Mae dyddiad dechrau eich hawliad budd-dal yn ddibynnol ar ba ddyddiad y barnwn ni ichi wneud eich hawliad, ac yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn dechrau ar y dydd Llun wedi’r dyddiad hwnnw. Mae hi felly’n bwysig eich bod yn dychwelyd eich cais am fudd-dal yn ddi-oed.
Mae dyddiad eich cais yn ddibynnol ar 5 ffactor:
Byddwn yn penderfynu eich dyddiad hawlio ar sail y ffactorau hyn ac yna’r dyddiad y bydd eich budd-dal yn dechrau. Fel rheol bydd eich budd-dal yn dechrau ar y dydd Llun sy’n dilyn eich dyddiad hawlio.
Noder nad oes modd ichi hawlio budd-dal mwy na 13 o wythnosau ymlaen llaw cyn eich bod yn atebol a byddwch dim ond yn derbyn budd-dal wedi symud i mewn. Os ydych ar fin troi’n 60 mlwydd oed cewch hawlio budd-dal hyd at 17 wythnos cyn eich pen-blwydd, ac os ydych dan 18 mlwydd oed ac yn disgwyl bod yn atebol i dalu Treth Cyngor, cewch hawlio hyd at 8 wythnos cyn eich pen-blwydd yn 18 mlwydd oed.
Dyddiad dechrau eich Budd-dal Tai a Threth Cyngor fydd:
Pobl sydd ar Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm), a Chymhorthdal Incwm:
Os byddwn yn derbyn eich cais am Fudd-dal Tai a Threth Cyngor o fewn un mis wedi ichi hawlio Budd-daliadau’r Wladwriaeth, eich dyddiad hawlio fydd y diwrnod cyntaf ichi fod yn gymwys i Fudd-dal y Wladwriaeth. Felly hefyd bydd eich Budd-dal Tai a Threth Cyngor yn dechrau o’r dydd Llun canlynol. Fodd bynnag os ydych yn oedi cyn gyrru eich hawliad atom, a’n bod yn ei dderbyn fwy na mis wedi’r dyddiad y gwnaethoch gais am Fudd-daliadau’r Wladwriaeth, eich dyddiad hawlio fydd y dyddiad y byddwn ni’n derbyn eich cais. Bydd eich Budd-dal Tai a Threth Cyngor yn dechrau dim ond o’r dydd Llun canlynol.
Pobl o oedran gweithio, nad sydd ar Lwfans Ceisio Gwaith (si) a Chymhorthdal Incwm:
Bydd eich budd-dal yn dechrau o’r dydd Llun wedi’r dyddiad y gwnaethoch chi hawlio budd-dal.
Eich bwriad i hawlio:
Os ydych yn hysbysu’r Cyngor eich bod am hawlio budd-dal a’ch bod yn dychwelyd cais am fudd-dal o fewn un mis i’ch cais cychwynnol, eich dyddiad hawlio fydd y dyddiad y gwnaethoch ofyn am gael hawlio budd-dal, a bydd eich budd-dal yn dechrau o’r dydd Llun canlynol.
Yn dilyn profedigaeth neu wahaniad:
Os oedd eich cyn bartner yn derbyn budd-dal a’ch bod chi yn gwneud cais o fewn un mis wedi iddynt farw neu ar ôl ichi wahanu, eich dyddiad hawlio fydd dyddiad y digwyddiad anffortunus, a bydd eich cais yn dechrau ar y diwrnod wedi i’w budd-dal ddarfod.
Pobl sy’n 60 mlwydd oed neu hŷn:
Os ydych chi, neu’ch partner dros 60 mlwydd oed, mae’n bosib y bydd hawl i fudd-dal tai a threth cyngor yn dechrau’n awtomatig o dri mis cyn dyddiad eich cais. Bydd diwrnod cyntaf eich hawl yn ddibynnol wedyn ar:
Bydd yn rhaid ichi ddweud wrthym pam na lwyddoch chi i gyflwyno’ch cais yn gynt, a hefyd i ba ddyddiad yr hoffech inni ôl-ddyddio eich budd-dal. Gallwn ôl-ddyddio cais gan chwe mis ar y mwyaf, os ydych dan 60 mlwydd oed, neu gan dri mis os ydych chi a’ch partner dros 60 mlwydd oed.
Er mwyn inni ganiatáu i’ch cais gael ei ôl-ddyddio rhaid inni fod yn fodlon eich bod wedi dangos ‘rheswm da’ dros beidio â hawlio’n gynt, a bod y ‘rheswm da’ hwn wedi bodoli drwy holl gyfnod y cais i ôl-ddyddio.
Rydym yn ystyried pob cais ôl-dalu yn unigol. Rhaid ichi ddarparu cymaint o wybodaeth berthnasol ag sy’n bosib, i gefnogi’ch cais. Nid allwn dderbyn anwybodaeth ynglŷn â’r budd-daliadau i fod yn rheswm derbyniol i brofi “rheswm da”.
Rhai enghreifftiau cyffredin o’r hyn y gallem ei dderbyn yn “reswm da” yw:
Noder y gall y Cyngor ofyn am dystiolaeth i gefnogi’ch cais i ôl-ddyddio budd-dal.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?