Pa effaith mae annibynnydd yn ei gael?

Mae’n bosib y bydd swm y Budd-dal Tai a Threth Cyngor yr ydych yn gymwys i’w dderbyn yn cael ei leihau ar gyfer pob annibynnydd sy’n byw yn eich cartref. Gelwir hyn yn ddidyniad annibynyddion.

Mae rhai annibynyddion nad sy’n destun didyniad annibynyddion, y rhain yw:

  • Pob annibynnydd dan 18 mlwydd oed
  • Pob annibynnyd dan 25 mlwydd oed ac sydd ar Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm) neu Gymhorthdal Incwm
  • Pob annibynnydd sydd ar Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth.

Ceir rhesymau eraill llai cyffredin tros beidio â didynnu o’ch budd-dal, a byddwn yn eich hysbysu ynglŷn â’r rhain os ydynt yn berthnasol.

Hefyd ceir senarios sydd wedi ei seilio ar amgylchiadau’r hawliwr a / neu eu partner ble na wneir didyniad. Y rhain yw:

  • Os yw’r hawliwr neu eu partner wedi eu cofrestru’n ddall
  • Os yw hawliwr neu bartner yn derbyn Lwfans Anabledd, Cydran Gofal
  • Os yw hawliwr neu bartner yn derbyn Lwfans Gweini.

Bydd y didyniad annibynnydd a gymerir o’ch budd-dal wedi ei seilio ar incwm yr annibynnydd, ac fe’i gosodir yn erbyn un o 6 band didyniad.

Sylwer, os oes mwy nag un annibynnydd yn byw yn eich cartref byddwn yn tynnu didyniad ar wahân ar gyfer pob un, o gymryd nad ydynt yn briod. Os yw’r annibynnydd yn briod byddwn yn tynnu didyniad sy’n briodol i’r person sydd â’r incwm uchaf yn y cwpl.

Y bandiau didynnu ar gyfer annibynyddion yw:

Crynodeb o Gyfraddau Didynnu Wythnosol Annibynyddion
Yn berthnasol 1.4.2010 – 31.3.2011
Enillion Crynswth o Didyniad BT Didyniad BTC
£382.00 yr wythnos neu fwy £47.75 £6.95
£306.00 a £381.99 £43.50 £5.80
£231.00 a £305.99 £38.20 £4.60
£178.00 a £230.99 £23.35 £4.60
£120.00 a £177.99 £17.00 £2.30
£120.00 yr wythnos neu lai £7.40 £2.30
Pob incwm arall heblaw am enillion £7.40 £2.30

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig