Mae’r adran hon yn berthnasol i Denantiaid Preifat, sydd wedi symud yn ddiweddar neu sy’n gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai.
Nid yw’n berthnasol i denantiaid Cymdeithas Tai, pobl mewn llety gyda chefnogaeth, pobl sy’n byw mewn carafannau, cychod preswyl a hosteli, neu bobl sydd wedi eu heithrio o’r cyfyngiadau rhent cymwys cyfredol. Os ydych yn perthyn i’r categorïau hyn yna ewch i dudalen “tenantiaid eraill”.
Os ydych yn landlord ewch i’r dudalen “landlord”.
Bydd Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn berthnasol i bob tenant preifat sydd wedi symud tŷ neu sy’n gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai (BT) wedi 7fed Ebrill 2008. Bydd ceisiadau a wnaed cyn y dyddiad hwn yn parhau i gael eu pennu dan yr hen ddarpariaethau rhent cymwys hyd nes i’r cais ddod i ben neu eu bod yn symud i gyfeiriad arall.
Mae cyfraddau Lwfans Tai Lleol wedi eu seilio ar nifer yr ystafelloedd y mae teulu eu hangen ac nid ar faint yw eu rhent. Bydd hyn yn annog mwy o:
Dan LTLl penderfynir ar swm y Budd-dal Tai y mae gennych hawl iddo yn ôl maint a chyfansoddiad eich teulu, a lleoliad yr eiddo yr ydych yn ei rentu, neu’n bwriadu ei rentu. Trwy hyn cewch gyfle i edrych am lety o ansawdd gwell ar gyfer eich anghenion a’ch amgylchiadau.
Noder mai dim ond os ydych ar Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm), Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn Gwarantedig y byddwch yn debygol o gael y gyfradd LTLl lawn.
Drwy symleiddio’r cynllun Budd-dal Tai gyda chyflwyno’r LTLl fe welwch ei bod hi’n cymryd llai o amser i ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch budd-dal, ac na fyddwch yn derbyn taliadau interim hyd nes i benderfyniad terfynol gael ei wneud ynglŷn â rhent cymwys.
Mae’r Gwasanaeth Swyddog Rhent yn darparu’r cyfraddau LTLl yn fisol, a byddent ar gael ar ein gwefan ar ddechrau pob mis. Noder na fydd LTLl yn newid o reidrwydd o fis i fis.
Penderfynir ar nifer yr ystafelloedd gwely byddwch eu hangen drwy gyfri sawl gwaith y daw’ch cartref i’r categorïau a restrir isod:
Un ystafell wely ar gyfer:
Er enghraifft, bydd cwpl sydd â 3 o blant, dwy ferch 13 ac 11 mlwydd oed, a bachgen sy’n 8 mlwydd oed yn derbyn cyfradd LTLl yn seiliedig ar 3 ystafell wely (un ar gyfer y cwpl, un ar gyfer y merched, ac un ar gyfer y mab).
Bydd y rhan fwyaf o hawlwyr sengl 25 mlwydd oed, neu iau, yn gymwys ar gyfer y gyfradd ystafell a rennir. Ceir amgylchiadau arbennig pan nad yw’r rheol yma yn berthnasol a byddwn yn eich hysbysu os nad yw’r rheol hon yn berthnasol i chi.
Os nad ydych yn siŵr sut i ganfod y gyfradd LTLl sy’n berthnasol i amgylchiadau eich teulu chi ewch i’n “Cyfrifydd Ystafell LTLl” ar-lein. Mae’r dudalen hon hefyd yn cynnwys y cyfraddau LTLl cyfredol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r Swyddog Rhent yn annibynnol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Fel rheol telir LTLl yn uniongyrchol i chi a’ch cyfrifoldeb chi fydd dalu’ch landlord. Mae’n bosib y cewch eich troi allan o’ch eiddo o beidio â thalu eich rhent.
Os nad oes gennych gyfrif banc, bydd rhaid i chi agor un. Bydd hyn yn eich galluogi i dalu’ch rhent i’ch landlord drwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog. Mae gwybodaeth am agor a rheoli cyfrif banc i’w gael gan unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu o’ch dewis. Mae cyngor hefyd ar gael gan fudiadau lles megis Cyngor Ar Bopeth.
Yn yr adran dolenni defnyddiol mae cyswllt i’r Awdurdod Safonau Ariannol (FSA). Mae’r ddolen hon yn mynd â chi i daflen gwybodaeth am Gyfrifon Banc Sylfaenol.
Cysylltwch â ni os ydych yn pryderu am reoli eich arian.
Mewn amgylchiadau arbennig, gallwn wneud taliadau i’ch landlordiaid. Gweler ein “Polisi Diogelu” ar gyfer Lwfans Tai Lleol, a’r ffurflen gais am “Daliad Uniongyrchol” sydd ar waelod y dudalen hon.
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat Word 76Kb ![]()
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat PDF 91Kb ![]()
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat Testun Plaen 192Kb ![]()
Polisi Sicrwydd
Polisi Sicrwydd – fformat Word 128Kb ![]()
Polisi Sicrwydd – fformat PDF 88Kb ![]()
Polisi Sicrwydd – fformat Testun Plaen 1.2Mb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?