Pwy all hawlio Budd-dal Tai?

I fod yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai rhaid ichi fod yn atebol ar gyfer taliadau rhent ar yr eiddo sy’n brif gartref ichi.

  • Felly mae pob perchennog-ddeiliad wedi eu heithrio rhag hawlio Budd-dal Tai am nad ydynt yn talu rhent am eu cartref. Fodd bynnag efallai y gallent hawlio Budd-dal Treth Cyngor. Gweler y dudalen “Pwy all hawlio Budd-dal Treth Cyngor?”.

Y bobl a eithrir gan amlaf rhag hawlio Budd-dal Tai yw:

  • Personau sy’n destun rheolaeth mewnfudo “nad ydynt fel arfer yn preswylio” yma. Gweler tudalen “Preswylwyr Diweddar i’r DU” am ragor o wybodaeth ynghylch pwy sy’n gymwys a phwy sydd ddim yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai.
  • Y rhan fwyaf o fyfyrwyr llawn amser – gweler tudalen “Myfyrwyr” am ragor o wybodaeth.
  • Aelodau o urddau crefyddol os ydynt yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl gan eu hurdd.
  • Y rhan fwyaf o adawyr gofal dan 18 mlwydd oed.
  • Rhan fwyaf o drigolion cartrefi gofal preifat a gwirfoddol.

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac fe geir nifer o eithriadau eraill sy’n berthnasol dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn, sy’n anghyffredin i’r rhan fwyaf o denantiaid.

Er y gallai person fod yn atebol i dalu rhent ar gyfer eu cyfeiriad cyfredol nid yw o reidrwydd yn wir eu bod yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai. Y rheswm am hyn yw nad yw’r cynllun yn gallu cynnwys rhai senarios. Mae’r senarios yma’n codi gan amlaf pan:

  • Fo’ch landlord yn berthynas agos ac mae’n byw gyda chi.
  • Pan nad yw’ch tenantiaeth yn un y gellir ei gorfodi’n gyfreithiol, ac fe’i hystyrir i fod yn anfasnachol.
  • Mewn nifer o achosion, pan fuoch yn gyn-berchennog o’r eiddo.
  • Rhentu’ch cartref gan gwmni yr ydych chi, neu’ch partner, yn gyfarwyddwr neu’n weithiwr cyflogedig iddo.
  • Os yw’ch llety ynghlwm wrth eich gwaith presennol.
  • Is-denantiaethau sy’n groes i gytundeb y tenant i rentu’r eiddo.
  • A senarios ble mae’r Cyngor o’r farn bod y denantiaeth wedi ei chreu i “fanteisio ar y cynllun”.

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac mae nifer o senarios eraill sy’n berthnasol dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn, sy’n anghyffredin i’r rhan fwyaf o denantiaid.

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig