Mae Ad-daliad Ail Oedolyn (A2O) yn ffordd arall o helpu i leihau’ch Bil Treth Cyngor hyd yn oed os nad oes modd ichi hawlio Budd-dal Treth Cyngor eich hun. Y rheswm am hyn yw bod y A2O wedi ei seilio ar incymau’r personau sy’n byw gyda chi. Y swm mwyaf sydd ar gael i chi yw 25% o’r atebolrwydd Treth Cyngor, sydd gywerth â’r disgownt y byddech yn ei gael petaech yn byw ar eich pen eich hun. Noder bod modd derbyn A2O hyd yno oed os oes mwy nag un ail oedolyn yn byw gyda chi.
Rhaid i’r person sy’n atebol am y Dreth Cyngor ar y tŷ wneud yr hawliad ar gyfer ail oedolyn/oedolion sy’n byw gyda nhw. Fel arfer bydd yr ail berson yn annibynnydd ac yn cael ei gyfri fel person a ddiystyrir i ddibenion Treth Cyngor.
Y bobl nad ydym yn eu cyfri i fod yn ail oedolion yw:
Anarferol yw hi i gwpl fod yn gymwys ar gyfer A2O a byddai’n rhaid i’r partner gael ei ystyried i fod yn berson a ddiystyrir a bod oedolyn arall yn byw yno nad sy’n perthyn i’r amodau uchod.
Cwblhewch y ffurflen hawlio safonol lawn yn yr adran “Ffurflenni Cais”. Hefyd bydd angen ichi ddarparu prawf o’ch Rhif Yswiriant Gwladol a phrawf y dystiolaeth yn ogystal â phrawf o incwm eich ail oedolyn gan gynnwys prawf o’u henillion, budd-daliadau’r wladwriaeth, incwm heb ei enillir, ac unrhyw incwm a ddaw o’u cyfalaf. Does dim rhaid darparu manylion eich incwm a’ch cyfalaf chi - mae’n bosib ichi fod yn filiwnydd a derbyn A2O os yw’r ail oedolyn yn eich cartref yn cwrdd ag amodau hawlio.
Bydd swm yr ad-daliad yn 25%, 15% neu 7.5% o’ch atebolrwydd Treth Cyngor wythnosol yn ddibynnol ar incwm crynswth yr ail oedolyn.
Os yw’r ail oedolyn ar Gymhorthdal Incwm (CI), Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm (LCGSI) neu Gredyd Pensiwn (CP) byddwch yn derbyn ad-daliad o 25%.
Pan nad yw’r ail oedolyn ar CI, LCGSI neu CP penderfynir faint o ad-daliad sydd i’w ddyfarnu yn ôl lefel yr incwm crynswth, fel a ganlyn:
| Incwm crynswth dan £175.00 yr wythnos | 15% |
| Incwm crynswth rhwng £175.00 a £227.99 yr wythnos | 7.5% |
| Incwm crynswth uwchlaw £228.00 yr wythnos | Dim |
Os oes mwy nag un ail oedolyn yn byw yn eich cartref bydd rhaid cyfuno ei hincymau crynswth, ac eithrio’r rhai hynny sy’n derbyn CI, LCGSI neu CP, am ein bod yn diystyru eu hincwm. Mae’r canrannau ad-daliad a’r lefelau incwm cyfunol yr un fath â’r rhai a amlinellir uchod.
Wrth gyfrifo incwm crynswth ail oedolyn byddwn yn diystyru unrhyw Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i’r Anabl a delir i ail oedolyn, ac er y byddwn yn ystyried unrhyw incwm a ddaw o asedau cyfalaf ni fyddwn yn deillio ffigwr incwm tariff o’r cyfalaf hwnnw.
Os ydych yn gymwys i dderbyn A2O byddwn yn credydu’r ad-daliad yn awtomatig i’ch cyfrif Treth Cyngor a gyrru bil Treth Cyngor diwygiedig atoch.
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn derbyn A2O o’r dydd Llun yn dilyn dyddiad cyflwyno’r hawliad. Mae’n bosib gwneud cais am fudd-dal wedi ei ôl-ddyddio. Bydd yn rhaid ichi ysgrifennu at y Cyngor yn gofyn am hyn gan ddweud ar ba ddiwrnod yr hoffech i’ch budd-dal ddechrau a pham na wnaethoch hawlio’n gynt.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?