Er gwaethaf cyflwyno’r Lwfans Tai Lleol bydd nifer sylweddol o hawlwyr potensial ar gyfer Budd-dal Tai yn parhau y tu allan i’r cynllun. Y grwpiau amlycaf na fydd yn destun LTLl yw:
Mae sawl grŵp arall nad sy’n destun LTLl, ond mae’r rhain yn tueddu i fod yn rai sydd eisoes yn hawlio Budd-dal Tai, neu’n denantiaid sydd ag amgylchiadau anarferol. Mae’r bennod hon felly ar gyfer y tenantiaid a enwir uchod.
Eich rhent gwirioneddol yw swm y rhent yr ydych chi wedi cytuno ei dalu i’ch landlord. Gall hyn hefyd gynnwys taliadau ar gyfer gwasanaethau yr ydych chi yn eu derbyn neu’n eu defnyddio tra’n byw yn eich cartref.
O ran Budd-dal Tai mae’n bosib y bydd rhai o’r taliadau gwasanaeth hyn yn cael eu hystyried yn amhriodol ar gyfer Budd-dal Tai. Gelwir y rhannau hynny o’ch rhent sy’n destun Budd-dal Tai yn rhent cymwys.
Yn achos tenantiaid y Cyngor, mae’ch Budd-dal Tai, a elwir yn ad-daliad rhent, wedi ei seilio fel arfer ar eich rhent gwirioneddol, tra yn achos tenantiaid Cymdeithas Tai, bydd eich Budd-dal Tai wedi ei seilio ar eich rhent cymwys, a all fod yn llai na’ch rhent gwirioneddol.
Mae’n bosib y bydd tâl gwasanaeth yn gymwys ar gyfer Budd-dal Tai cyn belled â’u bod:
Isod ceir crynodeb o’r taliadau gwasanaeth a’u cymhwyster o ran Budd-dal Tai:
CYMWYS – Darparu systemau gwresogi, darparu gwres mewn ardaloedd comunol, dodrefn ac offer tŷ (mewn tai sydd wedi eu dodrefnu neu eu rhannol ddodrefnu), glanhau comunol gan gynnwys ffenestri cymunol, ac unrhyw wasanaethau comunol i ddarparu llety digonol.
ANGHYMWYS – Taliadau dŵr, taliadau tanwydd, prydau, glanhau eich ffenestri a’ch llety, cynghori a chefnogaeth, costau byw, gofal meddygol neu nyrsio, a systemau argyfwng.
Os yw gwasanaethau anghymwys yn rhan o’ch rhent gwirioneddol yna mae’r Llywodraeth wedi gosod didyniadau wythnosol safonol y mae’n rhaid i’r Cyngor eu didynnu o’ch rhent. Mae’r taliadau hyn yn ymwneud â gwresogi, goleuo, darparu dŵr poeth, coginio a darparu prydau yn ogystal â’r rhent. Pennir y cyfraddau hyn yn unol ag amgylchiadau eich teulu ac fe’u hadolygir yn flynyddol.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?