Cwestiynau Amrywiol

Yn yr adran hon ceir atebion i gwestiynau amrywiol sy’n cael eu gofyn yn aml. Nid yw’r adran hon yn ailadrodd gwybodaeth a geir mewn adrannau eraill, nac ychwaith yn ateb ymholiadau sy’n ymwneud â’r broses benderfynu ar gyfer Budd-daliadau Tai a Threth Cyngor.

Pa safonau o wasanaeth cwsmer mae’r gwasanaeth budd-daliadau yn ceisio’u cyflawni?

Mae’r Gwasanaeth Budd-daliadau yn gweithio tuag at gwrdd â’r Safonau Gofal Cwsmeriaid Corfforaethol ac mae’n gosod ei dargedau perfformio llym ei hun bob blwyddyn.

  • Rydym yn anelu at ateb 80% o’r holl alwadau teliffon o fewn 15 eiliad.
  • Rydym yn anelu at gyfradd o lai na 8% ar gyfer galwadau teliffon a adawyd.
  • Byddwn yn ceisio prosesu pob hawliad newydd o fewn 27 diwrnod o’u derbyn.
  • Byddwn yn ceisio gwneud penderfyniad ar bob hysbysiad newid mewn amgylchiadau o fewn 7 diwrnod o’u derbyn.
  • Byddwn yn anelu at benderfynu 96% o bob hawliad newydd o fewn 14 diwrnod o dderbyn yr holl wybodaeth a’r dystiolaeth sydd ei angen i wneud penderfyniad.

Mae modd dilyn ein cynnydd tuag at ein nodau yn yr adran “Ein Perfformiad”.

Beth fyddwch chi’n wneud i sicrhau bod y wybodaeth a roddaf yn ddiogel?

Mae’r Adran Fudd-daliadau yn dilyn y Ddeddf Amddiffyn Data i’r llythyren. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’n safonau Amddiffyn Data Corfforaethol ewch i: Amddiffyn Data.

Mae’r holl wybodaeth a dderbyniwn yn cael ei chadw’n ddiogel ar ffeiliau papur ac electronig. Maent wedi eu diogelu gan gyfrinair a dim ond gweithwyr y Cyngor sy’n cael mynediad iddynt.

Dim ond i ddibenion atal a chanfod twyll y bydd eich data yn cael ei rannu gydag adrannau / asiantaethau eraill o’r Llywodraeth. Nid ydym yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda thrydydd parti heb eich cydsyniad ysgrifenedig chi.

Mae unrhyw wybodaeth a rennir gydag adrannau ac asiantaethau’r Llywodraeth yn cael ei wneud mewn modd diogel.

Os byddwch yn darparu eitemau o dystiolaeth werthfawr i gefnogi’ch cais, byddwn yn llungopïo’r wybodaeth ac yn dychwelyd y dogfennau gwreiddiol atoch.

Fedra i gael mynediad i wybodaeth sydd gennych amdanaf i?

Mae’r Cyngor yn glynu at Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Os hoffech wybod mwy am y Gwasanaeth Budd-daliadau edrychwch ar y wybodaeth sydd ar gael yn: Rhyddid Gwybodaeth cyn gwneud eich cais.

Sut ydw i’n cwyno, neu’n canmol, y gwasanaeth a ddarperir gennych?

Os hoffech wneud sylwadau am y gwasanaeth a ddarperir gennym, gallwch un ai ysgrifennu’n uniongyrchol at y Gwasanaeth Budd-daliadau neu ddefnyddio’r cyfleuster ar-lein: Cwynion.

Rwyf angen help i gwblhau cais am fudd-dal?

Ewch i dudalen Adolygiadau.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig