Efallai eich bod wedi clywed am gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio'r system budd-daliadau lles o fis Ebrill 2013. Mae Budd-dal Treth y Cyngor yn un o'r budd-daliadau a effeithir gan y newidiadau ac o'r flwyddyn nesaf ymlaen, mae'r cyfrifoldeb o helpu pobl gyda'u biliau treth y cyngor yn cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun newydd yn lle'r Budd-dal Treth y Cyngor yng Nghymru a byddwn yn ysgrifennu atoch gyda mwy o wybodaeth pan gyflwynir y cynllun newydd.
Os ydych ar incwm isel ac yn ei chael hi’n anodd talu’ch rhent a threth cyngor, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai a Threth Cyngor.
Mae gwneud cais am Fudd-dal Tai a Threth Cyngor yn hawdd ac ni fydd yn effeithio’ch hawl i fudd-daliadau eraill.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyfarnu arian i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynyddu’r niferoedd sy’n derbyn Budd-dal Tai a Threth Cyngor, ac mae’r wefan hon ar ei newydd wedd yma i’ch cynorthwyo i hawlio’r budd-daliadau sydd ar gael i chi.
Mae’r safle hwn wedi ei gynllunio gyda hawlwyr newydd neu hawlwyr potensial mewn golwg. Fe welwch tri eicon ar frig y dudalen sy’n rhoi’r wybodaeth a’r cymorth sydd ei angen arnoch i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor:
I’r chwith o’r dudalen hon mae dewislen sy’n dangos dolenni perthynol:
Wedi’r adrannau hyn ceir dwy ddolen bellach ar gyfer pobl sydd angen cymorth ariannol ychwanegol gyda’u rhent a’u Treth Cyngor:
Mae’r penodau canlynol yn ymwneud â beth ddylech ei ddisgwyl gennym ni:
Mae gennym adran arbennig ar gyfer landlordiaid:
Ac mae gennym bedair adran arall i’ch cynorthwyo i fordwyo’r safle hwn a phopeth am fudd-daliadau:
Gobeithiwn y cewch chi’r wybodaeth sydd ar y tudalennau hyn yn ddefnyddiol a llawn gwybodaeth. Noder nad ydynt yn ceisio rhoi sylw i sefyllfa pob unigolyn ond rydym yn ceisio rhoi sylw i’r amgylchiadau y bydd mwyafrif llethol o’n dinasyddion yn eu profi. Os nad yw’r wybodaeth yr ydych chi ei hangen ar gael ar y safle hwn cysylltwch â’r adran Fudd-daliadau a fydd yn barod i’ch helpu.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â’r safle hwn a fyddech gystal â chysylltu â’r adran Fudd-daliadau. Rydym yn gweithio’n barhaus i wella ein gwasanaeth i chi.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?