Yn y penodau blaenorol rydym wedi’ch tywys drwy’r holl elfennau sy’n berthnasol i’ch cyfrifiad budd-dal. Yn y bennod hon byddwn yn dwyn yr holl wybodaeth at ei gilydd er mwyn ichi gael gweld sut byddwn yn cyfrifo eich budd-dal.
Ar gyfer hawlwyr sydd ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, a Chredyd Pensiwn Gwarantedig:

Ar gyfer hawlwyr NAD sydd ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, a Chredyd Pensiwn Gwarantedig:
Mae eich cyfrifiad budd-dal ychydig yn fwy cymhleth. I ddechrau rhaid ichi ddarganfod beth yw’r swm cymwys ar gyfer amgylchiadau eich teulu chi, ac yna ddarganfod beth yw incwm wythnosol eich teulu. Yna rhaid tynnu’r incwm wythnosol o’r swm cymwys, i roi swm eich gor-incwm.
Oherwydd cymhlethdodau’r cyfrifiadau hyn gofynnwn ichi ddefnyddio’n cyfrifydd budd-dal ar-lein i weld a ydych yn gymwys i dderbyn budd-dal. Fodd bynnag, dangoswn y broses gyfrifo unwaith i’r cyfrifiadau cymhleth blaenorol yma gael eu gwneud.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?