Unwaith inni ddod i benderfyniad ynglŷn â’ch hawliad?

Wedi inni dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hagen arnom inni wneud penderfyniad ynglŷn â’ch hawliad mae’n ofynnol arnom i:

  • Wneud penderfyniad o fewn 14 diwrnod o dderbyn y wybodaeth berthnasol, neu cyn gynted ag sy’n ymarferol wedyn
  • Rhaid inni eich hysbysu o unrhyw benderfyniad a wnaethom
  • Ac mae’n rhaid inni geisio talu o fewn 14 diwrnod, neu cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib wedyn.

Fodd bynnag, nid oes raid inni wneud penderfyniad ar hawliad:

  • Os nad yw wedi ei wneud yn y dull cywir neu ar yr amser priodol
  • Neu os yw’r hawliwr wedi ei dynnu’n ôl, yn ysgrifenedig.

Os gwneir cais heb y dystiolaeth angenrheidiol i brofi a oes gennych hawl i fudd-dal, fe wnawn benderfyniad ar sail y wybodaeth sydd gennym. Ym mhob achos byddwn yn cymryd nad ydych yn cwrdd â’r amodau i hawlio a byddwn yn eich hysbysu o’r penderfyniad hwn.

Beth fydd yr hysbysiad penderfyniad yn ei ddweud?

Mae’n statudol ofynnol arnom i gynnwys y wybodaeth ganlynol yn eich llythyr penderfyniad:

  • Sut y gwnaethom ni gyfrifo’ch swm cymwys
  • Sut y gwnaethom ni gyfrifo’ch incwm a’ch cyfalaf
  • Sut y gwnaethom ni gyfrifo eich rhent cymwys neu swm eich Lwfans Tai Lleol
  • Swm unrhyw ddidyniad ar gyfer annibynyddion sydd i’w dynnu o’ch budd-dal
  • Y swm wythnosol o Fudd-dal Tai a Threth Cyngor y mae gennych hawl iddynt (os ydych)
  • Y diwrnod y bydd eich budd-dal yn dechrau
  • Y modd y byddwch yn derbyn eich budd-daliadau
  • Y rhesymau pam nad oes gennych hawl i Fudd-dal Tai a / neu Dreth Cyngor
  • Byddwn yn eich hysbysu fod gennych yr hawl i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau, a sut a phryd y gallwch wneud hyn
  • Byddwn yn dweud wrthych sut y gallwch ofyn i gael ailystyried y penderfyniad a wnaethom, a’r hawliau apêl sydd gennych parthed y penderfyniad
  • Byddwn yn eich hysbysu o’ch cyfrifoldeb i roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Bydd y datganiad hwn hefyd yn dweud wrthych am ba newidiadau y mae’n rhaid i chi ein hysbysu.

Beth ydw i’n wneud os ydw i’n anghytuno gyda’ch penderfyniad?

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad a anfonwn atoch ynghylch eich Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor, gallwch ofyn i ni edrych ar y penderfyniad hwnnw eto neu gallwch apelio at dribiwnlys annibynnol sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd.

Rhaid i chi ysgrifennu a dweud wrthym pam y credwch fod eich penderfyniad budd-dal yn anghywir, ac a hoffech i ni edrych eto ar eich hawliad neu ei drosglwyddo i’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, cyn pen mis o’r dyddiad ar y llythyr sy’n egluro ein penderfyniad.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn edrych drwy eich hawliad unwaith eto, gan ystyried unrhyw wybodaeth bellach. Byddwn yn penderfynu a oes modd ailystyried y penderfyniad gwreiddiol a byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ichi ein bod wedi dod i benderfyniad newydd. Os ydym yn ailystyried ein penderfyniad gwreiddiol byddwch yn derbyn llythyr penderfyniad budd-dal newydd a hawliau apêl newyd.

Wrth inni ailystyried y penderfyniad, gohirir y terfyn amser o fis ar gyfer apeliadau.

Os penderfynwn na fyddwn yn newid ein penderfyniad neu ein bod yn penderfynu talu llai o fudd-dal a’ch bod eisoes wedi gofyn inni gyfeirio’r achos i’r Gwasanaeth Tribiwnlys yna byddwn y gwneud hynny.

Os penderfynwn na fyddwn yn newid ein penderfyniad neu ein bod yn penderfynu talu llai o fudd-dal, ac nad ydych wedi gofyn inni gyfeirio’r achos i’r Gwasanaeth Tribiwnlys, bydd y terfyn amser o fis sydd wedi ei ohirio yn ail-ddechrau o ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol, gan anwybyddu’r amser rhwng derbyn eich cais a’i ateb. Mae hyn yn golygu nad ydych yn colli’r hawl i broses apêl annibynnol drwy ofyn yn gyntaf i’r Cyngor edrych unwaith eto ar y penderfyniad.

Y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd

Os bydd eich apêl yn cael ei drosglwyddo i’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd byddwch yn derbyn copi o achos y Cyngor a dylech ei ddarllen yn ofalus. Os nad ydych yn ei ddeall gallwch ofyn i ni ei egluro neu gael cymorth gan ganolfan gynghori neu gyfreithiwr. Byddwch hefyd yn derbyn ffurflen TAS1 yn gofyn i chi a ydych yn dymuno cael delio â’ch apêl yn ysgrifenedig neu drwy fynychu’n bersonol. Mae gennych 14 diwrnod i ddychwelyd eich ffurflen TAS1.

Os dewiswch fynychu gwrandawiad yr apêl yn bersonol gallwch fynd â rhywun gyda chi i’ch helpu i gyflwyno’ch achos, fel cyfreithiwr neu gyfaill. Fel arfer bydd rhywun o’r Cyngor yno i gyflwyno ein hachos ni ac fe all Aelodau’r Tribiwnlys eich holi ynghylch pam y credwch fod penderfyniad y Cyngor yn anghywir.

Os dewiswch beidio â mynychu’r gwrandawiad, bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ynghylch eich apêl ar sail eich tystiolaeth ysgrifenedig.

Yn y ddau fath o wrandawiad, bydd aelodau’r Tribiwnlys yn edrych ar y dystiolaeth, y gyfraith a’r amgylchiadau ar yr adeg y gwnaethom y penderfyniad yr ydych yn apelio yn ei erbyn. Byddant yn ysgrifennu atoch, ac at y Cyngor gyda’u penderfyniad, a bydd y Cyngor yn ei weithredu ar unwaith.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig