Gwasanaeth Warden Ymweld newydd

Ydych chi dros 60? Fyddech chi’n hoffi cael ymweliad calonogol?

Yna fe allem eich helpu gyda’r Gwasanaeth Warden Ymweld newydd.

Bwriad Cyngor Wrecsam yw helpu cefnogi pobl i fyw yn annibynnol gartref cyhyd ag y bo modd. Erbyn hyn gallwn gynnig ein gwasanaeth warden ymweld, oedd o’r blaen ond ar gael i denantiaid tai gwarchod, i bobl sy’n byw mewn unrhyw fath o dai. Felly, pa un ai ydych yn berchen neu’n rhentu eich cartref, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy.

Rydym yn gobeithio rhoi mwy o dawelwch meddwl a sicrwydd i chi yn eich cartref eich hun o wybod y bydd Warden Ymweld yn galw’n rheolaidd.

Beth mae’r Gwasanaeth Warden Ymweld yn ei gynnig?

Bydd ein Warden Ymweld yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth yn ystod ymweliad rheolaidd.

Mae ein Wardeiniaid yn brofiadol iawn wrth roi cyngor a chefnogaeth ar y lliaws amgylchiadau a materion sy’n wynebu pobl hyn, a gallant wneud y canlynol:

  • Galw’n rheolaidd i weld eich bod yn iach i helpu i chi ofalu am eich iechyd a ffyniant at ei gilydd.
  • Helpu i chi gysylltu â gwasanaethau iechyd, asiantaethau neu unrhyw un arall, os bydd eich iechyd neu ffyniant yn newid.
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth ar sut i gymryd rhan mewn pethau sy’n eich diddori.
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau sydd ar gael i chi.

Nid yw’r Warden Ymweld yn gallu helpu gyda gorchwylion ymarferol rheolaidd, fel coginio, gofal personol neu siopa. Fodd bynnag, gallant roi cyngor a chymorth ar sut i gael help efo’r pethau hyn.

Yn ystod yr hymweliad cyntaf, bydd y Warden yn gofyn i chi pa gymorth y teimlwch sydd arnoch ei angen, trafod y math o gefnogaeth sydd arnoch ei hangen, a faint o ymweliadau Warden y meddyliwch y byddwch eu hangen. Gallwch fod â chyfaill neu berthynas efo chi ar gyfer y drafodaeth hon os dymunwch.

Pwy sy’n cael gwneud cais?

Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl dros 60 oed.

Nid yw eto’n ar gael ym mhob un o’n cymunedau yn y Fwrdeistref, ond bydd yn cael ei erbyn gynnar 2013. I gael gwybod a yw’r cynllun ar gael yn eich cymuned ar hyn o bryd, gweler isod am wybodaeth gyswllt.

Mae angen i chi fod â larwm cymunedol, neu fod yn barod i gael gosod un, yn eich cartref. Mae Larwm Cymunedol yw crog arbennig yr ydych yn gwisgo ar yr arddwrn neu’r gwddf sy’n eich galluogi i alw am gymorth mewn argyfwng, neu pan fyddwch yn cael anawsterau. Mae’r offer hwn yn rhoi cysylltiad 24 awr â’n canolfan ffonio. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyder a thawelwch meddwl i chi.

Beth fydd y gost?

Y tâl ar hyn o bryd, ar gyfer y gwasanaeth yw £3.00 yr wythnos (mae’r larwm cymunedol yn cael ei dâl ar wahân). Mae’r tâl y’n cael ei adolygu bob blwyddyn.

Os ydych yn derbyn Budd-dâl Tai ni fydd yn rhaid i chi dalu tâl hwn eich hun. Os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn y tâl a dylent wneud cais am asesiad ariannol, y gallwn eich helpu â nhw.

Sut i wneud cais am y Gwasanaeth Warden Ymweld

Cysylltwch â’r Tîm Tai Gwarchod:
Ffôn: 01978 315300
Ebost: housing@wrexham.gov.uk
Cyferiad: Tai a Diogelu’r Cyhoedd Adran, Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os hoffech dderbyn y ddogfen mewn fformat gwahanol, megis Braille, print bras neu mewn iaith arall, cysylltwch atom ni fel yr uchod.

Gwasanaeth Warden Ymweld newydd

Gwasanaeth Warden Ymweld newydd - fformat PDF 627Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig