Adran Landlordiaid – Hafan

Block of Flats Nod yr adran hon yw helpu Landlordiaid gydag ymholiadau mwyaf cyffredin. Nid yw’r adran hon yn ceisio egluro’r cynllun Budd-dal Tai; os byddwch angen rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae’r cynllun yn gweithio edrychwch ar y tudalennau yn adrannau Hawlwyr Newydd a Photensial a Hawlwyr Cyfredol.

Yn yr adran hon ceir pedair isadran:

Gordaliadau – mae’r adran hon yn egluro sut i osgoi gordaliadau, sut gall gordaliad ddigwydd, a sut byddwn yn adennill gordaliad, a beth i wneud os nad ydych yn cytuno gyda’n penderfyniad i adennill gordaliad.

Apeliadau – mae’r adran hon yn egluro pwy sy’n gallu apelio yn erbyn penderfyniad a wnaethom, pa benderfyniadau y gallwch apelio yn eu herbyn, y terfynau amser ar gyfer cyflwyno apêl a beth sy’n digwydd pan fo rhywun yn apelio.

Lwfans Tai Lleol (LTLl) – mae’r adran hon yn egluro sut bydd y LTLl yn eich effeithio chi, pwy fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau, y rhesymau dros gyflwyno’r LTLl, yr amgylchiadau ble gallwn ni ddewis talu i chi yn hytrach nag i’ch tenant, sut mae cyfraddau’r LTLl yn cael eu pennu, a ble i ddod o hyd i’r cyfraddau hyn.

Datgelu Gwybodaeth – mae’r adran hon yn egluro pa wybodaeth y gallwn ni ei rhoi ichi ynghylch eich tenantiaid, a pha wybodaeth rydym yn disgwyl i chi ei rhannu gyda ni.

Hefyd ceir taflenni yn ein hadran “Taflenni Budd-dal” a allai fod o ddiddordeb i chi a’ch tenantiaid. Hoffem dynnu’ch sylw at un yn arbennig, “Gwybodaeth ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau”.

Yn yr adran “Lwfans Tai Lleol (LTLl)” fe welwch hefyd ein “Polisi Sicrwydd Lwfans Tai Lleol” a phecyn gwybodaeth a chais am “Daliad Uniongyrchol i Landlord”.

Gobeithiwn y cewch y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn ddefnyddiol ac addysgiadol. Os nad yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’w chael yma yna cysylltwch â’r adran Fudd-dal a fydd yn barod i’ch helpu.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â’r tudalennau hyn a fyddech gystal â chysylltu â’r adran Fudd-dal. Rydym yn gweithio’n barhaus i wella’n gwasanaeth i chi.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig