Ydych chi'n byw mewn llety cyngor? Ydych chi angen cymorth i redeg eich cartref?

Mae Gwasanaethau Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu cefnogaeth tai AM DDIM a chyfrinachgar i BOB UN o denantiaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd angen cymorth i gadw eu tenantiaeth.
Mae'r gwasanaeth wedi'i deilwra i ymateb i'ch anghenion unigol.
Mae rhai pobl yn ei chael yn anodd rheoli eu tenantiaeth am eu bod yn denantiaid am y tro cyntaf; fodd bynnag mae rhai tenantiaid mwy profiadol hefyd yn cael trafferth i ymdopi.
Mae materion fel problemau iechyd, dyled, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol a materion iechyd meddwl i gyd yn effeithio ar sut y mae unigolyn yn gallu rheoli tenantiaeth. Er na allwn gynorthwyo gyda'r pethau hyn gallwn eich cyfeirio at asiantaethau sy'n gallu.
Mae'r gwasanaeth Cefnogi Tenantiaeth yn bodoli i gynnig cymorth i denantiaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn eu cartrefi eu hunain er mwyn sicrhau nad ydynt yn teimlo'n unig a ddim yn gallu ymdopi gyda phroblemau y gallant fod yn eu hwynebu ac osgoi'r perygl o gael eu troi allan o'u cartref.
Os ydych yn symud i gartref cyngor newydd - neu os ydych eisoes yn denant ac yn teimlo nad ydych yn ymdopi'n dda ar ben eich hun - yna gallwn ni helpu.
"Gall y Cynllun Cefnogi Tenantiaeth roi'r gefnogaeth yr ydych ei hangen er mwyn byw bywyd annibynnol."
Gallwn eich cynorthwyo i baratoi a chynnal eich tŷ'n dda drwy droi'r nwy, trydan a'r dŵr ymlaen.
Gallwn eich cynorthwyo i ddod o hyd i ddodrefn, rhoi trefn ar y rhent ac anfonebau, rhoi cyngor ar reoli materion ariannol a hawlio budd-daliadau. Hefyd, gallwn gynghori ar yswiriant a gwybodaeth diogelwch a sut i gadw at gytundeb y denantiaeth.
Na all, ond trwy drafod problemau byddant yn eich cynghori ble i ofyn am gymorth arbenigol ar bethau fel dyled, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol neu unrhyw sefydliadau cymorth eraill.
Bydd gweithiwr cefnogi yn cysylltu â chi ac yn trefnu ymweliad.
Byddant yn treulio amser yn trafod unrhyw broblemau gyda chi. Yna byddant yn cytuno ar "gynllun cefnogi" gyda chi sy'n egluro i chi beth i'w ddisgwyl a pha mor aml y byddant yn ymweld.
Ein nod yw eich cynorthwyo chi i ddod yn ôl ar eich traed a byw'n annibynnol.
Ymhen amser ni fyddwch ein hangen mwyach ond bydd drws agored i chi bob amser os teimlwch yr angen am gymorth yn y dyfodol.
Cysylltwch a'ch swyddfa ystadau leol neu cwblhewch ffurflen hunangyfeirio ar-lein.
Neu ebost: housing@wrexham.gov.uk.
Gall unrhyw denant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd yn y rhestr ganlynol gael cefnogaeth tenantiaeth:
Gan ein bod yn wasanaeth cefnogi lefel isel a pharhaus gallwn gefnogi pobl am hyd at ddwy flynedd.
Yn gyffredinol rhoddir y gefnogaeth dros gyfnod llawer byrrach. Y cyfartaledd yw ychydig fisoedd fel arfer, nes y byddwch yn barod.
Yr hyn sy'n bwysicach na hyd yr amser a dreuliwch gyda chefnogaeth tenantiaeth yw pa mor dda y gallwch gyflawni eich amcanion cefnogaeth.
Yn ystod pob ymweliad bydd y Swyddog Cefnogi Tenantiaeth yn adolygu sut y byddwch yn dod ymlaen ac yn gweld a oes unrhyw beth arall a allwn ei wneud i'ch cefnogi.
Unwaith y byddwch wedi cyflawni pob un o'ch amcanion cefnogaeth byddwn yn cytuno gyda'n gilydd pryd y bydd y gefnogaeth yn dod i ben.
Ariennir Cefnogi Tenantiaeth gan Grant Refeniw Cefnogi Pobl. Telir y grant hwn i dalu am holl gostau'r gwasanaeth gan y tîm Cefnogi Pobl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae'r arian yn dod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Cefnogi Pobl yn gosod safonau a chanllawiau y mae'n rhaid i ni eu dilyn, gan gynnwys adolygiad blynyddol ac arolygon rheolaidd.
Nod penodol y gwasanaeth yw rhwystro digartrefedd.
Dylai pob cwyn a chanmoliaeth fynd i'n cyllidwyr sef y tîm Cefnogi Pobl.
Os ydych am gwyno neu ganmol gallwch: