Beth yw Cefnogi Pobl?
Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn Wrecsam yn:
- ariannu tros 40 o gynlluniau cefnogaeth tai a ddarperir gan yn agos i 20 o sefydliadau ar gyfer ystod eang o grwpiau cleientiaid sy’n cynnwys
- pobl hŷn sy’n agored i niwed
- pobl ifanc sy’n agored i niwed
- pobl sydd â phroblemau cam-drin sylweddau
- pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl
- pobl sydd ag anawsterau dysgu a
- phobl sydd mewn perygl o golli eu cartref
Gellir trosglwyddo gwasanaeth mewn sawl ffordd, gan gynnwys cefnogaeth arnofiol (a roddir yn y cartref), llety cynaledig dros dro neu hosteli.
Cyllid
Darperir yr arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i rhennir yn ddau fath.
- Rheolir y Grant Cefnogi Pobl (GCP) gan yr Awdurdod Lleol a dyma sy’n talu am wasanaethau o’r math Gofal yn y Gymuned a gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn.
- Telir y Grant Refeniw Cefnogi Pobl (GRCP) yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydliadau darparu achrededig a dyma sy’n ariannu’r holl wasanaethau eraill.
Cymhwyster
Mae’r arian ar gyfer darparu cefnogaeth tai cymwys ac er nad oes modd ariannu gofal personol neu ofal iechyd drwy Cefnogi Pobl, gall sawl cynllun ddarparu’r math hwn o gefnogaeth wedi eu hariannu ar y cyd drwy asiantaeth arall.
Mae cymhwyster sylfaenol ar gyfer unrhyw un o’r cynlluniau a restrir yn cynnwys:
- rhaid i’r person sy’n gofyn am gefnogaeth fodd â hawl i feddiannu eu cartref, megis eu cytundeb tenantiaeth eu hunain neu eu bod yn berchennog-ddeiliad
- rhaid i’r person fod yn agored i niwed ac felly mewn angen o ran cefnogaeth tai er mwyn iddynt fedru parhau i fyw yn eu tŷ
- bydd y person yn rhan o’r broses o gynllunio cynllun cefnogi a fydd yn manylu ar yr hyn y dylent ei gyflawni drwy’r cynllun
Rhaid i’r gefnogaeth a gynigir gyd-fynd â’r Meini Prawf Cymhwyster ar gyfer Cefnogi Pobl
Mynediad
- Bydd gan bob sefydliad darparu eu polisïau cymhwyster, asesu a dyrannu eu hunain sy’n benodol i’w cynlluniau hwy.
- Dyrennir lleoedd a rheolir rhestrau aros gan y cynlluniau.
Gwybodaeth Bellach
Ceir gwybodaeth bellach a manylion cyswllt ar gyfer pob cynllun yn y Cyfeirlyfr Cefnogi Pobl.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol am gynlluniau Cefnogi Pobl, yna cysylltwch â Thîm Cefnogi Pobl Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn:
Gwasanaethau Tai,
Ffordd Rhuthun,
Wrecsam,
LL13 7TU.
Rhif ffôn: 01978 292000 (gofynner am Tîm Cefnogi Pobl)
Ffacs: 01978 315520
E-bost: supportingpeople@wrexham.gov.uk
Neu mae modd ichi lawr lwytho taflen yma.
yn ôl i'r brig