Mae Budd-dal Treth Cyngor yn cael ei chredydu’n awtomatig i’ch cyfrif Treth Cyngor. Wedi i’ch budd-dal gael ei gyfrifo byddwch yn derbyn bil Treth Cyngor diwygiedig sy’n dangos eich dyfarniad budd-dal ar gyfer y flwyddyn ariannol. Bydd y bil yma hefyd yn dangos unrhyw weddill dros ben ac yn rhoi manylion eich taliadau misol newydd.
Tenantiaid y Cyngor:
Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gredydu’n awtomatig i’ch cyfrif rhent pob dydd Llun.
Os nad ydych yn derbyn digon o Fudd-dal Tai i dalu am eich taliadau rhent llawn bydd angen ichi wneud taliadau rheolaidd ar gyfer y gwahaniaeth neu bydd gennych ôl-ddyledion.
Tenantiaid Preifat sy’n dymuno derbyn eu Budd-dal Tai yn uniongyrchol:
Bydd y rhan fwyaf o denantiaid preifat sy’n derbyn Lwfans Tai Lleol yn derbyn taliadau Budd-dal Tai yn uniongyrchol i’w cyfrif banc enwebedig. Bydd y taliadau hyn yn cael eu gyrru allan bob yn bythefnos.
Mae gan bob tenant preifat arall hefyd yr hawl i ofyn i’r taliadau budd-dal gael eu gwneud iddyn nhw. Byddant yn derbyn taliad bob yn bythefnos i gyfrif o’u dewis.
Tenantiaid Preifat sy’n gofyn i’w Budd-dal Tai gael ei dalu’n uniongyrchol i’w landlordiaid:
Os ydych yn denant i Gymdeithas Tai neu os nad ydych yn derbyn taliad dan gynllun Lwfans Tai Lleol gallwch ofyn i’ch Budd-dal Tai gael ei dalu i’ch landlord. Os ydych yn dymuno i’ch budd-dal gael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord bydd angen iddynt gytuno i hyn cyn inni ddechrau’r taliadau. Os byddwch yn gofyn am daliadau uniongyrchol i’ch landlord, byddwn yn talu drwy drosglwyddiad BACS bod yn 4 wythnos.
Amgylchiadau ble gall y Cyngor wrthod eich dymuniadau o ran talu:
Ôl-ddyledion Rhent:
Os daw’r Cyngor i wybod fod gennych ôl-ddyledion rhent o 8 wythnos neu fwy, mae gan y Cyngor yr hawl, mewn cytundeb gyda’ch landlord, i yrru eich taliadau Budd-dal Rhent yn uniongyrchol i’ch landlord. Gall y trefniant yma barhau nes i’r ôl-ddyledion leihau i lai nag 8 wythnos.
Tenantiaid sy’n agored i niwed:
Ar gyfer tenantiaid sy’n methu rheoli eu materion neu sy’n dangos eu bod yn annhebygol o dalu eu rhent er eu bod yn derbyn Budd-dal Tai, bydd y Cyngor, mewn cytundeb gyda landlord y tenant, yn cadw’r opsiwn i daliadau Budd-dal Tai yn uniongyrchol i’w landlord.
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat Word 76Kb ![]()
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord - fformat PDF 91Kb ![]()
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord – fformat Testun Plaen 192Kb ![]()
Polisi Sicrwydd
Polisi Sicrwydd – fformat Word 128Kb ![]()
Polisi Sicrwydd – fformat PDF 88Kb ![]()
Polisi Sicrwydd – fformat Testun Plaen 1.2Mb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?