Ni all rai pobl hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor am eu bod yn cael eu hystyried i fod yn “berson o dramor”. Bydd y bennod hon o gymorth ichi benderfynu os ydych chi’n gymwys i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor ai peidio.
Ydw i yn cael fy ystyried i fod yn berson o dramor?
Defnyddir tri phrawf i benderfynu a ydych yn berson o dramor:
- Y prawf statws mewnfudo;
- Y prawf hawl preswylio;
- Y prawf preswylio arferol.
O basio’r profion hyn byddwch yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor.
Y Prawf Statws Mewnfudo
Mae hyn yn golygu bod eich amodau mynediad i’r D.U. yn rhoi llai na hawl cyflawn i aros yma a gweithio. Fe’ch ystyrir yn berson sy’n destun rheolaeth mewnfudo os:
- Ydych wedi dod i’r wlad yn anghyfreithlon neu wedi aros yn rhy hir;
- Nid oes gennych atebolrwydd i gronfeydd cyhoeddus;
- Rydych wedi derbyn caniatâd i aros yn y wlad yn amodol ar nawdd;
- Rydych wedi derbyn caniatâd dros dro i aros yn y wlad.
Os ydych yn destun rheolaeth mewnfudo, heb gwrdd â’r amodau canlynol ni fedrwch hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor waeth ba mor hir y buoch yn byw yma.
- Rydych yn fewnfudwr a noddir, ac mae’ch noddwr wedi marw, neu rydych wedi bod yma am fwy na phum mlynedd;
- Mae gennych hawl cyfyngedig i aros ac mae’ch cyllid wedi ei atal am hyd at 42 niwrnod mewn unrhyw gyfnod o hawl cyfyngedig i aros;
- Os ydych wedi derbyn statws ffoadur neu amddiffyniad dyngarol;
- Os ydych yn wladolyn o unrhyw wlad Ewropeaidd heblaw am – Albania, Belarws, Bosnia Hertsegofina, Moldofa, Rwsia, Serbia a Montenegro, Rwsia (a’i gyn-weriniaethau, heblaw am Latfia, Lithwania ac Estonia), a’r Iwcrain.
Y Prawf Hawl Preswylio
Mae gennych hawl i breswylio yn y D.U. os ydych yn:
- Ddinesydd Prydeinig sy’n dychwelyd neu’n ddeiliad pasbort Prydeinig (gan gynnwys deiliaid pasbort cenedligrwydd deuol);
- Deiliad Pasbort Prydeiniwr sydd Dramor sydd wedi ei ardystio’n “Ddinesydd Prydeinig”, gyda hawl i fyw yn y D.U., neu sydd â’r hawl i ddod yn ôl i mewn i’r D.U.;
- Pasbort nad yw’n Brydeinig sydd wedi ei ardystio’n “Ddinesydd Prydeinig”, sy’n “rhoi caniatâd i aros yn y D.U. am gyfnod amhenodol”;
- Ffoadur neu berson sy’n derbyn amddiffyniad dyngarol;
- Person sydd wedi ei alltudio i’r D.U.;
- Person sydd â hawl eithriadol neu ddewisol i aros yn y D.U.;
- Gwladolyn o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw sydd â hawl i fyw yn yr Ynysoedd Prydeinig;
- Gwladolyn o Awstria, Gwlad Belg, Cyprys, Denmarc, Y Ffindir, Yr Almaen, Groeg, Gwlad yr Iâ, Yr Eidal, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Sweden a’r Swistir a’ch bod yn weithiwr neu’n hunangyflogedig. Rhaid i weithwyr ddangos eu bod wedi ennill a chadw statws gweithwyr. Daw Statws Gweithiwr Cadwedig wedi ichi gwblhau deuddeg mis o gyflogaeth barhaus. Os ydych wedi ennill hyn a’ch bod wedi colli’ch gwaith wedyn bydd yn rhaid ichi gofrestru fel ceisiwr gwaith gyda’ Ganolfan Byd Gwaith er mwyn cadw eich statws;
- Gwladolyn o Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofac, a Slofenia sy’n hunangyflogedig neu’n gweithio ac wedi cofrestru gyda Chynllun Cofrestru Gweithwyr y Swyddfa Gartref (os nad ydych wedi eich eithrio rhag cofrestru). Byddwch yn colli eich hawl i fyw yma unwaith ichi beidio â gweithio;
- Gwladolyn o Romania a Bwlgaria sy’n dal cerdyn gweithwyr sy’n newydd i’r Undeb Ewropeaidd neu gerdyn gwaith cynllun gweithiwr amaethyddol tymhorol (SAWS) neu ddogfen cofrestru sy’n cadarnhau bod gan yr unigolyn fynediad i’r farchnad lafur neu ei fod yn hunangyflogedig.
Mae gen i hawl preswylio yn y D.U. ond rwy’n bensiynwr, y rhiant unigol neu’n chwilio am waith
Mae gan bawb sy’n byw mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd yr hawl i breswylio yn y D.U. am gyfnod cychwynnol o 3 mis heb fod yn hunangynhaliol yn economaidd. Fodd bynnag rhaid i bersonau sy’n boddhau’r amod hon ddangos:
- Bod ganddynt adnoddau economaidd digonol sy’n uwch na’r lefel y byddai Llywodraeth y D.U. yn pennu cymorth cymdeithasol ar ffurf Budd-daliadau’r Wladwriaeth;
- Byddai’n rhaid iddynt ddangos bod eu baich economaidd ar y Wladwriaeth yn gymesur i’w hunangynhaliaeth flaenorol a hyd yr amser y maent yn debygol o fod yn derbyn budd-dal.
Mae’n bosib y bydd Gwladolion AEE sydd heb fawr o obaith dod o hyd i waith neu o fod yn hunangyflogedig yn cael eu hystyried i fod yn faich dianghenraid ac ni fyddent yn gymwys i dderbyn budd-dal.
Daw Gwladolion AEE o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Y Ffindir, Yr Almaen, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Yr Eidal, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, Sbaen a Sweden.
Prawf Preswylio Arferol
Wrth benderfynu a ydych yn breswyliwr arferol yn y wlad hon byddwn yn gwneud dyfarniad gwybodus ynglŷn â:
- Pam y daethoch i’r wlad hon;
- A ydych wedi byw yma am gyfnod sylweddol o amser;
- A yw’n fwriad gennych setlo, a gwneud eich cartref yma;
- Ac a oes gennych batrwm byw sefydlog yma.
Byddwch yn cael eich ystyried i fod yn preswylio yma’n arferol os ydych:
- Yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm) neu Gredyd Pensiwn;
- Yn ffoadur neu’n berson sydd wedi derbyn amddiffyniad dyngarol;
- Yn berson sydd wedi ei alltudio i’r D.U.;
- Yn berson sydd â hawl eithriadol neu ddewisol i aros yn y D.U.;
- Gwladolyn o Awstria, Gwlad Belg, Cyprys, Denmarc, Y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Yr Eidal, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Sweden a’r Swistir os ydych yn weithiwr neu’n berson hunangyflogedig;
- Gwladolyn o Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofac, a Slofenia sy’n hunangyflogedig neu’n gweithio ac wedi cofrestru gyda Chynllun Cofrestru Gweithiwr y Swyddfa Gartref (heblaw eu bod wedi eu heithrio rhag cofrestru). Byddwch dim ond yn gallu hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor tra’ch bod yn gweithio neu wedi ichi gwblhau 12 mis o gyflogaeth barhaus.
Nodiadau arbennig ynglŷn â Cheiswyr Lloches
Ni all ceisiwr lloches hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor nes i’w cais am loches a statws ffoadur gael ei gymeradwyo.
Rhwng cyrraedd y D.U. a chaniatáu eu statws fel ffoadur, yr unig hawl sydd gan geisiwr lloches yw drwy gynllun cefnogi ffoaduriaid y Swyddfa Gartref a reolir gan y Gwasanaeth Cefnogi Ceiswyr Lloches Cenedlaethol (NASS). Yn ystod y cyfnod hwn ni all ceisiwr lloches hawlio Budd-dal Tai a Threth Cyngor.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
yn ôl i'r brig