Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ethol Maer i wasanaethu am flwyddyn. Mae blwyddyn y Maer bob amser yn brysur ac mae’n cynnwys pum digwyddiad dinesig ffurfiol: Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, Dawns Elusennol, y Gwasanaeth Coffa Blynyddol, Penwythnos Aduniad Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru ac Ymweliad Dinesig â’r Eglwys.
Yn ogystal â’r digwyddiadau dinesig mwy ffurfiol, bydd y Maer fel arfer yn bresennol mewn hyd at 400 o ddigwyddiadau yn ystod y Flwyddyn Faerol.
Maer 2013/2014 yw'r Cynghorydd I David Bithell a maeres Mrs Viginia Bithell.
Ar ddechrau’r flwyddyn, gall y Maer enwi elusen neu elusennau a fydd yn derbyn yr elw a wneir yn ei ddigwyddiadau codi arian yn ystod y flwyddyn. Digwyddiadau:
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae elusennau lleol wedi derbyn nifer o filoedd o bunnoedd o ganlyniad i gronfa elusennol y Maer. Yn ogystal â’r elusennau a enwebir, mae’r Maer yn ystyried pob cais am roddion a wneir gan unigolion anghenus ac achosion teilwng eraill.
ebost: mayoralty@wrexham.gov.uk
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Taflon Wybodaeth - Achlysuron Dinesig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Taflon Wybodaeth - Achlysuron Dinesig - Fersiwn PDF 80Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.