Myfyrwyr – Fedra i hawlio?

StudentsPa fyfyrwyr sy’n gymwys i hawlio budd-dal?

  • Myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm) neu Gymhorthdal Incwm.
  • Pob myfyriwr rhan-amser.
  • Myfyrwyr iau na 19 mlwydd oed nad sydd mewn addysg uwch.
  • Myfyriwr sy’n 60 mlwydd oed neu hŷn neu rai y mae eu partner o oedran tebyg.
  • Myfyrwyr sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.
  • Myfyrwyr sy’n gyfrifol am blentyn maeth.
  • Myfyrwyr sydd wedi eu cofrestru neu eu hardystio’n ddall.
  • Myfyrwyr sy’n derbyn lwfans byw i’r anabl.
  • Myfyrwyr nad sy’n gymwys i dderbyn budd-dal analluogrwydd.
  • Myfyrwyr a ystyrir yn analluog i weithio am 28 wythnos neu fwy.
  • Myfyrwyr sy’n absennol o’u cwrs, gyda chaniatâd eu sefydliad addysgol, drwy salwch.
  • Myfyrwyr sy’n absennol o’u cwrs, gyda chaniatâd eu sefydliad addysgol, am iddynt ofalu am rywun, ond sydd nawr yn methu cael grant neu fenthyciad addysgol.
  • Myfyrwyr y mae eu grant yn cynnwys lwfans myfyrwyr anabl ar gyfer byddardod.

Cyplau sy’n hawlio budd-dal

Os ydych chi’n fyfyriwr ond nad yw eich partner, eich partner ddylai hawlio budd-dal. Os ydych chi a’ch partner yn fyfyrwyr, dylai un ai’r ddau ohonoch neu un ohonoch gwrdd ag un neu fwy o’r amodau uchod i fod yn gymwys i hawlio budd-dal, a dim ond y myfyriwr sy’n cwrdd â’r amod ddylai hawlio budd-dal.

Pa wybodaeth sy’n rhaid imi ei rhoi?

Bydd angen ichi ddarparu’r un wybodaeth ag y gwna pob hawliwr arall. Gweler ein tudalen Gofynion Tystiolaeth.

Hefyd, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o’ch:

  • Grant myfyriwr, yn ddelfrydol eich llythyr dyfarnu grant sy’n dangos y cwrs rydych yn ei ddilyn, yr oriau hyfforddiant yr wythnos, diwrnod dechrau’r cwrs, a hyd y cwrs.
  • Eich llythyr dyfarnu benthyciad myfyriwr.
  • Prawf o unrhyw galedi neu daliadau cronfeydd mynediad a gawsoch gan eich sefydliad addysgol.
  • Prawf o unrhyw incwm a dderbynioch heblaw am yr hyn a gewch am fod yn fyfyriwr, er enghraifft, prawf o’ch enillion a / neu fudd-daliadau’r wladwriaeth.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig