|
Cyfleusterau SDSL (Symmetrical Digital Subscriber Line) ar gael yng nghyfnewidfa ffôn Wrecsam.
Ar 17eg Ebrill 2005 gosodwyd cyfleusterau SDSL ym mhrif gyfnewidfa ffôn Wrecsam, gan ddarparu cysylltiadau â’r Rhyngrwyd sydd â lled band uchel.
Mae SDSL yn ddull o gysylltu â’r rhyngrwyd a ddefnyddir i drawsyrru gwybodaeth band eang ar hyd llinellau ffôn arferol i fusnesau a chartrefi. Wrth ddefnyddio SDSL mae’r gyfradd ddata yr un fath yn y ddau gyfeiriad (tuag i fyny a thuag i lawr) a dyna pam y mae’n gymesurol.
Er bod ADSL yn galluogi defnyddwyr i lawrlwytho ffeiliau mawr ar gyflymder uchel, mae SDSL yn galluogi defnyddwyr i anfon a derbyn llawer iawn o ddata ar gyflymder uchel. Mae hyn yn golygu bod SDSL yn ffordd fwy addas i fusnesau bach a chanolig, gweithwyr mewn swyddfeydd diarffordd a theleweithwyr gysylltu â band eang. Mae technoleg SDSL hefyd yn cefnogi datblygiad rhwydweithiau preifat rhithwir (VPNs) i gysylltu â safleoedd sy’n wasgaredig yn ddaearyddol, yn ogystal â darpariaethau fideo gynadledda a galwadau ffôn rhyngrwyd (Voice over IP).
Dros y 6 mis nesaf bydd BT yn uwchraddio 500 o gyfnewidfeydd i ddarparu SDSL, a phrif gyfnewidfa Wrecsam yw un o’r rhai cyntaf yng Nghymru i gael cyfleusterau SDSL.
Mae BT wedi cadarnhau bod hwn yn gam cyntaf ymlaen i wella cysylltiadau SDSL yn genedlaethol a bydd y manteision sy’n gysylltiedig â chyflymder uchel SDSL yn dod â mwy a mwy o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru.
|