Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn trin twyll budd-daliadau’n ddifrifol dros ben.
Tra’r ydym yn derbyn bod mwyafrif y bobl sy’n hawlio budd-daliadau’n onest, mae’r lleiafrif sy’n dwyn budd-daliadau’n costio i bob trethdalwr gonest arall yn Wrecsam.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn bod twyll budd-daliadau, yn ogystal â pheri colled ariannol, yn niweidiol i ddarpariaeth gwasanaethau ac yn niweidio enw da’r Cyngor a chyrff cyhoeddus eraill, a hyder ynddynt.
Os cewch eich dal yn cyflawni twyll budd-daliadau bydd y Cyngor yn cymryd camau priodol a allai arwain at eich cael yn euog o drosedd a’ch dedfrydu i garchar.
Bydd y wefan hon yn egluro’r canlynol:
Mae dwy adran arall hefyd sy’n tynnu sylw at ba mor llwyddiannus yr ydym ar ddatgelu ac atal twyll budd-daliadau:
Gall hawliadau yswiriant twyllodrus yn erbyn Awdurdodau Lleol gostio miloedd o bunnau i drethdalwyr y Cyngor bob blwyddyn. Mae Cynghorau yn derbyn hawliadau ffug gan leiafrif o bobl syn honni trwy dwyll eu bod wedi cael anaf neu fod eu heiddo wedii ddifrodi.
Os ydych yn amau unrhyw un o hawlio taliadau yswiriant trwy dwyll, ffoniwch y rhif rhadffn cyfrinachol.
Ffn: 0800 3289270
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?