Crëwyd yr adran hon i egluro rhai o’r ymadroddion mwy cymhleth sy’n ymwneud â Budd-dal Tai a Threth Cyngor. Mae wedi ei threfnu yn ôl yr wyddor, er mwyn hwyluso’r defnydd ohoni.
| Achos Da | Yr hyn sydd raid ei brofi pan fo hawliwr yn methu cyflwyno cais ar yr adeg gywir, neu’n apelio’n hwyr yn erbyn penderfyniad. |
| Ad-daliad Ail Oedolyn | Ad-daliad a ddyfarnir i dalwr Treth Cyngor fel iawndal am golli disgownt Treth Cyngor a achoswyd gan bresenoldeb ail berson atebol yn yr eiddo sydd ar incwm isel. Mae’n bosib cael mwy nag un ail berson atebol yn yr eiddo ond ni all y person hwn fod yn bartner i’r person atebol. |
| Ad-daliad Rhent | Y term technegol ar gyfer Budd-dal Tai a ddyfarnir i denantiaid yr Awdurdod Lleol (Cyngor). |
| Ailystyried | Cais i edrych ar benderfyniad unwaith eto. Mae gan bob hawliwr yr hawl i ofyn am i benderfyniad gael ei ailystyried o fewn mis o dderbyn yr hysbysiad. |
| Amddifadu o Gyfalaf | Gwaredu cyfalaf er mwyn ennill budd-dal ychwanegol. |
| Amodau yn ymwneud â Hawl | Term a ddefnyddir i nodi a yw person yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai a Threth Cyngor yn ôl eu hamgylchiadau. |
| Annibynnydd | Person, dros 16 mlwydd oed, sy’n byw yng nghartref yr hawliwr ar sail anfasnachol. |
| Apeliadau | Mae gan berson sy’n hawlio budd-dal hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad budd-dal os ydynt yn anfodlon gyda’r penderfyniad a wnaed. Mae cyfyngiadau ar y penderfyniadau y gellir apelio yn eu herbyn a dylid apelio o fewn un mis calendr wedi i’r hawliwr dderbyn yr hysbysiad. |
| Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang | Ardal a ddefnyddir gan y Gwasanaeth Swyddog Rhent i osod Cyfraddau Lwfans Tai Lleol. |
| Atal Budd-dal | Gweithred gan Awdurdod Lleol sy’n atal taliadau dros dro. Fel rheol mae’r penderfyniad i atal taliadau yn digwydd fel canlyniad i ymholiad ynglŷn ag a yw hawliwr yn parhau i gwrdd â’r un amodau ynglŷn â hawl. Nid oes unrhyw hawliau apêl ynghlwm wrth weithred atal budd-dal. |
| Cais am wybodaeth bellach | Cais a wneir, yn ysgrifenedig, gan y Cyngor, am dystiolaeth i gefnogi hawliad am fudd-dal. Dylid darparu’r dystiolaeth a’r wybodaeth angenrheidiol cyn pen un mis calendr o ddyddiad y cais. |
| Camgymeriad mewn ffaith neu ddeddf | Camgymeriadau penderfynu sy’n digwydd fel canlyniad i gamddehongli’r gyfraith ar Fudd-dal Tai a Threth Cyngor neu faith ragwybodol i’r hawliad. |
| Camgymeriad Swyddogol | Camgymeriad penderfynu gan yr Awdurdod Lleol neu adran neu asiantaeth y Llywodraeth. |
| Cartref | Y bobl sy’n rhan o deulu’r hawliwr, y byddwn yn eu cyfri i bennu eu swm cymwys. |
| Casgliad Negyddol | Defnyddir hwn i benderfynu hawliad diffygiol ble mae’r hawliwr wedi methu cadarnhau eu hawliad ar ôl cael cyfle digonol i wneud hynny. Bydd casgliad negyddol fel arfer yn golygu nad yw hawliwr yn cwrdd ag amodau yn ymwneud â hawl. |
| Ceisiwr Lloches | Nid yw ceisiwr lloches yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor hyd nes bod eu cais am loches a statws ffoadur wedi ei glywed. Cefnogir ceiswyr lloches gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Cefnogi Lloches (GCCLl). |
| Cydatebolrwydd | Mae hyn yn digwydd pan fo mwy nag un person yn atebol ar gyfer costau tai. Fel rheol mae’r atebolrwydd wedi ei rannu’n gyfartal rhwng y partïon atebol gyda’r budd-dal wedi ei seilio ar gyfran y person o’r atebolrwydd. |
| Cyfalaf | Unrhyw arian sydd gan berson mewn banc neu gymdeithas adeiladu, mewn cyfrandaliadau, eiddo neu dir (heblaw am ble maent yn byw), buddsoddiadau, neu arian parod, nad sydd ar gyfer costau byw bob dydd. |
| Cyfnod Asesu | Mae’n ymwneud ag hawliadau gan berson hunangyflogedig, gan adlewyrchu’r cyfnod y byddwn yn ei ddefnyddio i benderfynu beth yw eu ffigwr incwm a enillwyd. |
| Cymdeithasau Tai | Cwmnïau Nid er Elw sy’n ymddwyn fel landlordiaid sy’n gymdeithasol gyfrifol. Hefyd nid ydynt yn talu llog neu ddifidendau uwchlaw terfyn a bennir gan Drysorlys E.M. Fel rheol nid yw tenantiaid Cymdeithasau Tai yn destun penderfyniadau rhent cyfyngedig. |
| Cymhwyster i gael budd-dal | Mae’n cyfeirio at a yw person yn cwrdd â’r cymwysterau a osodir sy’n eu galluogi i hawlio budd-dal. |
| Cyplau | Trefniant ble mae dau oedolyn gyda’i gilydd unai fel gŵr a gwraig neu fel petaent. |
| Dangosydd Budd-dal Iawn | Dangosydd perfformiad newydd sy’n mesur nifer y newidiadau mewn amgylchiadau sy’n effeithio hawl cwsmer i BT / BTC a sefydlir ac a brosesir gan yr Awdurdod Lleol mewn cyfnod o flwyddyn. Fe’i cyflwynwyd yn Ebrill 2008. |
| Dangosydd yr Amser Iawn | Dangosydd perfformiad newydd sy’n mesur faint o amser, ar gyfartaledd, mae’r Awdurdod Lleol yn ei gymryd i benderfynu hawliad newydd neu newid mewn amgylchiadau. Fe’i cyflwynwyd n Ebrill 2008. |
| Datganiad Rhesymau | Eglurhad o benderfyniad a wnaed. Mae gan bob hawliwr yr hawl i ofyn am ddatganiad rhesymau cyn pen un mis o dderbyn yr hysbysiad. |
| Dibynnydd | Person y mae’r hawliwr yn derbyn Budd-dal Plant ar ei gyfer. |
| Didyniad Annibynnydd | Didyniad a gymerir o hawl budd-dal yr hawliwr mewn perthynas â’r incwm sydd gan annibynnydd. |
| Disodliad | Term technegol a ddefnyddir i ddisgrifio newid mewn amgylchiadau sy’n arwain at ddyfarniad Budd-dal Tai a / neu Dreth Cyngor newydd. Nid yw penderfyniad disodli yn mynd yn ôl i newid penderfyniad a wnaed gynt. Mae’n gwneud penderfyniad newydd ynglŷn ag amodau yn ymwneud â hawl. |
| Diwygiad | Penderfyniad sy’n newid penderfyniad a wnaed eisoes, ar sail amgylchiadau a brofir yn anghywir yn ddiweddarach, am ba reswm bynnag. |
| Dyddiad Hawlio | Y dyddiad y pennir i’ch hawliad gael ei dderbyn gan y Cyngor. |
| Fframwaith Gwirio | Canllaw'r Llywodraeth ar safonau gofynnol o ran tystiolaeth a gwybodaeth sydd eu hangen i gadarnhau dyfarniad Budd-dal Tai a Threth Cyngor. |
| Ffurflen Hawlio | Rhaid i bob cais am Fudd-dal Tai a Threth Cyngor gychwyn gyda ffurflen hawlio sydd wedi ei harwyddo. Ni allwn ystyried eich hawliad heb ddatganiad sydd wedi ei lofnodi yn cadarnhau eich bod yn deall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. |
| Gordaliadau Budd-dal | Swm y budd-dal a delir i rywun nad oeddent yn gymwys i’w dderbyn. |
| Gormodedd Budd-dal | Gelwir hwn hefyd yn ordaliad Budd-dal Treth Cyngor. |
| Gormodedd Incwm | Swm yr incwm a asesir sydd uwchlaw’r swm cymwys. Mae’r gormodedd hwn yna’n destun taprau gormodedd incwm a fydd yn pennu’ch hawl i fudd-dal (yn amodol ar ddidyniadau annibynyddion). |
| Gwasanaeth Swyddog Rhent | Corff annibynnol sy’n pennu’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer Ardal Marchnad Rhenti Eang, ac sy’n pennu rhenti cyfyngedig / rhenti teg. |
| Gwasanaethau Anghymwys | Tâl am Wasanaeth sy’n rhan o’ch rhent na fedrwn ei ystyried ar gyfer Budd-dal Tai. Bydd rhai gwasanaethau anghymwys yn cael eu prisio yn unol â symiau penodedig y Llywodraeth. |
| Gwerth Gorau | Cyflwynwyd Gwerth Gorau gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999, a ddaeth i rym yn Ebrill 2000. Y nod oedd “sicrhau gwelliannau parhaus yn y modd y gweithredir swyddogaethau (Llywodraeth Leol), gan ystyried cyfuniad o economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd” (DLlL 1999, adran 3[1]). |
| Hawl Gwaelodol | Mae’r term hwn yn ymwneud â swm o hawl budd-dal a osodir yn erbyn gordaliad budd-dal. Gellir dyfarnu Hawl Gwaelodol dim ond os yw’r hawliwr yn darparu gwybodaeth am ei amgylchiadau cyn pen un mis calendr o gyfrifo’r gordaliad. |
| Hawliad Diffygiol | Unrhyw hawliad ar gyfer budd-dal nad sy’n cynnwys tystiolaeth a gwybodaeth ddigonol i’n galluogi i wneud penderfyniad. |
| Hawliadau a dynnwyd yn ôl | Unrhyw hawliad ble mae’r hawliwr yn penderfynu nad yw am dderbyn penderfyniad. Dim ond yn ysgrifenedig y gellir tynnu hawliadau yn ôl, a hynny cyn i benderfyniad gael ei wneud. |
| Hawliadau am Ragdaliadau | Ceisiadau a wneir cyn i atebolrwydd ddechrau, fel arfer cyn symud i mewn. Yn ddibynnol ar eich oed ac ar amgylchiadau eich hawliad, mae’r cyfnodau pryd gallwch hawlio ymlaen llaw yn amrywio yn eu hyd. |
| Hysbysiad o Benderfyniad | Y llythyr sy’n sôn am benderfyniad budd-dal. Mae gofynion statudol ynglŷn â’r wybodaeth sy’n rhaid inni ei rhoi i chi am y penderfyniad a wnaethom. |
| Incwm a Asesir | Yr incwm byddwn yn ei ddefnyddio i seilio eich hawl i fudd-dal. Bydd y ffigwr yn cynnwys incwm a enillir ac incwm nas enillir, a hefyd unrhyw incwm tybiedig o asedau cyfalaf. Bydd y ffigwr yn net o unrhyw ddiystyriadau, didyniadau, a threuliau sy’n berthnasol i’ch hawliad. |
| Incwm a ddiystyrir | Y mathau o incwm nad ystyrir i fod yn rhan o’ch asesiad o incwm, megis lwfans byw i’r anabl. |
| Incwm Tariff | Fe bennir hwn gan faint o gyfalaf sydd gennych rhwng y trothwyon cyfalaf uchaf ac isaf. Ychwanegir £1o incwm tariff yr wythnos i’ch incwm gwirioneddol am bob cynyddiad o £250, os ydych o oed gweithio, neu gynyddiad o £500, os ydych o oed pensiwn. |
| Lwfans Rhent | Y term technegol ar gyfer Budd-dal Tai a ddyfarnir i denantiaid preifat. |
| Lwfans Tai Lleol | Cynllun sy’n berthnasol i ddim ond rhai grwpiau o denantiaid preifat, ble mae’r uchafswm Budd-dal Tai yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfraddau penodedig a osodir gan y Gwasanaeth Swyddog Rhent. Penderfynir ar y gyfradd gymwys drwy farnu sawl ystafell sydd eu hangen ar deulu ac ar leoliad yr eiddo o fewn Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang. |
| Lleiafswm Budd-dal sy’n Daladwy | Ni delir unrhyw hawl Budd-dal Tai sydd islaw 50c yr wythnos. Nid oes lefel leiaf ar gyfer Budd-dal Treth Cyngor. |
| Lletywyr | Personau sy’n byw mewn llety ble codir tâl am ddarparu prydau sydd wedi eu coginio neu eu paratoi. |
| Newid mewn Amgylchiadau | Cynnydd neu ostyngiad yn eich incwm, cyfalaf neu rent, neu newid yng nghyfansoddiad eich teulu. Mae’n ofynnol i hawlwyr hysbysu’r cyngor ynglŷn â phob newydd mewn amgylchiadau cyn gynted ag y maent yn ymwybodol ohonynt er mwyn lleihau tan neu ordaliadau. Ceir gwahanol reolau ynghylch pa newidiadau y dylid hysbysu’r Cyngor yn eu cylch yn ôl a ydych o oed gwaith neu bensiwn. |
| Ôl-ddyddio | Cais am fudd-dal sydd i’w ddyfarnu am gyfnod cyn i’r Cyngor dderbyn yr hawliad. I dderbyn hawliad sydd wedi ei ôl-ddyddio rhaid ichi ddangos rheswm da dros beidio ag hawlio’n gynt. Daeth rheolau newydd i rym ar 6 Hydref 2008 am y cyfnod mwyaf y gellir ôl-ddyddio budd-dal. |
| Partner | Person sy’n byw gyda’r hawliwr un ai fel gŵr a gwraig, neu fel petaent, waeth beth fo’u rhyw. |
| Partneriaethau Sifil | Priodas gyfreithiol rhwng personau o’r un rhyw. |
| Penderfyniad | Y broses sy’n diweddu gyda chanlyniad ar gyfer eich hawliad budd-dal. Dylid gwneud penderfyniad ar eich hawliad o fewn 14 diwrnod, neu cyn gynted ag sydd bosib wedi hynny, wedi ichi ddarparu gwybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad. |
| Person Addas a Phriodol | Mae’n cyfeirio at brofi a yw landlord yn addas i dderbyn taliadau budd-dal ar ran eu tenantiaid. |
| Person Apwyntiedig | Person sy’n ymddwyn ar ran rhywun sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu materion personol oherwydd salwch, anabledd neu oed. Mae person apwyntiedig yn ysgwyddo’r un cyfrifoldebau ag y byddai gan yr hawliwr, megis sicrhau eu bod yn hysbysu’r Cyngor yn ddi-oed ynglŷn â newid mewn amgylchiadau. |
| Person o dramor | Prawf dau gam i bennu hawl personau anfrodorol i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor. |
| Person yr Effeithir arno | Person y mae’r penderfyniad budd-dal yn berthnasol iddo/iddi. |
| Personau Eithriedig | Personau nad sy’n gymwys i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor oherwydd eu hamgylchiadau personol. |
| Plant Maeth | Plant sy’n cael eu gosod gyda theuluoedd sy’n derbyn incwm i ofalu amdanynt a darparu llety. Nid yw plant o’r fath yn cael eu cyfri’n rhan o deulu’r hawliwr i ddibenion budd-dal. |
| Pobl Ifanc | Fe’u diffinnir fel person rhwng 16 ac 19 mlwydd oed sy’n parhau mewn addysg llawn amser, y mae Budd-dal Plant yn daladwy ar eu cyfer. |
| Prawf Adnabod | Rhagofyniad i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor. Rhaid i bob hawliwr, a’u partneriaid, ddarparu tystiolaeth ddigonol i brofi eu hunaniaeth a ble maent yn byw. |
| Prawf Preswylio Arferol | Prawf ar gyfer personau sydd wedi did i mewn i’r wlad yn ddiweddar i weld a ydynt yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai a Threth Cyngor. |
| Premiymau | Ychwanegiadau a wneir i swm cymwys person yn ôl amgylchiadau eu teulu. |
| Rhent Cymwys | Cyfran o rent gwirioneddol y person sy’n sail i ddyfarniad Budd-dal Tai gan y Cyngor. |
| Rhenti Cyfyngedig | Fe’u pennir gan y Gwasanaeth Swyddog Rhent, mae’r rhain yn gyfraddau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu defnyddio wrth bennu’r swm rhent cymwys sy’n briodol ar gyfer hawliad Budd-dal Tai. |
| Rheolaeth Mewnfudo | Unrhyw berson sydd â llai na hawliau llwyr i weithio a byw yn y D.U. |
| Rheolaethau | Y gyfraith sy’n rheoli penderfyniadau Budd-dal Tai a Threth Cyngor. |
| Rhif Yswiriant Gwladol | Cod unigryw 9 ddigid a roddir i bawb 16 mlwydd oed sy’n gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig. Rhaid dangos Rhif Yswiriant Gwladol dilys er mwyn hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor. |
| Swm Cymwys | Cyfanswm yr arian y mae unigolyn neu deulu ei angen, yn ôl y Llywodraeth, i fyw arno pob wythnos. Daw’r ffigwr o gyfansoddiad y teulu sy’n hawlio’r budd-dal, y premiymau a’r disgowntiau sydd ar gael ar eu cyfer, yn ôl eu hamgylchiadau personol. |
| Tâl am Wasanaeth | Ychwanegiadau a wneir i rent cytundebol i dalu am ddarparu a defnyddio amwynderau a gwasanaeth personol a rhai a rennir. Yn ddibynnol ar beth yw’r taliadau byddwn yn penderfynu a ydynt yn gymwys neu’n anghymwys ar gyfer Budd-dal Tai. |
| Taliad Estynedig | Dyfarniad budd-dal a wneir wedi i berson ddychwelyd i’r gwaith, neu’n dilyn newid mewn amgylchiadau a olygodd bod Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Anabledd Difrifol neu Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth yn dod i ben. Gall Taliad Estynedig olygu bod y dyfarniad yn cael ei dalu am bedair wythnos ychwanegol ar yr un raddfa ag o’r blaen ar gyfer y budd-daliadau a enwir uchod. |
| Taliadau Tai Dewisol | Taliadau ychwanegol a wneir i bobl sy’n derbyn budd-dal sy’n ymddangos eu bod angen cymorth ariannol ychwanegol i gwrdd â’u costau tai. |
| Tandalu Budd-dal | Swm o fudd-dal sy’n ddyledus gan y Cyngor. |
| Tapr | Y ganran a ddefnyddir i ddosrannu gormodedd incwm yn y broses benderfynu ar gyfer hawliad budd-dal. Tapr Budd-dal Tai yw 65% a thapr Budd-dal Treth Cyngor yw 20%. |
| Terfynau Cyfalaf | Y terfyn uchaf ar gyfer budd-dal yw £16,000. Os oes gennych fwy na hyn ni fyddwch yn gymwys i dderbyn budd-dal. Y terfyn isaf yw £6,000. Byddwn yn diystyru unrhyw gyfalaf sydd islaw’r swm hwn wrth gyfrifo’ch hawl i fudd-dal. |
| Terfyniad | Diwedd hawliad budd-dal, am ba reswm bynnag. |
| Twyll | Budd-dal Tai neu Dreth Cyngor a hawlir pan nad oes gan y person hawl i’w gael. Gall hawlio budd-dal drwy dwyll ddwyn achos troseddol. |
| Tystiolaeth | Gwybodaeth ddogfennol a gyflwynir i gefnogi’r wybodaeth a roddir yn y cais am fudd-dal. Mae canllawiau llym ar gyfer y dystiolaeth sydd ei hangen ar y Cyngor cyn iddo fedru dyfarnu Budd-dal Tai. Os nad yw’r Cyngor yn derbyn y wybodaeth berthnasol byddwn yn penderfynu nad yw’r hawliad yn cwrdd ag amodau yn ymwneud â hawl. |
| Tystysgrif Enillion | Ffurflen a ddefnyddir i ddarparu tystiolaeth o enillion person pan nad yw slipiau talu ar gael neu eu bod yn annigonol i ddibenion budd-dal. |
| Tystysgrif Rhent | Ffurflen a ddefnyddir i ddarparu tystiolaeth o’ch atebolrwydd rhent. |
| Uchafswm Amgen | Enw arall ar gyfer yr Ad-daliad Ail Oedolyn (gweler |
| Uchafswm Budd-dal | Term a ddefnyddir i gyfeirio at bersonau sy’n gymwys i Fudd-dal Tai a / neu Fudd-dal Treth Cyngor llawn yn ôl eu hamgylchiadau incwm. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd yr hawliwr yn derbyn yr uchafswm budd-dal am y gallai eu budd-dal fod yn destun didyniadau annibynyddion a gweithred adennill. |
Uchafswm Didyniad Annibynnydd |
Y didyniad mwyaf y gall Cyngor ei gymryd mewn perthynas ag annibynnydd pan fo’u hincwm yn fwy na’r trothwy uchaf neu pan nad oes prawf digonol o’u hincwm. |
| Uwchraddio | Proses y Llywodraeth o gynyddu cyfraddau budd-dal a symiau cymwys ar ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf. |
| Wythnos Fudd-dal | Mae’r wythnos fudd-dal yn dechrau ar ddydd Llun ac yn gorffen ar ddydd Sul. |
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?