Pwy sy’n cael eu hystyried i fod yn byw gyda mi?

Byddwn yn tybio mai’ch teulu yw’r bobl sy’n byw gyda chi fel eich uned deuluol agos. Fel arfer bydd hyn yn cynnwys:

  • Yr hawliwr.
  • Eu teulu agos, eu plant a’u partner(iaid).
  • Eu plant mewn oed neu berthnasau, gan gymryd bod yr amgylchiadau yn anfasnachol.

Rydym yn diffinio eich partner(iaid) fel y person yr ydych chi:

  • Yn briod ag ef/hi.
  • Cwpl nad ydynt yn briod sy’n byw gyda’i gilydd ac sy’n byw fel petaent yn briod.
  • Dau berson o’r un rhyw sydd mewn partneriaeth sifil.
  • Dau berson o’r un rhyw sy’n byw gyda’i gilydd ac sy’n byw fel petaent mewn perthynas sifil.

Os ydych chi a’ch partner yn byw ar wahân dros dro byddent yn parhau i gael eu cyfri fel rhan o’ch teulu gan gymryd eu bod yn bwriadu dychwelyd i’ch cartref, a bod yr absenoldeb yn debygol o fod yn llai na 52 wythnos.

Rydym yn diffinio’ch plant fel:

  • Pob person ifanc dan 16 mlwydd oed.
  • Personau rhwng 16 ac 19 mlwydd oed ac sydd yn dal i fod mewn addysg amser llawn, nid addysg uwch.
  • Personau rhwng 16 ac 19 mlwydd oed sy’n derbyn hyfforddiant cymeradwy heb fod yn rhan o’u gwaith cyflogedig.

Fel arfer mae hyn yn golygu eich bod yn gymwys i dderbyn Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn. Byddwn yn gofyn am gael gweld tystiolaeth o’ch Budd-dal Plant i bennu a ddylid ystyried eich plant fel personau dibynnol neu annibynyddion.

Noder bod y plant dibynnol yn peidio â bod yn ddibynnol wedi iddynt adael addysg neu hyfforddiant amser llawn, eu bod yn symud ymlaen i addysg uwch (prifysgol fel arfer), neu’n troi’n 20 mlwydd oed. Os ydynt yn parhau i fyw gyda chi wedi’r digwyddiadau hyn yna byddwn yn eu hystyried i fod yn annibynyddion.

Annibynyddion

Annibynnydd yw rhywun sy’n byw yn eich teulu ar sail anfasnachol. Fel rheol plant mewn oed a pherthnasau yw’r rhain. Sylwer, er mae’n bosib y bydd eich plant mewn oed a pherthnasau yn talu am gael lletya gyda chi, ni fyddwn yn ystyried hyn i fod yn drefniant masnachol ac nid yw’n drefniant y gellir ei orfodi’n gyfreithiol.

Nid yw perthnasau sy’n aros dros dro ac sydd fel rheol yn byw fan arall yn cael eu cyfri’n rhan o’ch teulu.

Gall rhai personau fyw gyda chi nad ydym yn eu hystyried i fod yn annibynyddion nac yn rhan o’ch teulu, ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • Plant Maeth
  • Lletywyr
  • Cyd-breswylwyr
  • Tenant (gan gymryd eich bod yn berchennog-ddeiliad) neu is-denant
  • Au Pair
  • Gofalydd.

Pam ei bod hi’n bwysig pennu beth yw fy nheulu?

Byddwn yn gallu pennu’r swm arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddweud yw’r swm lleiaf o arian y mae eich teulu ei angen i fyw arno ar sail cyfansoddiad eich teulu. Eich swm cymwys yw’r enw ar hyn.

Gan gymryd bod eich incwm yn disgyn islaw’r lefel yma byddwch hefyd yn gymwys i hawlio cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith neu gredyd pensiwn gwarantedig, a byddwch yn derbyn yr uchafswm o ran Budd-dal Tai a/neu Fudd-dal Treth Cyngor.

Os yw’ch incwm yn uwch na’r swm hwn, mae’n bosib y byddwch yn dal i fod â hawl i gael rhywfaint o Fudd-dal Tai a Threth Cyngor.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig