn defnyddio unrhyw wasanaethau, neu os oes eisiau unrhyw wybodaeth arnoch o ran sut y gallwn ni helpu.

Gwaith Trwsio

Rydym yn gyfrifol am gadw'r adeiledd a’r tu allan i’ch eiddo mewn cyflwr da. Rydym hefyd yn cadw’r canlynol mewn cyflwr da...

  • Cyfarpar gwresogi a chynhesu dŵr
  • Weirio trydanol, nwy a phibellau dŵr
  • Gosodion ceginau ac ystafelloedd ymolchi

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw namau neu ddifrod. Os ydych chi’n difrodi eitemau yn fwriadol (drysau neu ffenestri) mae’n rhaid i chi eu disodli, os na fyddwch yn gwneud, fe wnawn ni’r gwaith a chodi tâl arnoch chi. Mae’n rhaid i chi gadw eich cartref a'ch gardd mewn cyflwr glân a thaclus.