Wedi eu henwi’n draddodiadol yn garafannau statig neu gartrefi symudol, mae cartrefi parc yn amrywio’n fawr mewn maint a chyflwr, mae rhai fel byngalo; mae eraill yn debycach i garafannau traddodiadol. Mae’r rhan fwyaf o breswylwyr yn berchen ar eu cartrefi parc eu hunain. Yn nodweddiadol mae preswylwyr yn dod i gytundeb i gadw eu cartref yn y parc a thalu tâl safle i’r perchennog.
Mae hawliau a chyfrifoldebau perchenogion cartrefi parc yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983. Mae’r Ddeddf yn amlinellu hawliau perchenogion tai parciau i gael cytundeb gyda pherchennog y safle yn caniatáu iddynt fyw yn eu cartref ar y safle fel eu prif gartref swyddogol. Mae’r Ddeddf yn ymdrin â materion eraill yn cynnwys diogelwch daliadaeth, gwerthiant cartrefi symudol a manylion cytundebau eraill rhwng perchenogion safle a phreswylwyr. Mae’r Ddeddf yn gymwys i safleoedd trwyddedig dan berchenogaeth breifat ac i safleoedd ym mherchenogaeth awdurdodau lleol. Mae Deddf Safleoedd Carafannau 1968 yn rhoi amddiffyniad i berchenogion tai parciau rhag aflonyddu a diogelwch rhag eu troi allan. Mae’n nodi fod rhaid i berchennog safle fynd i’r llys i droi perchennog tŷ parc allan ar safle wedi ei ddiogelu.
Daeth mwy o amddiffyniad i drigolion tai parciau yng Nghymru ar 30 Tachwedd 2007, yn cynnwys hawl i gymdeithasau trigolion cymwys gael ymgynghoriad gyda pherchennog y safle ynglŷn â gweithrediad a rheolaeth eu parc. Bydd y newidiadau’n gymwys yn awtomatig i bob cytundeb cyfredol ac i gytundebau newydd. Mae mesurau allweddol eraill yn cynnwys:
Rheolir datblygiad safleoedd tai parc a’u safonau ffisegol drwy ganiatâd cynllunio ar gyfer defnyddio tir fel ‘maes carafán’, a’r system drwyddedu safle o dan Ddeddf Meysydd Carafán a Rheoli Datblygiad 1960 (‘CSCDA’). O dan ‘CSCDA’ rhaid i holl safleoedd tai parc (ac eithrio’r rhai a gynhelir gan awdurdodau lleol), gael trwydded safle gan yr awdurdod lleol ar barc gyda chaniatâd cynllunio perthnasol. Nid oes dyletswydd ar awdurdodau i archwilio a monitro parciau. Mae gan awdurdodau bwerau i erlyn unrhyw fethiant i gydymffurfio gydag amodau trwydded a gallent gyflawni gwaith yn ddiofyn, ond nid oes ganddynt ddyletswydd i wneud hynny.
Am fwy o wybodaeth am Gartrefi Parc neu Gartrefi Symudol, ewch i wefan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (cyswllt allanol) neu cysylltwch â’r Uned Sector Breifat yn Llywodraeth Cynulliad Cymru (cyswllt allanol).
Mae llyfryn dan y teitl 'Cartrefi Symudol – Canllaw i breswylwyr a pherchenogion tai' (cyswllt allanol) yn egluro eich hawliau o dan y Ddeddf ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol arall. Cofiwch ymweld.