Nid yw taliad tai dewisol (TTD) yn rhan o’r cynllun Budd-dal Tai (BT), er bod yn rhaid ichi fod yn derbyn BT a BTC er mwyn gallu hawlio un.
Diben y cynllun hwn yw cynnig “cymorth ariannol pellach gyda chostau tai”, ac i wneud hyn mae’r Llywodraeth yn darparu grant cyfyngedig i Gyngor Wrecsam i’w ddosbarthu fel y mynnent ar sail amgylchiadau unigol. Unwaith i’r grant ar gyfer y flwyddyn ariannol gael ei wario nid yw’n gyfreithlon i’r Cyngor wneud unrhyw daliadau pellach.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn TTD bydd rhaid ichi ddangos eich bod yn dioddef caledi ariannol am nad yw’ch Budd-dal Tai a Threth Cyngor yn ddigon i dalu’ch costau tai (rydym yn ystyried Treth Cyngor i fod yn gostau tai). Nid oes raid ichi ddangos eich bod yn dioddef caledi, na bod eich amgylchiadau yn “eithriadol”, ond bydd gofyn ichi ddangos bod angen “cymorth ariannol pellach” arnoch i gwrdd ag unrhyw ddiffyg sydd gennych yn eich rhent.
Nid oes gan y Cyngor ffurflen gais yn benodol ar gyfer TTD, yn hytrach gofynnwn i hawlwyr ysgrifennu atom gan egluro pam maent yn teimlo y dylent gael eu hystyried ar gyfer TTP.
I brofi’ch hawliad TTP mae’r Cyngor yn gofyn ichi ddarparu datganiad ariannol llawn sy’n dangos eich incwm a’ch gwariant. O edrych ar hwn byddwn yn gallu pennu faint o gymorth i’w gynnig.
Yr hyn fydd y Cyngor yn ei wneud fydd cymharu’ch incwm a’ch gwariant i weld a oes angen “cymorth ariannol pellach” arnoch i gwrdd â’ch gofynion tai. Cofiwch y bydd y penderfyniad a wnawn yn “ddewisol” heb reolaethau llym, er bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob penderfyniad a wneir yn deg ac yn rhesymol.
Noder nad yw’r rheolaethau parthed trin incwm mewn hawliadau BT yn berthnasol wrth wneud penderfyniad TTP, ac y gallem benderfynu cynnwys incwm mewn cyfrifiad TTP a allai fod wedi ei ddiystyru yn eich asesiad ar gyfer BT.
Mewn modd tebyg gallwn ddefnyddio disgresiwn wrth bennu a yw eich treuliau yn rhai rhesymol. Bydd unrhyw benderfyniadau a wneir ynghylch treuliau person yn cael eu gwneud ar sail unigol ac fe all y Cyngor ofyn am eglurhad ychwanegol.
Ni sydd i benderfynu yn ôl ein disgresiwn faint o’r diffyg yn eich rhent y byddwn yn ei dalu gyda TTP, fodd bynnag ni all y swm fod yn fwy na’ch rhent cymwys na’r atebolrwydd Treth Cyngor wedi eu cyfuno gyda’ch Budd-dal Tai a Threth Cyngor.
Gall y Cyngor ddyfarnu TTP cyhyd â’u bod yn teimlo’i fod yn angenrheidiol. Gallwn ddyfarnu TTP am gyfnod byr er mwyn galluogi’r derbynnydd i roi trefn ar eu hamgylchiadau ariannol neu gallwn wneud dyfarniad amhenodol hyd nes bo newid ffafriol i amgylchiadau’r hawliwr. Mewn unrhyw achos byddwn yn datgan yn glir pryd fydd y dyfarniad yn dechrau ac yn dod i ben.
Mae gan y Cyngor ddisgresiwn hefyd i ôl-ddyddio dyfarniad TTP i gyd-fynd â dechrau amgylchiadau’r hawliwr.
Bydd y Cyngor yn ysgrifennu atoch i egluro’r penderfyniad a wnaethom. Bydd y llythyr hwn yn dangos beth yw’r dyfarniad, am ba hyd, a’r trefniadau ar gyfer adolygu’r penderfyniad, eich cyfrifoldebau a’ch hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Noder nad yw’r hawliau apêl sy’n berthnasol i Fudd-dal Tai a Threth Cyngor yn bodoli ar gyfer TTP.
Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i hysbysu landlordiaid ynglŷn â phenderfyniad TTP.
Mae’n ofynnol ar i hawliwr sy’n derbyn TTP hysbysu’r Cyngor o unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n effeithio’r dyfarniad TTP. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y newid hefyd yn effeithio BT neu BTC yr hawliwr a bydd hyn yn amlwg o’u hysbysiad BT / BTC.
Os yw’r amgylchiadau yn rhai sy’n golygu nad yw dyfarniad TTP yn briodol mwyach, mae gan y Cyngor yr hawl i derfynu’r dyfarniad o ddiwedd yr wythnos fudd-dal pryd newidiodd eich amgylchiadau.
Bydd y Cyngor dim ond yn adennill TTP a ordalwyd os digwyddodd hyn fel canlyniad i:
Does dim hawliau apelio tebyg ar gyfer gwneud penderfyniad TTP fel sydd ar gyfer penderfynu BT / BTC. Os ydych yn anghytuno gyda’n penderfyniad, yna a fyddech gystal ag ysgrifennu at y Cyngor yn amlinellu’r rhesymau pam rydych yn anghytuno gyda’n penderfyniad a byddwn yn adolygu’r penderfyniad a wnaed. Os na fedrwn newid ein penderfyniad byddwn yn dweud wrthoch chi pa hawliau sydd gennych bryd hynny.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?