Strategaeth Wrth Dwyll

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydnabod bod twyll, yn achosi colled ariannol, yn ogystal â bod yn niweidiol i ddarparu gwasanaethau, a niweidio enw da a hyder yn y Cyngor, a chyrff cyhoeddus yn gyffredinol.

Mae’r Cyngor wedi adolygu ei drefniadau gwrth dwyll presennol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol wrth adnabod a mynd i’r afael â phob math o dwyll gan gynnwys llwgrwobrwyo a thwyll budd-daliadau.

Mae twyll yn fater difrifol sy’n effeithio arnom ni i gyd, oherwydd yn y pen draw, mae’n arian sy’n cael ei dynnu oddi wrth wasanaethau eraill yn anghyfreithlon.  Mae’r cyngor yn gweithredu polisi dim goddefgarwch yn erbyn twyll ac ni fydd yn caniatáu iddo gael ei ddioddef na pharhau.  Dyna pam yr ydym yn parhau i roi mesurau mewn lle i helpu i roi terfyn arno.
Lle mae twyll yn digwydd, yna bydd y Cyngor yn gweithredu ar unwaith i adfer unrhyw golled ac i rwysto’r twyll rhag digwydd eto.  Ystyrir erlyniadau troseddol lle maent yn briodol mewn ymgynghoriad â Heddlu Gogledd Cymru.

Byddem yn annog unrhyw un sy’n amau twyll i gysylltu gyda’r Cyngor ac rydym yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd y gellir gwneud hyn yn gyfrinachol. 

Yn ogystal â ffurflen adrodd am dwyll ar lein, mae’r Cyngor yn cynnig llinell ffôn gyfrinachol ar 01978 292728 lle gellir trosglwyddo gwybodaeth 24 awr y dydd. Gallwch alw yn swyddfeydd y Cyngor hefyd yn Stryt y Lampint a siarad gyda rhywun yn gyfrinachol. 

Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu pob math o dwyll ac rydym yn gwerthfawrogi cymorth parhaus y cyhoedd gyda’n gweithgareddau gwrth dwyll.

Datganiad Polisi Gwrth Dwyll

  1. Yng nghyd-destun y ddogfen hon, mae’r Cyngor yn cydnabod fod y term gwrth dwyll hefyd yn cynnwys troseddau eraill fel lladrad, llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth.
  2. Mae’r Cyngor yn disgwyl y safonau uchaf o briodoldeb a moesau wrth gyflwyno ei wasanaethau a rheoli ei adnoddau a’i asedau.
  3. Bydd y Cyngor yn cynnal ei fusnes yn deg, gonest ac agored bob amser.
  4. Nid yw’r Cyngor, ac ni fydd, yn dioddef unrhyw fath o dwyll, llygredigaeth na llwgrwobrwyaeth wrth gyflawni ei gyfrifoldebau, gan gynnwys twyll Budd-daliadau Tai / Treth Cyngor.
  5. Bydd y Cyngor yn atal twyll, llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth drwy ddylunio a ffurfio polisïau a systemau addas i leihau’r risg.
  6. Bydd y Cyngor yn parhau i hyrwyddo darganfod ac ymchwilio i dwyll, llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth gan gynnwys gweithredu sancsiynau cadarn, effeithlon a gweithdrefnau adfer pan fydd wedi ei ddarganfod.

    Datganiad Gwrth Dwyll
  7. Mae’r Cyngor yn cydnabod fod twyll yn drosedd.   Nid ydym, ac ni fyddwn yn talu llwgrwobrwyon nac yn cynnig cymhellion amhriodol i unrhyw un at unrhyw ddiben, ac nid ydym ac ni fyddwn yn derbyn llwgrwobrwyon na chymhellion amhriodol.  Mae defnyddio trydydd parti fel cwndid i sianelu llwgrwobrwyon i eraill yn drosedd. 
  8. Nid ydym, ac ni fyddwn, yn cymryd rhan yn uniongyrchol nac yn annog llwgrwobrwyaeth fel arall.   Rydym wedi ymrwymo i atal, osgoi a darganfod llwgrwobrwyaeth. Nid oes gennym oddefgarwch o gwbl tuag at lwgrwobrwyaeth. Ein nod yw cynnal cydymffurfiaeth gwrth-lwgrwobrwyaeth yn ein “busnes fel arfer” yn hytrach nac fel ymarfer unwaith yn unig.

Strategaeth Wrth Dwyll

Strategaeth Wrth Dwyll

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformatau isod:

Strategaeth Wrth Dwyll - fersiwn Word 177Kb

Strategaeth Wrth Dwyll - fersiwn PDF 266Kb

Strategaeth Wrth Dwyll - fersiwn Testun Plaen 448Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig