Adran Landlordiaid – Lwfans Tai Lleol (LTLl)

Bydd Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn berthnasol i’r rhan fwyaf o denantiaid preifat sydd wedi symud tŷ neu sy’n gwneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai (BT) wedi 7fed Ebrill 2008. Bydd hawliadau a wnaed cyn y dyddiad hwn yn parhau i gael eu penderfynu dan yr hen ddarpariaethau rhent cymwys hyd nes bod yr hawliad yn dod i ben neu eu bod yn newid cyfeiriad. Noder bod rhaid gwneud hawliad newydd os bu egwyl mewn hawliad.

Sut mae LTLl yn effeithio Landlordiaid?

Yr unig newid fydd y rhan fwyaf o landlordiaid yn sylwi arno yw bod y taliad Budd-dal Tai yn cael ei wneud fel rheol i’r tenant ac nad oes hawl awtomatig i’r hawliwr ailbennu eu taliadau er mwyn iddynt fynd yn uniongyrchol i’w landlord. Eu cyfrifoldeb hwy fydd gwneud taliadau rhent i chi yn yr un modd ag y byddai tenant nad sy’n derbyn budd-dal yn ei wneud.

Pwy sy’n cael eu heffeithio, a phwy sydd ddim yn cael eu heffeithio gan y newidiadau yma?

Bydd LTLl yn effeithio unrhyw landlord sy’n mynd i denantiaeth breifat wedi ei dadreoleiddio wedi 7fed Ebrill 2008, gyda’r eithriadau canlynol:

  • Tenantiaethau gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig,
  • Rhai tai â chymorth,
  • Pob tenantiaeth a ddechreuodd cyn 15fed Ionawr 1989,
  • Tenantiaid carafannau, cychod preswyl a hosteli,
  • Tenantiaid y mae eu rhent yn cynnwys tâl sylweddol am fwyd a gweini.

Pam cyflwynwyd LTLl?

Cyflwynwyd LTLl am y rhesymau canlynol:

  • Tegwch: Dan LTLl byddai’r swm macsimwm a delir i denantiaid wedi ei seilio ar faint, cyfansoddiad a lleoliad y teulu, mewn geiriau eraill byddai dau deulu mewn amgylchiadau tebyg, yn yr un ardal yn derbyn yr un faint o BT.
  • Dewis: Mae LTLl yn annog tenantiaid i fod yn fwy cyfrifol a dewis sut i wario’u hincwm mewn modd tebyg i denantiaid eraill nad sy’n derbyn budd-dal.
  • Tryloywder: Mae’r cyswllt cyfredol rhwng BT a rhent unigol yn un cymhleth. Nid yw’n datgan yn glir pa lefel o gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer pobl ar incymau isel. Bydd cyfres glir a thryloyw o gyfraddau lwfans yn galluogi tenantiaid a landlordiaid i wybod beth yw’r BT mwyaf sydd ar gael gan y wladwriaeth.
  • Cyfrifoldeb personol: Mae’r Llywodraeth yn credu, pan fo hynny’n bosib, y dylid talu LTLl i denantiaid, yn wahanol i’r rhan fwyaf o fudd-daliadau a chredydau treth eraill, gan alluogi pobl i gyllido a thalu eu rhent eu hunain. Bydd hyn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl sy’n ddi-waith i symud yn ôl i weithio.
  • Cynhwysiad ariannol: Yn ddelfrydol, rydym am i bobl fedru derbyn eu BT yn uniongyrchol i’w cyfrif banc a threfnu archeb sefydlog i dalu’r rhent i’w landlord.
  • Gwell gweinyddu a llai o rwystrau i waith: Bydd system symlach yn cyflymu’r gwaith o weinyddu budd-daliadau tai. Bydd system dryloyw yn annog pobl i symud ardal i chwilio am gyfleoedd gwaith.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Hawlwyr BT cyfredol – os ydych yn derbyn BT ar hyn o bryd ar gyfer tenant, a does dim byd yn digwydd i beri i’w hawliad ddirwyn i ben, ac nid ydynt yn symud tŷ, byddwch yn parhau i dderbyn taliadau BT yn yr un modd.

Ar gyfer tenantiaid newydd a’r rhai hynny a wnaeth hawliad newydd am fudd-dal – fel rheol ni fyddwch yn derbyn taliadau BT heblaw bod rhesymau penodol dros wneud hyn.

Beth yw’r rhesymau penodol dros beidio â gwneud taliadau BT i denantiaid?

Ar gyfer tenantiaid sy’n methu trafod eu materion neu ble mae perygl na fyddent yn talu eu rhent, gellir gwneud taliadau yn uniongyrchol i’r landlord ble rydym o’r farn eu bod yn agored i niwed neu mewn perygl, a gallwn hefyd wneud taliadau BT i chi os yw’ch tenant wedi mynd i ôl-ddyledion rhent sy’n 8 wythnos neu fwy.

Sut penderfynir y cyfraddau LTLl?

Dan LTLl bydd y gyfradd ystafell LTLl berthnasol yn cael ei bennu yn ôl maint a chyfansoddiad teulu’r tenant, a’r Ardal Rhenti Marchnad Eang y mae’r eiddo ynddi.

Mae nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen gan deulu’r tenant yn cael ei benderfynu drwy gyfri sawl gwaith mae eu teulu yn perthyn i’r categorïau a restrir isod:

Un ystafell wely ar gyfer:

  • pob cwpl sy’n oedolion
  • unrhyw oedolyn arall sy’n 16 mlwydd oed neu hŷn
  • unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw dan 16 mlwydd oed
  • unrhyw ddau blentyn, waeth beth yw eu rhyw dan 10 mlwydd oed
  • unrhyw blentyn arall.

Er enghraifft, bydd cwpl sydd â 3 o blant, dwy ferch 13 ac 11 mlwydd oed, a bachgen 8 mlwydd oed yn cael cyfradd LTLl sydd wedi ei seilio ar 3 ystafell wely (un ar gyfer y cwpl, un ar gyfer y merched, ac un ar gyfer y mab).

Bydd hawlwyr sengl sy’n llai na 25 mlwydd oed yn gymwys ar gyfer cyfradd ystafell a rennir.

Sut fedrai wybod beth fydd y cyfraddau LTLl?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyhoeddi’r cyfraddau LTLl ar gyfer pob mis ar y wefan hon. Am nad yw cyfraddau LTLl yn cael eu pennu gan faint nag unrhyw ffactor arall sy’n ymwneud â’r eiddo ychydig o ddefnydd sydd i’r cyfraddau LTLl heblaw eu bod yn cael eu cymhwyso i wybod beth yw cyfansoddiad teulu. Am y rheswm hwn mae’r cyfraddau LTLl yn cael eu cyhoeddi ar dudalen sydd hefyd yn cynnwys cyfrifydd ystafell LTLl sydd o gymorth i bennu’r gyfradd briodol ar gyfer teulu.

Darperir y cyfraddau LTLl bob mis gan y Gwasanaeth Swyddog Rhent, sy’n gorff annibynnol.

Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord

Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat Word 76Kb

Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat PDF 91Kb

Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat Testun Plaen 192Kb

Polisi Sicrwydd

Polisi Sicrwydd – fformat Word 128Kb

Polisi Sicrwydd – fformat PDF 88Kb

Polisi Sicrwydd – fformat Testun Plaen 1.2Mb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig