Gostyngiadau Gofal / Anabl

Gallwch fod â hawl i nifer o ostyngiadau Treth y Cyngor fel gofalwr neu rywun anabl os yw un o’r canlynol yn wir.

  • Os ydych chi neu rhywun yn eich cartref yn un o’r categorïau canlynol a dim ond 1 arall sy’n byw yno:
    • Gydag amhariad meddyliol difrifol.
    • Rhai gofalwyr.
    • Cleifion mewn ysbyty.
    • Pobl mewn cartrefi gofal preswyl, cartrefi nyrsio a hosteli sy’n darparu llawer o ofal.
    • Dan orchymyn Deddf Iechyd Meddwl.
  • Os oes amhariad meddyliol difrifol ar bawb yn yr eiddo
  • Os yw eich cartref yn wag oherwydd:
    • Eich bod yn byw mewn cartref gofal / preswyl.
    • Eich bod yn byw yn rhywle arall ac yn derbyn gofal personol.
    • Eich bod yn byw yn rhywle arall at ddibenion rhoi gofal personol.
    • Eich bod yn cael eich dal dan orchymyn Deddf Iechyd Meddwl.
  • Os oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd ac angen lle ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion arbennig.

Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gostyngiadau hyn ond, os byddwch angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch ag aelod o Isadran Treth y Cyngor.

Gydag Amhariad Meddyliol Difrifol

Meini Prawf

I ddosbarthu pobl gydag amhariad difrifol, at ddibenion Treth y Cyngor, byddai angen i feddyg gadarnhau eu cyflwr meddygol a byddai angen iddynt fod yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys.

Y budd-daliadau cymwys yw:

  • Budd-dal Analluedd.
  • Lwfans Anabledd Difrifol.
  • Tâl Atodol Diweithdra.
  • Lwfans Gweithio i’r Anabl.
  • Elfen ofal cyfradd uwch neu ganol Lwfans Byw i’r Anabl.
  • Lwfans Gweini.
  • Lwfans Gweini Cyson.
  • Budd-dal Analluogrwydd dan Adran 30A o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau a Budd-daliadau) 1992.
  • Budd-dal Analluogrwydd dan Adrannau 40 a 41 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau a Budd-daliadau) 1992.
  • Pensiwn Anabledd Uwch ar gyfer gweini cyson.

Gofynion

I wneud cais am ostyngiad neu eithriad fel hyn byddai angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • Cadarnhad ysgrifenedig o:
    • nifer yr oedolion sy’n byw yn yr eiddo
    • enw bwy bynnag pwy bynnag sydd ag amhariad meddyliol difrifol
  • Tystiolaeth o unrhyw fudd-daliadau cymwys a gewch. Gall hyn fod naill ai’n gopi o’r llyfr talu neu lythyr swyddogol – rhaid iddo ddangos enw’r unigolyn, y math o fudd-dal, y dyddiad y cafodd ei ddyfarnu a’r swm.

Bydd angen i ni ysgrifennu at y meddyg i gadarnhau’r cyflwr meddygol.

Gofalwyr

Gostyngiadau Gofalwyr

Meini Prawf

I gael eich dosbarthu fel gofalwr at ddibenion Treth y Cyngor bydd angen i chi fod yn un o’r categorïau canlynol.

Categori 1

Rhywun sydd:

  • yn rhoi gofal neu gefnogaeth ar ran yr Awdurdod Lleol, y Goron neu elusen, neu sydd yng nghyflogaeth yr un sy’n derbyn y gofal ac a gyflwynwyd gan un o’r rhain ac
  • yn gofalu am o leiaf 24 awr yr wythnos ac
  • yn byw yn y cartref lle mae’r gofal yn cael ei ddarparu, neu un sy’n cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol, y Goron, yr elusen neu’r un sy’n derbyn y gofal.

Categori 2

Rhywun sydd:

  • yn byw yn yr un eiddo â’r un sy’n derbyn y gofal ac
  • yn darparu o leiaf 35 awr o ofal bob wythnosa
  • phwy bynnag sy’n derbyn y gofal yn cael un o’r canlynol:
    • Cyfradd uwch Lwfans Gweini.
    • Cyfradd uwch elfen ofal Lwfans Byw i’r Anabl.
    • Cynnydd mewn Pensiwn Anabledd.
    • Cynnydd mewn Lwfans Gweini Cyson.

Ni all yr un sy’n derbyn gofal fod yn briod, partner neu blentyn i chi.

Gofynion

I wneud cais am ostyngiad fel hyn byddai angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • Cadarnhad ysgrifenedig o:
    • nifer yr oedolion sy’n byw yn yr eiddo,
    • enw llawn yr un sy’n darparu gofal,
    • enw llawn yr un sy’n derbyn gofal,
    • eu perthynas â’i gilydd (e.e. cyfaill, mab, cyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol),
    • nifer yr oriau gofal sy’n cael eu darparu,
  • Tystiolaeth o’r cyflog (os yw’n berthnasol).
  • Tystiolaeth o’r budd-daliadau sy’n cael eu derbyn. Rhaid i hyn ddangos enw’r unigolyn, y math o fudd-dal, y dyddiad y cafodd ei ddyfarnu a’r swm.

Eithriadau Gofalwyr

Meini Prawf

Os byddwch yn gadael eich eiddo’n wag oherwydd eich bod yn byw yn rhywle arall i roi gofal personol, gallwch hawlio eithriad os ydych yn cyflawni’r gofynion.

Gofynion

I wneud cais am eithriad fel hyn byddai angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • Cadarnhad ysgrifenedig o’r canlynol:
    • y dyddiad y gadawsoch yr eiddo
    • bod yr eiddo’n wag
    • eich bod wedi gadael i roi gofal yn rhywle arall
    • y cyfeiriad lle’r ydych yn byw
    • enw a chyfeiriad yr un sy’n derbyn eich gofal
    • math a faint o ofal yr ydych yn ei ddarparu
    • a ydych yn bwriadu dychwelyd
  • Tystiolaeth eich bod yn byw yn y cyfeiriad newydd (er enghraifft – bil).

Cleifion mewn Ysbyty

Meini Prawf

At ddibenion Treth y Cyngor os mai eich prif breswylfa yw ysbyty ac nad ydych yn bwriadu dychwelyd i’ch cartref, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad neu eithriad. Nid yw hyn yn cynnwys y rhai sy’n mynd i ysbyty am ychydig wythnosau ac yna’n dychwelyd i’w cartref. Os ydych wedi gadael yr eiddo’n wag, efallai y bydd gennych hawl i eithriad ac, os oes dim ond 1 yn byw yno, yna gall fod â hawl i ostyngiad.

Gofynion

I wneud cais am ostyngiad neu eithriad fel hyn byddai angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • Cadarnhad ysgrifenedig o’r canlynol:
    • nifer ac enwau’r oedolion sy’n dal i fyw yn yr eiddo, neu gadarnhad bod yr eiddo’n wag
    • enw a chyfeiriad yr ysbyty
    • y dyddiad yr aethoch i’r ysbyty
    • pa mor hir yr ydych yn debygol o fod i ffwrdd
    • a ydych yn bwriadu dychwelyd.

Pobl yn Derbyn Gofal

Meini Prawf

At ddibenion Treth y Cyngor os ydych wedi gadael eich cartref i dderbyn gofal mewn eiddo heblaw ysbyty neu gartref nyrsio efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad neu eithriad. Dylai’r gofal a gewch fod oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu afiechyd y meddwl. Os ydych wedi gadael yr eiddo’n wag efallai y bydd gennych hawl i eithriad ac os mai dim ond 1 sy’n byw yno yna gall fod â hawl i ostyngiad.

Gofynion

I wneud cais am ostyngiad neu eithriad fel hyn byddai angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • Cadarnhad ysgrifenedig o’r canlynol:
    • nifer ac enwau’r oedolion sy’n dal i fyw yn yr eiddo, neu gadarnhad bod yr eiddo’n wag
    • enw a chyfeiriad y cartref / lleoliad gofal
    • y dyddiad yr aethoch i dderbyn gofal
    • rheswm dros ddarparu’r gofal (e.e. henaint)
    • pa mor hir yr ydych yn debygol o fod i ffwrdd
    • a ydych yn bwriadu dychwelyd
    • y sefyllfa yn eich eiddo (e.e. gwag, partner yn dal yno).

Daliwyd dan Ddeddf Iechyd Meddwl

Meini Prawf

At ddibenion Treth y Cyngor os ydych yn cael eich cadw yn rhywle arall dan Ddeddf Iechyd Meddwl (er enghraifft mewn ysbyty) efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad neu eithriad. Os ydych wedi gadael yr eiddo’n wag, efallai y bydd gennych hawl i eithriad ac, os nad oes ond 1 yn byw yno bellach gall fod â hawl i ostyngiad.

Gofynion

I wneud cais am ostyngiad neu eithriad fel hyn byddai angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • Cadarnhad ysgrifenedig o’r canlynol:
    • nifer ac enwau’r oedolion sy’n dal i fyw yn yr eiddo, neu gadarnhad bod yr eiddo’n wag
    • enw a chyfeiriad yr ysbyty – y dyddiad y cawsoch eich cadw
    • pa mor hir yr ydych yn debygol o fod i ffwrdd (dyddiad disgwyliedig eich rhyddhau)
    • a ydych yn bwriadu dychwelyd
    • unrhyw dystlythyr perthnasol.

Rhyddhad Anabledd

Meini Prawf

Mae pwy bynnag sy’n anabl:

  • Yn gallu bod yn oedolyn neu blentyn
  • Yn gallu bod yn rhywun heblaw pwy bynnag sy’n gyfrifol am dalu treth y cyngor
  • Yn gorfod byw yn yr eiddo.

Gall rhywun ag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl fod yn gymwys yn ogystal â rhywun ag anabledd corfforol.

I fod â hawl i ostyngiad rhaid bod o leiaf un o’r canlynol yn eich cartref:

  • Ystafell a addaswyd ar gyfer yr unigolyn anabl. Er enghraifft, yn cael ei defnyddio i gadw offer dialysis
  • Ail ystafell ymolchi neu gegin y mae angen i’r unigolyn anabl eu defnyddio
  • Addasiadau ar gyfer defnyddio cadair olwynion yn y cartref bob amser. Er enghraifft, lledu fframiau drysau, tynnu waliau ar gyfer y gadair olwynion.

Dylid nodi bod yr ystafell yn gorfod bod â chyswllt penodol â’r anabledd (e.e. neilltuo ar gyfer dialysis, therapi) yn hytrach na dim ond ar gyfer trefniadau byw arferol. Er enghraifft – nid yw ystafell fyw sy’n cael ei defnyddio gan rywun anabl fel ystafell wely’n cymhwyso dan y rheoliadau hyn.

Gofynion

I wneud cais am ryddhad anabledd, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • Cadarnhad ysgrifenedig o’r canlynol:
    • Enw’r unigolyn anabl
    • Yr anabledd
    • Manylion yr addasiadau a wnaed i’r eiddo.

Bydd angen i ni ymweld â’r eiddo i gadarnhau ei fod yn cyrraedd y meini prawf angenrheidiol.

HAWLIO GOSTYNGIAD

Cysylltwch ag Isadran Treth y Cyngor ar 01978 292031 i hawlio unrhyw un o’r gostyngiadau neu eithriadau uchod.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig