Pennu’r incwm a’r cyfalaf sy’n berthnasol i’ch cais

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm), Cymhorthdal Incwm, neu Gredyd Pensiwn Gwarantedig, nid yw’r adran hon yn berthnasol i chi am y byddwch yn derbyn yr uchafswm o ran Budd-dal Tai a Threth Cyngor.

Beth ydych yn ei ystyried i fod yn incwm i mi?

  • Eich enillion chi a’ch partner
  • Enillion o waith hunangyflogedig (gweler ein hadran hunangyflogedig)
  • Rhai Budd-daliadau’r Wladwriaeth
  • Incwm tybiedig o gyfalaf rhwng £6,000 a £16,000
  • Rhent a gewch gan is-denant neu letywr yn eich cartref.

Byddwn yn diystyru’r incymau hyn wrth asesu eich incwm:

  • Rhai Budd-daliadau’r Wladwriaeth, yn arbennig Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini
  • Taliadau rhent gan annibynyddion yn eich cartref, er y gallwn wneud didyniad annibynydd o swm y budd-dal a gewch. Gweler ein hadran, “pa effaith mae annibynydd yn ei gael?
  • Taliadau maethu
  • Taliadau elusengar neu wirfoddol a dderbyniwch.

Noder, er bod yr incymau hyn yn cael eu diystyru wrth bennu eich budd-dal, byddwn er hynny am weld prawf ohonynt er mwyn inni fedru gwneud penderfyniad sy’n gywir.

Sut fyddwch chi’n pennu fy incwm a enillwyd?

Ar sail y wybodaeth a rowch ar eich ffurflen gais, a’i rhoi inni fel tystiolaeth o’ch incwm, byddwn yn penderfynu beth yw eich incwm wythnosol cyfartalog. Bydd y ffigwr hwn yn ffigwr net wedi didyniadau treth, yswiriant gwladol a hanner eich taliadau pensiwn.

Mae’n bwysig eich bod yn darparu o leiaf pum wythnos neu ddeufis o fanylion incwm, er mwyn i’r wybodaeth adlewyrchu eich incwm cyfredol.

Ar gyfer y rhai hynny sydd ag incwm a enillir, mae’n bosib y byddwn hefyd yn diystyru’ch incwm o’n hasesiadau, ac yn y rhan fwyaf o achosion £5.00 yr wythnos fydd hyn ar gyfer hawlwyr sengl, a £10 yr wythnos ar gyfer cyplau. Mae sawl diystyriad arall uwch ar gyfer rhieni unigol, unigolion sy’n sâl neu’n anabl, ac ar gyfer y rheiny sydd mewn galwedigaethau arbennig. Byddwn yn pennu a oes gennych hawl i’r diystyriad yma ar sail y wybodaeth a rowch inni. Dim ond cyfradd uchaf y diystyriad yma a gymhwysir.

Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn dau diystyriad ychwanegol. Cymhwysir y diystyriad yma i’ch cais yn ychwanegol i’r rhai a nodir uchod.

  • Diystyriad Gofal Plant – Gellir diystyru hyd at £175.00 (ar gyfer un plentyn) neu £300.00 (dau blentyn neu fwy) o’ch incwm os ydych chi a’ch partner yn gwneud gwaith am dâl, neu’ch bod chi neu’ch partner yn anabl i weithio tra bo’r llall yn gwneud gwaith am dâl. Hefyd i gael y diystyriad yma rhaid i rieni sengl weithio am dâ
  • Diystyriad enillion ychwanegol – mae nifer o amgylchiadau sy’n caniatáu’r diystyriad yma ac felly nid oes modd eu rhestru yma. £17.10 yr wythnos yw gwerth y diystyriad ychwanegol.

Sut fyddwch chi’n pennu fy holl incwm?

Os ydych yn gwneud gwaith am dâl byddwn yn ychwanegu eich incwm net a enillwch yn wythnosol at unrhyw fudd-dal neu gredydau treth a gewch, ac unrhyw ffurfiau incwm eraill sydd gennych, ynghyd ag unrhyw incwm a gewch o gyfalaf (os yw rhwng £6,000 ac £16,000). Dyma fydd eich incwm wythnosol a aseswyd.

Os ydych yn derbyn Budd-daliadau’r Wladwriaeth byddwn yn gwneud cyfrifiad tebyg, ond heb y cyfrifiad ar gyfer incwm a enillir.

Sut mae swm y cyfalaf sydd gennyf yn effeithio fy nghais?

Y Terfyn Uchaf

Os ydych islaw’r oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn neu’ch bod yn derbyn dim ond Credyd Cynilion, y terfyn uchaf ar gyfer cyfanswm y cyfalaf y cewch chi a’ch partner ei gael i fod yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor yw £16,000.

Y Terfyn Isaf

Os oes gennych chi a’ch partner lai na £6,000 o asedau cyfalaf, bydd y Cyngor yn anwybyddu’r swm hwn wrth gyfrifo eich hawl i Fudd-dal Tai a Threth Cyngor. Noder y bydd yn rhaid i’r Cyngor wirio bod gennych lai na’r swm hwn felly bydd gofyn ichi ddarparu prawf o’ch cyfalaf.

Mae gen i gyfalaf sydd rhwng £10,000 a £16,000.

Os ydych o oedran pensiwn a bod gennych chi a’ch partner dros £10,000 ond llai na £16,000, byddwn yn ystyried bod gennych incwm o’ch cyfalaf sydd gywerth â £1 yr wythnos ar gyfer pob lluosrif o £500 (ei dalgrynnu i fyny i’r £500 nesaf), rhwng £10,000 a £16,000.

Os ydych o oedran gweithio a bod gennych chi a’ch partner fwy na £6,000 ond dim mwy na £16,000, byddwn yn ystyried bod gennych incwm o’ch cyfalaf sydd gywerth â £1 yr wythnos ar gyfer pob lluosrif o £250 (ei dalgrynnu i fyny i’r £250 nesaf), rhwng £6,000 a £16,000.

Gelwir yr incwm hwn yn incwm tariff neu incwm tybiedig o gyfalaf.

Ar gyfer cwpl oed pensiwn sydd â £10,520 eu hincwm tybiedig o’r ffigwr cyfalaf fydd £2 yr wythnos. Bydd hyn yn cael ei ychwanegu at eich incwm wythnosol a aseswyd.

Ar gyfer cwpl oedran gwaith sydd â £10,520, eu hincwm tybiedig o ffigwr cyfalaf fydd £19 yr wythnos. Byddwn yn ychwanegu hwn at eich incwm wythnosol a aseswyd.

Beth felly sy’n cyfri fel cyfalaf?

Mae cyfalaf yn cynnwys arian parod, cyfrifon cyfredol, cyfrifon eraill mewn banc, cymdeithas adeiladu a swyddfa’r post, ymddiriedolaethau uned, ISAs, TESSAs, Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol, cyfranddaliadau, bondiau premiwm ac eiddo, heblaw am y cartref yr ydych yn byw ynddo, a thir sy’n eiddo i chi.

Mae’n bwysig eich bod yn cynnig tystiolaeth ddiweddar i’r Cyngor o’ch holl asedau cyfalaf. Byddwn am weld llyfrau cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu a datganiadau yn dangos o leiaf deufis o drafodion er mwyn pennu eich cais.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig