Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Hawl i Brynu

Hysbysiad Pwysig

Yn dilyn Diddymu'r Ddeddf Hawl i Brynu a hawliau cysylltiedig (Cymru) 2018 yn ennill cydsyniad brenhinol, Bydd yr hawl sydd gan denantiaid cynghorau a chymdeithasau tai i brynu neu gaffael eu cartref yn dod i ben ar 26 Ionawr 2019.

Gall tenantiaid cymwys gyflwyno cais Hawl i Brynu i'r Cyngor hyd at, a chan gynnwys, 25 Ionawr 2019. Ni dderbynnir unrhyw gais a wneir ar ôl y dyddiad hwn.

Cysylltwch â'ch swyddfa ystad os oes gennych unrhyw ymholiadau.

O dan y cynllun Hawl i Brynu, gellwch brynu eich cartref am bris is na’i werth llawn ar y farchnad.  Mae hyn oherwydd bod gennych hawl i ostyngiad am i chi dreulio cyfnod penodol fel tenantiaid yn eich cartref.

Mae’r llyfryn hwn yn disgrifio’r cynllun Hawl i Brynu fel y caiff ei weithredu heddiw.  Rydym wedi ceisio ei wneud yn rhwydd i’w ddeall – ond ni ddylid ei ddefnyddio yn lle cyngor proffesiynol.

Mae’r llyfryn yn grynodeb o’r gyfraith sy’n ymwneud â’r Hawl i Brynu.  Ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr.  Os hoffech ymarfer eich Hawl i Brynu, fe’ch argymhellir i gael cyngor cyfreithiol ac ariannol annibynnol am eich amgylchiadau unigol ac i’ch helpu â’r broses gyfreithiol o brynu tŷ.  Dylech hefyd gael cyngor ariannol annibynnol am wahanol fathau o forgeisi sydd ar gael.

Anelir yr Hawl i Brynu at denantiaid sicr awdurdodau lleol.

Rhybudd Pethau iw Hystyried Cyn Penderfynu Prynu Eich Cartref

Mae’n debyg mai prynu eich cartref fydd penderfyniad ariannol mwyaf eich bywyd, felly cymerwch eich amser i ystyried p’un ai dyma’r dewis gorau i chi.  Os byddwch yn ymarfer yr Hawl i Brynu, byddwch yn dod yn gyfrifol am yr holl gostau o gynnal a chadw eich cartref, gan gynnwys gwaith trwsio arferol, gwaith trwsio mawr ar yr adeilwaith a gwelliannau iddo.  Os byddwch yn dod yn ddaliwr prydles trwy brynu eich fflat, bydd raid i chi dalu costau gwasanaeth bob blwyddyn a chostau gwaith trwsio ac ailwampio mawr hefyd.

Fel tenant, efallai y cewch hawlio budd-dal tai i’ch helpu gyda’ch rhent.  Fel perchen-ddeiliad, ni fyddwch yn derbyn unrhyw fudd-dal tai i’ch helpu â chostau eich morgais.

Os ydych yn henoed ac yn berchen ar eich tŷ eich hun,  gallai ei werth gael ei gymryd i ystyriaeth wrth asesu p’un a ydych yn gymwys i gael help ariannol ar gyfer costau gofal preswyl.

Os oes angen cyngor arnoch am unrhyw agwedd o’r cynllun Hawl i Brynu, cysylltwch â’r Adran Tai yn gyntaf.  Os bydd unigolyn neu gwmni yn cynnig eich helpu i brynu eich tŷ cyngor, gwiriwch pa fudd fyddant yn ei gael ohono a siaradwch gyda’r Adran Tai cyn arwyddo unrhyw ddêl.

Mae pobl weithiau’n honni y gallai’r cynllun Hawl i Brynu newid neu ddod i ben.  Mewn gwirionedd, mae’r Llywodraeth yn gwbl ymroddedig i’r egwyddor Hawl i Brynu.  Ond mae’n pryderu bod gwerthiant yn effeithio ar nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael mewn rhai ardaloedd, a bod y rheolau’n cael eu hecsbloetio gan gwmnïau.  Dylech amau unrhyw un sy’n ceisio dweud wrthych fod yr Hawl i Brynu yn dod i ben.  Efallai y byddant yn ceisio eich perswadio i wneud rhywbeth er eu budd nhw ac nid eich budd chi.

Ambell waith, gofynnir i denantiaid dalu llawer o arian am bethau y bydd landlordiaid yn eu gwneud am ddim – er enghraifft, mae ffurflenni cais Hawl i Brynu ar gael am ddim yn yr Adran Tai.  Mae rhai cwmnïau’n cynnig swm cyfan o arian i denantiaid mewn dêl lle mae’r cwmni yn dod yn berchen ar yr eiddo yn y pen draw – gelwir hyn yn gytundeb ail-werthu gohiriedig.  Mae hyn yn dda i’r cwmni, gan y byddant yn gallu codi rhent uwch na’r cyngor pan fyddant yn prydlesu’r eiddo.  Ond nid yw hyn bob amser yn dda i’r tenantiaid, oherwydd efallai na fydd yr arian y byddant yn ei gael yn ddigon i brynu cartref arall.  Mae rhai tenantiaid wedi cael eu gorfodi i fod yn ddigartref ar ôl cytuno i ddeliau tebyg.  Ers 18 Ionawr 2005, os ydych yn arwyddo cytundeb ail-werthu gohiriedig, rhaid ad-dalu’r gostyngiad pan arwyddir y cytundeb, nid pan drosglwyddir perchnogaeth yr eiddo.

Cyn cytuno i unrhyw gynnig neu ddêl, gofynnwch i bwy mae’r ymgynghorydd yn gweithio, p’un a ydynt yn gwerthu morgeisi neu wasanaethau ariannol eraill, a p’un a yw ef neu hi yn cael comisiwn am werthu cynnyrch penodol.

Cyn derbyn benthyciad, sicrhewch eich bod yn deall beth mae’r ddêl yn ei golygu i chi – yn arbennig:

  • Darllenwch y telerau a’r amodau, gan gynnwys y print mân – beth yn union maent yn ei olygu?
  • Beth yw’r raddfa llog?
  • Beth fyddai’n digwydd pe baech yn methu â thalu unrhyw rai o’r ad-daliadau sy’n ddyledus ar eich benthyciad?
  • Beth fyddai’n digwydd pe baech eisiau ad-dalu’r benthyciad yn gynnar a beth fyddai’r gost?

Hyd yn oed os nad oes angen morgais arnoch chi, mae’n werth gwirio a yw eich banciau a’ch cymdeithasau adeiladu lleol yn benthyca ar gyfer y math o dy neu fflat yr ydych yn ei brynu.

Pwy Sydd  Hawl i Brynu?

Mae’n debyg bod gennych Hawl i Brynu os ydych yn denant sicr i’r Cyngor.

Os oedd eich tenantiaeth sicr yn bodoli cyn 18 Ionawr 2005, neu os oeddech yn denant sector cyhoeddus cyn 18 Ionawr 2005 (a’ch bod wedi bod yn denant sector cyhoeddus ers hynny), nid oes gennych Hawl i Brynu nes i chi dreulio o leiaf 2 flynedd fel tenant sector cyhoeddus.

I unrhyw un arall, nid oes gennych Hawl i Brynu nes i chi dreulio o leiaf 5 mlynedd fel tenant sector cyhoeddus.

Byddwch ond yn gallu prynu o dan y cynllun os mai eich tŷ neu’ch fflat yw eich unig gartref neu’ch prif gartref.

Ni fydd modd i chi brynu eich tŷ os bydd llys yn gwneud gorchymyn meddiant sy’n dweud bod rhaid i chi adael eich cartref.  Ni allwch chwaith brynu eich cartref os ydych yn fethdalwr heb ei ryddhau, os oes deiseb methdalwr i ddod yn eich erbyn, neu os ydych wedi gwneud trefniant â chredydwyr (pobl sydd arnoch arian iddynt) a’ch bod yn parhau i fod mewn dyled iddynt.

Efallai y byddwch yn gallu ymarfer yr Hawl i Brynu ar y cyd ag aelodau o’ch teulu sydd wedi byw gyda chi dros y 12 mis diwethaf, neu gyda rhywun sy’n denant gyda chi.

Rheolau Gostyngiadau

Mae’r cynllun Hawl i Brynu yn rhoi gostyngiad i denantiaid ar werth eu cartref ar y farchnad.  Po fwyaf o amser yr ydych wedi bod yn denant, mwyaf yw’r gostyngiad a gewch, hyd at uchafswm o £8,000.

Cyfnod cymhwyso

Yn amodol ar yr uchafsymiau hyn, mae cyfanswm y gostyngiad yr ydych yn gymwys iddo yn dibynnu ar yr amser yr ydych wedi’i dreulio fel tenant sector cyhoeddus, naill ai gyda’ch landlord presennol neu ‘landlord Hawl i Brynu’ arall.

Os ydych wedi treulio 2 flynedd fel tenant sector cyhoeddus er mwyn cymhwyso am yr Hawl i Brynu (gweler tudalen 6 i weld os yw’n berthnasol i chi), y gostyngiad sydd ar gael ar ôl 2 flynedd yw 32% ar gyfer tai a 44% ar gyfer fflatiau.  Os ydych yn prynu tŷ, rydych yn gymwys i gael 1% yn fwy o ostyngiad am bob blwyddyn ychwanegol, hyd at uchafswm o 60%.  Os ydych yn prynu fflat, rydych yn gymwys i gael 2% yn fwy o ostyngiad ar gyfer pob blwyddyn ychwanegol, hyd at uchafswm o 70%.

Os ydych wedi treulio 5 mlynedd fel tenant sector cyhoeddus er mwyn cymhwyso am yr Hawl i Brynu (gweler tudalen 6 i weld os yw’n berthnasol i chi), y gostyngiad sydd ar gael i chi ar ôl 5 mlynedd yw 35% ar gyfer tai a 50% ar gyfer fflatiau.  Os ydych yn prynu tŷ, rydych yn gymwys i gael 1% yn fwy o ostyngiad am bob blwyddyn ychwanegol, hyd at uchafswm o 60%.  Os ydych yn prynu fflat, rydych yn gymwys i gael 2% yn fwy o ostyngiad am bob blwyddyn lawn ychwanegol, hyd at uchafswm o 70%.  Ond, beth bynnag fo’r ganran yr ydych yn gymwys iddi, ni all eich gostyngiad fod yn fwy na’r gostyngiad uchaf o £8,000.

Gall y cyfnod cymhwyso ar gyfer gostyngiad gynnwys amser a dreuliwyd mewn gwahanol gartrefi a gyda gwahanol landlordiaid.  Nid oes raid i hwn fod yn gyfnod parhaus, cyn belled a’i fod yn denantiaeth sector cyhoeddus.  Gallech hefyd gyfrif cyfnod pan oedd eich gŵr neu’ch gwraig yn denant sector cyhoeddus neu’n byw mewn tŷ a ddarparwyd gan y lluoedd arfog.  Os oeddech yn byw gyda’ch rhieni ar ôl 16 oed a’ch bod wedi dod yn denant yn yr un tŷ neu fflat yn ddiweddarach, efallai y gellwch gyfrif yr amser hwnnw hefyd.

Lleihau gostyngiadau i gymryd i ystyriaeth costau’r gwaith a wneir gan eich landlord yn eich cartref (llawr cost).

Gallai eich gostyngiad gael ei leihau gan reol arbennig sef y llawr cost.  Gallai hyn fod yn berthnasol os yw’r Cyngor wedi gwario arian i drwsio neu i gynnal a chadw eich cartref yn ddiweddar.  Yn unol â’r llawr cost, ni ddylai’r gostyngiad a dderbyniwch leihau’r pris a dalwch o dan yr hyn y mae’r Cyngor wedi’i wario ar waith trwsio neu gynnal a chadw.

Os yw cost y gwaith a wnaethpwyd dros y cyfnod o 10-11 blynedd yn fwy na gwerth eich cartref ar y farchnad, ni fyddwch yn derbyn unrhyw ostyngiad.

Ad-dalu gostyngiadau

Os ydych wedi prynu eich cartref o dan yr Hawl i Brynu, gellwch ei werthu pryd bynnag ydych yn dymuno.  Ond os ydych yn dymuno gwerthu o fewn y ‘cyfnod ad-dalu gostyngiad’ a nodir isod, fel arfer bydd raid i chi ad-dalu rhywfaint o’r gostyngiad neu’r cyfan ohono.  Bydd y swm a dalwch yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch y cais i brynu.  Caiff cost y gostyngiad ei gofrestru fel petai’n gost trwy forgais cyfreithiol.

Os ydych wedi gwneud cais am yr Hawl i Brynu cyn 18 Ionawr 2005 ac yn gwerthu cyn pen 3 blynedd ar ôl prynu eich cartref.

Os byddwch yn gwerthu cyn pen y flwyddyn gyntaf ar ôl i chi brynu, bydd raid ad-dalu’r gostyngiad i gyd.  Bydd raid ad-dalu dau draean os ydych yn gwerthu yn yr ail flwyddyn ac un traean yn y drydedd.  Ar ôl 3 blynedd, gellwch werthu heb ad-dalu unrhyw ostyngiad.  Y gostyngiad yw’r swm a gawsoch pan brynoch eich tŷ.

Os ydych wedi gwneud cais am Hawl i Brynu o 18 Ionawr 2005 ymlaen ac yn gwerthu cyn pen 5 mlynedd ar ôl prynu eich tŷ.

Os byddwch yn gwerthu cyn pen y flwyddyn gyntaf ar ôl i chi brynu, bydd raid i chi ad-dalu’r gostyngiad i gyd.  Rhaid ad-dalu pedair rhan o bump os ydych yn gwerthu yn yr ail flwyddyn. Tair rhan o bump yn y drydedd flwyddyn, dwy ran o bump yn y bedwaredd flwyddyn ac un rhan o bump yn y bumed flwyddyn.  Ar ôl 5 mlynedd, gellwch werthu heb ad-dalu unrhyw ostyngiad.  Hefyd, bydd cyfanswm y gostyngiad i’w ad-dalu os byddwch yn gwerthu cyn pen 5 mlynedd ar ôl prynu yn ganran o werth ailwerthu neu werth yr eiddo, waeth beth fo’r cynnydd yn ei werth o ganlyniad i unrhyw welliannau a wnaethoch i’ch cartref ar ôl y dyddiad prynu.

Er enghraifft, os oedd eich cartref yn werth £100,000 pan wnaethoch ei brynu gan eich landlord, a’ch bod wedi derbyn gostyngiad o £20,000, mae hynny’n golygu bod eich gostyngiad yn 20%.

Os yw eich tŷ yn werth £150,000 pan ydych yn dymuno ei werthu a’ch bod am ei werthu cyn pen yr ail flwyddyn ar ôl ei brynu, bydd raid i chi ad-dalu £150,000 x 20% o ostyngiad x 4/5 h.y. £24,000.

Mae rhai gwerthiannau neu drosglwyddiadau yn cael eu heithrio rhag y gofyn i ad-dalu gostyngiad e.e. trosglwyddiadau rhwng aelodau penodol o’r teulu.

Hefyd, pe baech yn wynebu tlodi difrifol o ganlyniad i ad-dalu’r gostyngiad, a bod eich amgylchiadau yn cyfiawnhau hynny, gall y Cyngor benderfynu peidio â gofyn i chi dalu rhywfaint o’r gostyngiad neu’r gostyngiad cyfan sy’n ddyledus yn ôl y gofyn.

O 18 Ionawr 2005, os byddwch yn arwyddo cytundeb i drosglwyddo eich eiddo i drydydd parti yn y dyfodol, cyn i chi brynu neu cyn pen y ‘cyfnod ad-dalu gostyngiad’, bydd raid i chi ad-dalu eich gostyngiad.   Bydd gofyn i chi ad-dalu’r gostyngiad o’r dyddiad yr ydych yn arwyddo’r cytundeb.  Felly, er enghraifft, os ydych yn arwyddo cytundeb tebyg cyn i chi brynu’r eiddo neu yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl prynu, bydd raid i chi ad-dalu swm y gostyngiad a gawsoch yn llawn.

Beth os ydw’i wedi prynu o’r blaen?

Os ydych wedi prynu o dan y cynllun Hawl i Brynu o’r blaen, fel arfer bydd cyfanswm y gostyngiad a gawsoch yn cael ei ddidynnu o’ch gostyngiad pan fyddwch yn prynu eto.

Hawl I Wrthod Yn Gyntaf

Os ydych yn prynu eich tŷ o dan y cynllun Hawl i Brynu ar 18 Ionawr 2005 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a’ch bod yn dymuno ail-werthu neu gael gwared arno cyn pen 10 mlynedd, bydd gofyn i chi ei gynnig yn ôl naill ai i’r cyngor hwn neu i landlord cymdeithasol arall yn yr ardal hon am ei werth llawn ar y farchnad.  Rhaid i werth y tŷ ar y farchnad gael ei gytuno rhwng y partïon neu, os na allant gytuno, bydd y Prisiwr Rhanbarthol yn penderfynu.

Prynu Fflat Neu Fflat Deulawr

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng hyn a phrynu tŷ?
Os ydych yn prynu tŷ, rydych yn prynu’r rhydd-dal a byddwch yn berchen ar yr eiddo cyfan.  Os ydych yn prynu fflat neu fflat deulawr, fel arfer byddwch yn prynu prydles hir.  Mae hyn yn eich galluogi chi a’ch olynydd i fyw yno am gyfnod penodol, 125 o flynyddoedd fel arfer.  Bydd y bloc yn dal i fod yn eiddo i’r Cyngor, a byddwn yn gyfrifol am gynnal yr adeilad cyfan ac unrhyw fannau neu gyfleusterau cymunol.

Fel daliwr prydles, dim ond rhent enwol sy’n rhaid i chi ei dalu i’r Cyngor (sef ‘rhent tir’) o £10 y flwyddyn.  Ond bydd raid i chi a phrydleswyr eraill dalu costau gwasanaeth hefyd.  Mae’n bosibl i’r rhain fod yn gannoedd o bunnau’r flwyddyn, neu lawer mwy os oes angen gwaith trwsio neu gynnal a chadw mawr ar y bloc, megis to newydd, gwaith trwsio, newid ac addasu strwythurol sy’n ofynnol gan y gyfraith ac unrhyw welliannau.

Gall dalwyr prydles werthu eu heiddo ar unrhyw adeg yn ystod oes y brydles.  Bydd yr unigolyn sy’n ei brynu yn cymryd gweddill y brydles.

O dan eich prydles:

  • Eich cyngor fydd yn gyfrifol am drwsio strwythur a thu allan i’ch fflat a gweddill yr adeilad.  Mae hyn yn cynnwys gwaith trwsio a chynnal a chadw arferol, a hefyd gwaith cynnal a chadw ac ailwampio mawr (er enghraifft, trwsio’r to neu osod lifft newydd), a all fod yn ddrud iawn.
  • Fel arfer bydd eich Cyngor yn darparu gwasanaethau megis goleuadau cymunol.
  • Bydd raid i chi dalu cyfran helaeth o’r gost am y gwaith a’r gwasanaethau hyn.  Caiff eich cyfran ei phennu gan nifer y fflatiau neu’r fflatiau deulawr yn eich bloc.
  • Fel arfer bydd raid i chi dalu cyfran o gostau’r Cyngor i reoli’r bloc – caiff ei gyfrifo’n aml fel canran o’r costau am y gwasanaethau a’r gwaith cynnal a chadw.
  • Byddwch hefyd yn gyfrifol am gadw tu mewn i’ch fflat mewn cyflwr da.

Costau Gwasanaeth

Mae dau fath o gostau gwasanaethau: costau blynyddol am waith trwsio/cynnal a chadw o ddydd i ddydd a chostau gwasanaeth ‘gwaith mawr’ (un swm, a all fod yn £20,000 neu fwy hyd yn oed) pan fo angen llawer o waith trwsio neu ailwampio.

Os ydych yn penderfynu eich bod am brynu, rhaid i’ch Cyngor ddweud wrthych faint fydd cost yr eiddo a hefyd amcangyfrif unrhyw gostau gwasanaeth y bydd gofyn i chi eu talu yn ystod 5 mlynedd gyntaf eich prydles.  Os bydd y brydles yn dweud bod rhaid i chi dalu rhywfaint o gostau’r gwelliannau, rhaid i’r amcangyfrif gynnwys y rhain hefyd.  Unwaith y byddwn wedi rhoi amcangyfrif i chi, nid oes gennym hawl i godi mwy na’r ffigwr hwnnw yn ystod 5 mlynedd gyntaf eich prydles, ac eithrio er mwyn cymryd chwyddiant i ystyriaeth.

Nid oes unrhyw gyfyngiad arbennig ar gostau trwsio a wneir ar ôl y 5 mlynedd gyntaf. Mae angen i chi gofio y gallai fod angen i chi dalu costau gwasanaeth am ‘waith mawr’ pan gaiff eich bloc ei drwsio.  Mae llawer o gynlluniau ar gael i’ch helpu â hyn - gofynnwch i ni amdanynt.

Pwyntiau eraill am gostau gwasanaeth

  • Bydd yr amcangyfrif o gostau gwasanaeth a gewch cyn i chi brynu hefyd yn cwmpasu costau am wasanaethau’r adeilad megis talu gofalwr.  Ond gall costau fel hyn newid, hyd yn oed yn ystod 5 mlynedd gyntaf y brydles.
  • Byddwch hefyd yn cael gwybod am unrhyw ddiffygion strwythurol anhysbys sy’n effeithio ar yr adeilad.  Os bydd angen i chi dalu am waith i’w ddiwallu yn ystod y 5 mlynedd gyntaf, rhaid i’r amcangyfrif o’r costau gwasanaeth am waith trwsio gwmpasu hyn.  Ond efallai y bydd gofyn i chi hefyd dalu rhywfaint o gostau’r gwaith a wneir ar ôl y 5 mlynedd gyntaf.
  • Efallai y bydd gennych hawl i gael benthyciad gan eich landlord i’ch helpu i dalu costau gwasanaeth am waith trwsio yn ystod 10 mlynedd gyntaf eich prydles.  Bydd bil y costau gwasanaeth yn nodi a oes benthyciad ar gael.

Costau Prynu

Mae prynu eich cartref yn ymrwymiad ariannol mawr.  Ar ôl talu amdano, bydd raid i chi wedyn ei gynnal a’i gadw.  Fel yr esboniwyd, os ydych yn prynu fflat ar brydles hir, bydd raid i chi hefyd dalu costau gwasanaeth.

Oni bai eich bod yn prynu eich cartref ag arian parod, bydd angen morgais arnoch.  Mae mathau amrywiol o forgeisi ar gael a gall eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu sôn amdanynt wrthych.  Efallai y gall ymgynghorydd annibynnol helpu hefyd.

Os methwch â pharhau i dalu ad-daliadau eich morgais, fe allai’r benthyciwr fynd i’r llys a gofyn iddo eich taflu o’ch cartref.  Nid oes raid i’r Cyngor roi tenantiaeth arall i chi os byddwch yn colli’ch cartref fel hyn.

Costau arferol eraill i berchnogion tai

Treth y Cyngor a chostau dŵr
Os ydych yn prynu’ch tŷ, bydd raid i chi dalu’r rhain ar wahân, yn syth i’r cwmni gwasanaethau dŵr ac i’r Cyngor.

Gwasanaethau cartref
Wrth lunio’ch cyllidebau, rhaid i chi gymryd i ystyriaeth y biliau nwy, trydan, ffôn a biliau personol sydd raid i chi barhau i’w talu pan ydych yn berchen ar eich tŷ.

Yswiriant: Bydd angen i chi ystyried yswirio eich cartref a’ch morgais.  Mae pedwar prif fath:

  • Yswiriant adeiladau

Mae hwn yn hanfodol.  Mae ei angen i sicrhau’r gost lawn o ail-adeiladu eich cartref pe bai’n cael ei ddinistrio mewn tân neu ddigwyddiad arall.  Yn achos fflatiau, byddwn yn trefnu’r yswiriant hwn ar gyfer y bloc cyfan yn aml, a byddwn yn disgwyl i chi gyfrannu tuag at gost y premiwm yswiriant.  Os oes angen morgais arnoch i’ch helpu i brynu eich tŷ, bydd y benthyciwr yn mynnu bod gennych yswiriant adeiladau.

  • Yswiriant cynhwysion

Yn ogystal ag yswiriant adeiladau, dylech yswirio cynhwysion eich tŷ rhag lladradau a pheryglon eraill.

  • Yswiriant bywyd

Mae angen hwn er mwyn talu eich morgais pe baech yn marw cyn diwedd cyfnod y morgais.  Mae’n golygu nad yw eich teulu’n cael eu gadael â baich trwm o ddyled y morgais.

  • Yswiriant amddiffyn taliadau morgais

Mae angen i chi feddwl yn ddifrifol am sut y byddech yn talu eich ad-daliadau morgais pe baech yn colli eich incwm, trwy golli’ch gwaith neu salwch dyweder.  Mewn nifer o achosion, bydd amddiffyn taliadau morgais yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen arnoch.

Dylech siopa am bolisïau sy’n gweddu eich anghenion orau.

Gwaith trwsio a chynnal a chadw

Os yw eich cartref yn dy a’ch bod yn ei brynu, byddwch yn gyfrifol am gostau unrhyw waith trwsio a chynnal a chadw, beth bynnag fo cyflwr yr eiddo pan gafodd ei brynu.  Os ydych yn prynu fflat ar brydles hir, bydd raid i chi dalu costau gwasanaeth y landlord.  Mae’n gyfrifoldeb arnoch i gael cyngor am gyflwr eich cartref cyn i chi ei brynu.

Costau unigryw wrth brynu eich cartref

Dylech gyflogi cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig i ofalu am yr ochr gyfreithiol wrth brynu eich cartref.  Cyn cyflogi unrhyw un, gofynnwch iddynt beth fydd cost eu cyngor bob amser a faint o dreuliau y byddant yn eu derbyn ar eich rhan wrth brynu eich cartref.

Dylech drefnu i gael arolwg o’ch cartref.  Dylech ystyried un o’r rhain:

  • Arolwg a Phrisiad Prynwyr Cartref RICS

Adroddiad a phrisiad ar ffurf safonedig yw hwn sy’n dweud wrth y prynwr am yr holl ddiffygion arwyddocaol, ond nid y rhai bach.  Mae’n debygol y bydd yn ddigonol ar gyfer y mwyafrif o eiddo ac mae’n darparu canllaw i werth y tŷ.

  • Arolwg Adeilad

Mae hwn yn cynnwys archwiliad manwl o holl rannau gweladwy’r eiddo.  Mae’n syniad da cael arolwg tebyg os yw’r eiddo yn hen, neu yn amlwg angen gwaith trwsio, neu os ydych yn ystyried gwneud newidiadau.

Efallai y gall eich benthyciwr drefnu i’w brisiwr gynnal yr arolwg, a allai arbed i chi orfod talu am brisiad ar wahân.

Dylech drefnu i gael arolwg ar ôl i chi dderbyn eich hysbysiad adran 125.  Dylech ofyn beth fydd y gost cyn i chi ofyn i unrhyw un gynnal yr arolwg.

Ar ôl cwblhau’r gwerthiant, rhaid i chi dalu’r Gofrestra Tir i’ch cofrestru fel perchennog newydd.

Efallai y bydd gofyn i chi dalu Treth Tir Dyletswydd Stamp, sef treth y mae pobl yn ei dalu pan maent yn dod yn berchnogion tai.  Caiff Treth Tir Dyletswydd Stamp ei gyfrifo fel canran o’r pris yr ydych yn ei dalu am eiddo sy’n werth dros £120,000.

Sut Ddylwn I Wneud Cais? (Canllaw Cam Wrth Gam)

Nod yr adran hon yw eich tywys trwy bob cam o’r broses o brynu eich cartref.

Cam 1 - Gwneud cais i brynu

Dechreuwch trwy gysylltu ag isadran hawl i brynu neu swyddfa ystadau tai'r Cyngor.  Gellir gwneud hyn naill ai trwy ysgrifennu neu trwy ffonio gan wneud cais am ffurflen hawlio Hawl i Brynu (ffurflen RTB1).  Rhaid i ni ddarparu hon yn rhad ac am ddim.

Llenwch y ffurflen yn ofalus.  Caiff ei defnyddio i benderfynu:

  • P’un a oes gennych Hawl i Brynu; a
  • Faint o ostyngiad y cewch.

Pan fyddwch wedi llenwi’r ffurflen, dychwelwch hi at y tîm hawl i brynu.

Cam 2 -  Hysbysiad o Ymateb y Cyngor

Ar ôl derbyn eich ffurflen hawlio, byddwn yn anfon hysbysiad atoch (ffurflen RTB2) i ddweud p’un a oes gennych Hawl i Brynu.  Dylech dderbyn hwn cyn pen 4 wythnos ar ôl y dyddiad y derbyniodd eich landlord eich ffurflen RTB1.

Os byddwn yn penderfynu nad oes gennych Hawl i Brynu eich cartref, rhaid i ni esbonio pam.  Efallai y bydd yr eiddo yn un o’r eithriadau a restrir isod.  Os nad ydych yn cytuno â’r esboniad hwn, gellwch gael cyngor gan y Ganolfan Gynghori neu gan gyfreithiwr.  Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gellwch ysgrifennu at Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y cyfeiriadau a roddir yn y llyfryn hwn.

Cam 3 – Hysbysiad Adran 125 eich landlord

Os ydym yn cytuno i werthu eich cartref i chi, rhaid i ni anfon hysbysiad cynnig ar wahân atoch (a elwir yn Hysbysiad Adran 125) sy’n dweud wrthych y pris sy’n rhaid i chi ei dalu a thelerau ac amodau’r gwerthiant.  Rhaid i ni anfon hwn atoch cyn pen 8 wythnos ar ôl i chi dderbyn eich ffurflen RTB2 os yw eich cartref yn dŷ ac os ydych yn prynu rhydd-ddaliad, neu cyn pen 12 wythnos os yw eich cartref yn fflat neu fflat deulawr.

Mae Hysbysiad Adran 125 yn ddogfen bwysig a dylech ei darllen yn ofalus iawn.  Bydd yn dweud pum prif beth wrthych:

  • Bydd yn disgrifio’r eiddo sydd gennych yr hawl i’w brynu.
  • Bydd yn dweud y pris yr ydym yn meddwl y dylech ei dalu amdano.
  • Bydd yn rhoi amcangyfrif o’r costau gwasanaeth neu gostau gwelliannau y bydd raid i chi eu talu yn ystod y 5 mlynedd gyntaf ar ôl i chi brynu eich cartref, os yw’n fflat neu fflat deulawr.
  • Bydd yn disgrifio unrhyw ddiffygion strwythurol y mae’r landlord yn gwybod amdanynt.
  • Bydd yn cynnwys y telerau a’r amodau yr ydym yn teimlo y dylai fod ynghlwm wrth y gwerthiant.  Gallai’r rhain gael eu gosod naill ai ar ffurf drafft o’r ddogfen gyfreithiol i chi ei harwyddo, neu fel rhan o’r hysbysiad, neu ar daflen ar wahân.

Cam 4 – Apelio i’r Prisiwr Rhanbarthol

Pan fyddwch yn derbyn eich hysbysiad adran 125, efallai y byddwch yn teimlo bod yr hyn yr ydym yn ei feddwl yw gwerth llawn eich cartref ar y farchnad yn rhy uchel.  Os felly, mae gennych hawl i gael prisiad annibynnol gan y Prisiwr Rhanbarthol.  Cyn gwneud hynny, rhaid i chi ddweud wrthym, cyn pen 3 mis ar ôl derbyn yr hysbysiad Adran 125, eich bod am gael ‘penderfyniad o werth’ dan Adran 128 y Ddeddf Tai 1985.  Ar ôl hynny, mae gennych 4 wythnos i roi eich achos i’r Prisiwr Rhanbarthol.  Bydd angen iddo hefyd archwilio eich cartref.

Prisiad y Prisiwr Rhanbarthol fydd yr un sy’n cyfrif.  Hyd yn oed os yw’n uwch na’n prisiad ni, byddwch yn dal i orfod ei dderbyn neu dynnu eich cais i brynu eich cartref yn ôl.

Cam 5 – Cael arolwg

Cyn i chi benderfynu’n derfynol eich bod am brynu, dylech gael arolwg annibynnol gan syrfëwr cymwys.  Pan fyddwch yn gwneud cais am forgais, bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu wedi gwneud arolwg, ond dim ond prisio eich cartref y mae hwn.  Efallai na fydd yn dadorchuddio unrhyw broblemau strwythurol a allai fodoli.

Cam 6 – Cael cyngor cyfreithiol

Cyn penderfynu p’un a ydych am brynu, gallech gael cyngor cyfreithiol, yn arbennig os ydych yn pryderu am delerau’r gwerthiant.

Cam 7 – Dweud wrthym beth ydych am ei wneud nesaf

Efallai na fydd y wybodaeth yn eich hysbysiad Adran 125 yn syml ac yn rhwydd i’w deall. Bydd raid i chi nawr benderfynu p’un a ydych am:

  • Brynu eich cartref i gyd am y pris Hawl i Brynu llawn, heb gynnwys unrhyw ostyngiad yr ydych yn gymwys iddo;
  • Peidio â phrynu, tynnu eich cais yn ôl a pharhau i dalu rhent.

Ar ôl i chi benderfynu, rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig.  Rhaid i chi roi gwybod beth yw eich penderfyniad cyn pen 12 wythnos ar ôl derbyn eich hysbysiad Adran 125.  Os ydych wedi gofyn i’r Prisiwr Rhanbarthol brisio eich tŷ, rhaid i chi ddweud wrthym beth ydych am ei wneud cyn pen 12 wythnos ar ôl cael prisiad.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni beth ydych yn bwriadu ei wneud mewn da bryd, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch.  Os na fyddwch yn ymateb cyn pen 28 diwrnod, byddwn yn meddwl nad ydych am brynu ac ni fyddwn yn ymdrin â’ch cais ymhellach.

Cam 8 – Cwblhau eich pryniant

Os ydych yn fodlon â’r telerau ar gyfer prynu eich tŷ, a’ch bod wedi trefnu i gael yr arian, rydych yn barod i fynd ati i’w brynu.  Dylech ddweud wrthym eich bod yn barod a gofyn i’ch cyfreithiwr am gyngor ynghylch dogfennau cyfreithiol a gwneud eich taliad.

Ar ôl ni gael gwybod eich bod yn derbyn, byddwn yn anfon eich ffeil at adran gyfreithiol y Cyngor er mwyn paratoi’r dogfennau a’u hanfon ymlaen at eich cynrychiolydd cyfreithiol penodedig.  Ynghlwm wrth y ddogfen bydd cynllun o’ch eiddo a bydd hwn wedi’i baratoi ar ôl i Swyddog o’r Adran Gynllunio Eiddo ymweld â’r safle.  Mae’r cynllun yn dangos y darn o dir a gynhwysir yn eich tenantiaeth a’ch cyfrifoldeb am y terfynau sydd gennych ar ôl i chi ei brynu.

Os na fyddwn yn clywed gennych, efallai y cewch hysbysiad i’ch rhybuddio.  Bydd hwn yn gofyn i chi naill ai gwblhau’r pryniant  cyn pen 8 wythnos neu i ysgrifennu atom a dweud wrthym eich bod yn anghytuno â thelerau’r gwerthiant.  Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y byddwn yn anfon ail hysbysiad atoch yn gofyn i chi gwblhau’r pryniant.  Os na fyddwch yn cwblhau’r pryniant ar ôl hynny, ni fyddwn yn ymdrin â’ch cais ymhellach a byddwn yn cymryd eich bod wedi’i dynnu yn ôl.

Ni allwn anfon hysbysiad o rybudd atoch am o leiaf 3 mis (neu 12 mis os ydych wedi gwneud cais am Hawl i Brynu cyn 18 Ionawr 2005) ar ôl eich hysbysiad Adran 125.

Oedi Neu Broblemau Wrth Werthu

Mae’r mwyafrif o werthiannau yn cael eu cwblhau’n gyflym, ond ambell waith bydd problemau neu oedi.  Os na fyddwn wedi anfon eich ffurflen RTB2 (yr hysbyiad yn dweud wrthych fod gennych Hawl i Brynu) neu’r hysbysiad Adran 125 (hysbysiad o gynnig) o fewn yr amseroedd a nodir yn y canllaw cam wrth gam, neu os yw’n oedi’r gwerthiant fel arall, efallai y gellwch gael gostyngiad ar y pris prynu.  I gael y gostyngiad hwn, rhaid i chi lenwi hysbysiad cyntaf o oedi (ffurflen RTB 6) a’i hanfon atom. Rhaid i chi roi o leiaf mis i ni fynd ymlaen i’r cam nesaf yn y broses werthu.  Efallai y byddwn yn anfon gwrth-hysbysiad atoch os ydym eisoes wedi rhoi Hysbysiad Ymateb atoch neu Hysbysiad Adran 125, neu os nad ydym yn cyflymu’r gwerthiant.

Os na fyddwn yn anfon gwrth-hysbysiad atoch o fewn yr amser a ganiateir, gellwch anfon hysbysiad gweithredol o oedi (ffurflen RTB 8) atom.  Caiff y rhent a dalwch tra bo’r oedi’n digwydd ei dynnu oddi ar bris eich tŷ.  Os byddwn yn oedi’r gwerthiant eto, gellwch ailadrodd y weithdrefn hon.

Gellwch gael y ffurflenni a grybwyllir uchod gan y Cyngor neu Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Eithriadau I'r Hawl I Brynu

Cartrefi sy’n addas ar gyfer yr henoed

Efallai y byddwn yn gwrthod gadael i chi brynu eich tŷ ar sail bod eich cartref yn benodol addas ar gyfer pobl hŷn (dan baragraff 11 Atodiad 5 y Ddeddf Tai 1985).  Os felly, gellwch ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu a ydym yn gywir.  Ond rhaid i chi ofyn iddynt cyn pen 56 diwrnod ar ôl i ni wrthod gwerthu eich tŷ i chi.  Os na fyddwch yn gofyn mewn da bryd, byddwch yn colli eich hawl i apelio.

Nid oes gennych hawl i brynu os yw eich cartref:

  • yn benodol addas ar gyfer unigolion hŷn, o ystyried ei leoliad, ei faint, ei ddyluniad, y system wresogi a nodweddion eraill;
  • yn arfer cael ei osod i chi neu’r tenant blaenorol ar gyfer unigolyn 60 oed neu’n hŷn, p’un a oeddent yn denant ai peidio; a
  • wedi’i osod gyntaf (i chi neu rywun arall) cyn 1 Ionawr 1990.

Wrth ystyried p’un a yw eich cartref yn ‘benodol addas’, rhaid i ni anwybyddu nodweddion yr ydych wedi’u darparu (er enghraifft, system wres canolog).

Sut ydych yn gofyn am benderfyniad?

Ysgrifennwch at Lywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gyfarwyddiaeth Tai, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl i’r ddwy ochr gael cyfle i roi eu hachos ac ar ôl i’r ffeithiau gael eu nodi, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu p’un a ddylid eithrio’ch cartref rhag yr Hawl i Brynu.

Pa effaith gaiff y penderfyniad?

Os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu bod eich cartref yn disgyn o fewn y meini prawf a nodir ym mharagraff 11 Atodiad 5 Deddf Tai 1985, ni fydd gennych hawl i brynu.

Os penderfynir nad yw paragraff 11 yn berthnasol i’ch cartref, bydd modd i chi fynd ymlaen i brynu oni bai bod rheswm arall pam nad oes gennych Hawl i Brynu (efallai y byddwn wedi gwadu’r Hawl i Brynu am fwy nag un rheswm).

Ar ba sail y caiff y penderfyniad ei wneud?

Fel arfer bydd y sawl sy’n penderfynu yn disgwyl i’r pwyntiau canlynol ei fodloni:
a) dylai fod mynediad rhwydd ar gael ar droed at eich cartref: mae’n annhebygol y caiff mynediad ei weld fel un rhwydd os oes raid dringo tri gris neu fwy (yn ogystal â’r trothwy) ac nad oes rheilen;
b) dylai’r llety fel arfer fod ar un lefel;
c) mewn fflat sydd uwchben lefel y llawr gwaelod, dylai fod mynediad rhwydd ar gael mewn lifft;
ch) ni ddylai fod mwy na dwy ystafell wely;
d) dylid cael trefniadau gwresogi sy’n gweithio’n ddibynadwy ac yn darparu gwres i’r ystafell fyw ac un ystafell wely o leiaf;
dd) dylai’ch cartref fod mewn lleoliad cyfleus sy’n gymharol agos at siopau a chludiant cyhoeddus, o ystyried natur yr ardal.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw nodweddion perthnasol eraill yn eich cartref a amlygir iddynt.

Cartrefi sydd ar fin cael eu dymchwel

Os ydym yn bwriadu dymchwel eich cartref, efallai y byddwn yn rhoi hysbysiad dymchwel dechreuol i chi, sy’n ddilys am 5 mlynedd.  Mae hysbysiad o’r fath yn diarddel ein rhwymedigaeth i gwblhau pryniant Hawl i Brynu.  Os ydych eisoes wedi gwneud cais Hawl i Brynu, gellwch barhau i’w gwblhau os na fydd eich cartref yn cael ei ddymchwel yn y pen draw.  Gellwch hefyd wneud cais newydd tra bo hysbysiad dymchwel dechreuol mewn grym, ond nid oes raid i ni gwblhau’r gwerthiant o dan yr amgylchiadau hynny.

Fodd bynnag, os byddwn yn rhoi hysbysiad dymchwel terfynol i chi, caiff unrhyw geisiadau Hawl i Brynu blaenorol eu terfynu ac ni ellir gwneud unrhyw geisiadau newydd.

Eithriadau eraill i’r Hawl i Brynu

Mae eithriadau eraill i’r Hawl i Brynu.  Mae rhestr lawn o’r eithriadau hynny ar gael yng nghyhoeddiad yr ODPM ‘You Right to Buy Your Home’, sef llyfryn y gellid ei gael yn eich swyddfa ystadau tai lleol neu’r gwasanaethau tai ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam.

Cyfyngiadau gwledig

Os yw eich cartref yn ardal sydd wedi’i dynodi gan eich Ysgrifennydd Gwladol neu Lywodraeth Cynulliad Cymru fel un wledig a’ch bod am brynu eich cartref gan y Cyngor o dan yr Hawl i Brynu, mae rheolau arbennig yn berthnasol i chi.

Pan fyddwch yn prynu, bydd ar yr amod eich bod yn ail-werthu’r tŷ i rywun sydd wedi bod yn byw neu’n gweithio yn yr ardal ers 3 blynedd.  Fel arall, efallai y bydd gofyn i chi gynnig eich cartref yn ôl i ni os ydych am ei ailwerthu o fewn 10 mlynedd ar ôl ei brynu (gweler yr adran ar ‘Hawl i wrthod yn gyntaf’ am wybodaeth bellach).  Byddai’n rhaid i’r landlord wedyn dalu gwerth llawn yr eiddo.

Efallai y cewch anhawster dod o hyd i forgais ar gyfer eich cartref oherwydd y cyfyngiadau hyn.

Eiddo Diffygiol

Mae mathau penodol o dai a fflatiau wedi’u dynodi’n ddiffygiol o dan Rhan 16 Deddf Tai 1985, oherwydd:

  • Eu bod yn ddiffygiol oherwydd eu dyluniad neu’r dull adeiladu; ac
  • Bod eu gwerth wedi gostwng yn sylweddol oherwydd bod pobl wedi dod i wybod eu bod yn ddiffygiol.

Os yw eich cartref yn un o’r rhain, rhaid i ni ddweud wrthych cyn i chi ei brynu.  Fel arfer, anfonir llythyr atoch.  Ar ôl hynny, dylech ystyried yn ofalus iawn p’un a yw’n beth doeth i chi brynu.  Efallai y cewch anhawster ei werthu yn nes ymlaen, oherwydd y gallai unrhyw un sy’n ystyried prynu gennych fethu â chael morgais.  Os byddwch yn penderfynu prynu, mae’n bwysig iawn darganfod beth yw cyflwr strwythurol eich cartref.