Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am lyfr cyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer 2009/10, sy’n cynnwys cynigion gwario cyllid pob un o wasanaethau Cyngor y Fwrdeistref Sirol am y flwyddyn ariannol.
Mae copïau o’r llyfr cyllideb fanwl ar gael yn eich llyfrgell leol. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o gyllideb 2009/2010:
1. Fel ymhobman, mae proses cynllunio cyllideb awdurdod lleol Wrecsam yn gofyn ystyried rhagolygon cyllideb y Cyngor yn gynnar ar sail dangosyddion economaidd cenedlaethol a chyfansymiau cynllunio’r llywodraeth ar gyfer gwariant awdurdodau lleol.
2. Er mwyn hybu’r ymgyrch dros wella perfformiad gwasanaethau gwelodd y Cyngor bod angen cyfuno cynllunio ariannol a’r gyllideb gorfforaethol. Cytunwyd ar broses gynllunio’r gyllideb ar gyfer 2009/10 ym mis Mehefin 2008 ac, yn dilyn adolygiad o ragolygon ariannol y Cyngor ym mis Awst 2008, gofynnwyd i adrannau gwasanaeth nodi arbediadau gwasanaeth o 2% (ysgolion 1%) a rhoi manylion o unrhyw bwysau “eithriadol” disgwyliedig.
3. Datblygwyd y cynlluniau ariannol tymor canolig gan ddefnyddio’r paramedrau canlynol:
4. Defnyddiwyd y cynlluniau cyllideb tair blynedd fel sail i gyfrifo’r dangosyddion darbodus fel y disgrifir yn ddiweddarach yn yr adroddiad. Bydd angen adolygu’r cynllun ariannol tymor canolig yn gyfnodol.
5. Cyfyngwyd cyllideb y flwyddyn i £193,877,142 mewn arian parod.
6. Arolygwyd a rheolwyd y gyllideb yn dynn yn ystod y flwyddyn yn unol â’r gweithdrefnau a gymeradwyodd y Cyngor. Nodwyd sawl pwysau gwasanaeth a chostau uwch yn gynnar yn y flwyddyn ariannol a chytunodd y Bwrdd Gweithredol y dylai swyddogion gymryd camau i reoli gwariant a chadw gwariant gwasanaethau o fewn cyfansymiau cymeradwy cyllidebau arian cyfyngedig.
7. Bydd holl gyllidebau’n dal i gael eu harchwilio’n ofalus yn unol â’r trefnau a gytunwyd a bydd y gwir alldro’n cael ei hysbysu yn yr haf. Yn unol â rheolau cyllidebu arian cyfyngedig, fe all unrhyw orwario neu danwario gael ei ddwyn ymlaen i 2009/10.
8. Mae’r dyraniad grant i awdurdodau unigol yn dibynnu ar fformiwla’r asesiad o wariant safonol (SSA). Nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r fformiwla ar gyfer 2009/10.
9. Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fanylion ei setliad cyllid dros dro i awdurdodau lleol ar 15 Hydref 2008. Rhoddodd y setliad dros dro gynnydd grant o 2.9% ar gyfartaledd i awdurdodau lleol, oedd ymhell islaw disgwyliadau awdurdodau lleol. Mynegwyd pryder gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol ynghylch y setliad dros dro gwael. Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei setliad cyllid terfynol ar gyfer 2009/10 ar 10 Rhagfyr 2008 ond roedd yr un faint â’r setliad dros dro.
10. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi grym i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol gyfyngu ar neu roi terfyn uchaf ar ofyniad cyllideb unrhyw awdurdod lleol, os bydd yn ystyried ei fod yn ormodol. Ni wnaeth y Gweinidog unrhyw gyhoeddiad ar dybiaethau ynghylch gwariant y Cyngor ar gyfer 2009/10. Fodd bynnag, mae wedi datgan, “wrth bennu treth y cyngor ar gyfer 2009/10 rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol arfer y ddisgyblaeth sydd wedi bod yn amlwg wrth bennu treth y cyngor yn y blynyddoedd diwethaf. Byddaf yn cadw golwg barcud ar y sefyllfa ac rwy’n barod i weithredu’n briodol i gadw cynnydd yn nhreth y cyngor yn rhesymol os oes angen gwneud hynny”. Asesiad o wariant safonol y Cyngor, yr asesiad tybiannol at ddibenion dosbarthu grant o angen y Cyngor i wario ar ei wasanaethau, oedd £199,613,104.
11. Lluniwyd cyllideb y flwyddyn nesaf, fel yr amlinellir ar dudalen (vii) yn unol â’r fframwaith a gytunwyd gan y Cyngor. Addaswyd y gyllideb am y flwyddyn gyfredol (h.y. y gyllideb arian cyfyngedig wedi’i diwygio ar gyfer hawl trosglwyddo arian) i ystyried cost chwyddiant, ymrwymiadau anochel, pwysau gwasanaeth, cyfrifoldebau newydd a chynilion.
12. Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gwariant cyllid clir yw £200,798,095. Mae tudalen (vii) hefyd yn dangos mai gofyniad cyllideb y Cyngor yw £199,111,636. Mae’n cynrychioli cynnydd o £6,912,998 (3.6%) ar ofyniad cyllideb addasedig y flwyddyn gyfredol.
13. Mae’n un o ofynion Deddf Llywodraeth Leol 2003 y dylwn gyflwyno adroddiad i’r aelodau ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed at ddiben cyfrifo’r gofyniad cyllideb clir. Dylwn felly dynnu eich sylw at nifer o feysydd risg allweddol a nodais yn y gyllideb a sut i reoli’r rhain. Cânt eu hamlinellu ar dudalen 24. Bydd materion yn ymwneud â’r risgiau allweddol hyn yn cael eu hysbysu i’r aelodau yn ystod y flwyddyn a ddaw yn ôl yr angen fel rhan o drefnau arolygu a rheoli’r gyllideb.
14. Mae ar awdurdod lleol angen gweddillion gweithio darbodus i gynnal llif arian digonol, yn enwedig yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn ariannol cyn derbyn incwm treth y cyngor, ac ar gyfer gwariant annisgwyl.
15. Nid chynlluniwyd unrhyw gyfraniadau at weddillion yn 2009/10. Fodd bynnag, rwy’n fodlon bod y gweddillion ac adnoddau wrth gefn yn ddigonol am y flwyddyn ariannol a ddaw a strategaeth ariannol tymor canolig yr awdurdod.
16. Mae ansicrwydd yn dal yn y gyllideb berthnasol i godiad cyflogau athrawon ac eraill sydd eto i’w setlo a hefyd effaith gostyngiad cyfraddau llog ar gyllideb incwm o fuddsoddiadau’r Cyngor.
17. Mae dadansoddiad o amcangyfrif adnoddau wrth gefn a gweddillion allweddol a glustnodwyd gan y Cyngor am y flwyddyn a ddaw fel a ganlyn:
| Gwir Weddill ar 1 Ebrill 2008 £k |
Amcangyfrif o'r Gweddill ar 1 Ebrill 2009 £k |
Symudiad yn y flwyddyn £k |
Amcangyfrif o'r Gweddill ar 31 Mawrth 2010 £k |
|
|---|---|---|---|---|
| Gweddill Cronfa'r Cyngor | 7,197 | 6,547 | 6,547 | |
| Gweddillion Ysgolion | 3,070 | 3,070 | 3,070 | |
| Arian wrth Gefn Gwasanaethau | 2,131 | 1,081 | (446) | 635 |
| Arian Arall wrth Gefn a Glustnodwyd | 13,393 | 12,147 | (1,660) | 10,487 |
| Cyfanswm Gweddillion ac Arian wrth Gefn | 25,791 | 22,845 | (2,106) | 20,739 |
18. Seiliwyd yr amcangyfrif o’r gweddillion ar 1 Ebrill 2009 yn y tabl uchod ar yr amcangyfrifon gorau oedd ar gael ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Mae’r symudiad yng ngweddill Cronfa’r Cyngor yn cynnwys y sefyllfa a hysbyswyd yn y flwyddyn gyfredol (CFPO/03/09). Bydd y sefyllfa a hysbyswyd yn newid yn dilyn cau cyfrifon 2008-09 a bydd yn cael ei hysbysu i’r aelodau fel rhan o’r adroddiad alldro ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. O’r £446k o symudiad arfaethedig yn y flwyddyn yn adnoddau wrth gefn y gwasanaethau ni fydd dim yn cael ei ddefnyddio i dalu am wariant rheolaidd.
19. Nid yw’r dadansoddiad uchod yn tybio defnyddio unrhyw weddillion cyffredinol i dalu cyflogau dyledus yn dilyn yr adolygiad Statws Unigol a Chyflog Cyfartal. Os bydd y rhain neu unrhyw ddyledion eraill yn mynd uwchlaw’r dyraniadau a glustnodwyd yna mae’n amlwg y byddai galw ar y gweddillion cyffredinol hyn.
20. Grant Cymorth Incwm Cyllid – cyfran y Fwrdeistref Sirol o’r Grant Cynnal Refeniw terfynol Grant oedd £120,392,018.
21. Trethi Busnes – Pennodd y Cynulliad y dreth fusnes ar gyfer 2009/10 fel 48.9c yn y £. Cyfran y Fwrdeistref Sirol o incwm ardreth annomestig genedlaethol yn 2009/10 yw £35,604,797.
22. Grant Cytundeb Gwella – Dosbarthwyd y grant hwn i holl awdurdodau lleol ar sail asesiadau cyfredol o wariant safonol a chyfran y Cyngor hwn yw £1,284,761.
23. Grant Amddifadedd – Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dosbarthu £22 miliwn i holl awdurdodau lleol trwy gyfeirio at fynegrif amlamddifadedd a dyrannwyd £321,698 i’r Fwrdeistref Sirol.
24. Fel cyfanswm bydd y Cyngor yn derbyn grantiau cyffredinol o £157,603,274 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.
25. Ar ôl cyfrif y grantiau cyffredinol a chyfraniad gweddillion, trethdalwyr y cyngor sydd i dalu gweddill y gwariant clir sy’n dod i £43,194,821.
26. Y bwriad yw codi, fel traul arbennig, rhan o gost goleuo palmentydd ar y pedair cymuned yn y dref (£3.96 yn haen D).
27. Ar ôl addasu am dreuliau arbennig o £62,954 y gweddill i’w gael fel treuliau cyffredinol oddi wrth drethdalwyr y cyngor yw £43,131,867.
28. Cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar gyfrifiad sail treth y cyngor ar 18 Tachwedd 2008 ar gyfer 2009/10, fel cywerth â 51,451 eiddo band D ar ôl cyfrif y canlynol:
Ffurfiwyd y sylfaen drethi at ei gilydd o’r un cyfrifiadau ymhob un o’r 34 cymuned ac mae’r “cywerthoedd haen D” yn cael eu dangos ar dudalen (viii).
29. Bydd rhannu gweddill y gwariant clir (£43,131,867) gyda’r sylfaen drethi o 51,451 yn rhoi £838.31 o gost ar aelwyd sy’n talu’n llawn am gartref yn haen D. Am eiddo yn haen A mae’r taliad yn chwe rhan o naw o’r ffigur hwn ac, yn y pegwn arall, mae’r taliad am eiddo yn haen I yn un ar hugain rhan o naw o ffigur haen D. Mewn llawer achos bydd y ffigurau hyn yn cael eu haddasu gyda gostyngiadau anabl ac eraill ac, wrth gwrs, am fudd-dal treth cyngor.
30. Mae tudalen (viii) yn cyflwyno cyfradd treth y cyngor i drethdalwr haen D ymhob cyngor cymuned ac mae’n dangos, ar ôl cynnwys hawl awdurdod yr heddlu i gyfran o’r dreth, mai cyfanswm treth y cyngor ar gyfartaledd yn haen D ar gyfer 2009/10 yw £1,068.98.
31. Mae Cod Ymarfer Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) yn gofyn bod y Cyngor yn mabwysiadu dangosyddion sy’n dangos bod cynlluniau cyfalaf y Cyngor yn fforddiadwy, darbodus a chynaliadwy. Caiff y dangosyddion darbodus eu hamlinellu ar dudalen 25.
32. Nid yw setliad ariannol y Cynulliad ar gyfer 2009/10 ond yn rhoi’r gallu i’r Cyngor bennu cyllideb sy’n cynnwys ymrwymiadau anochel a phwysau cyfyngedig gwario ar wasanaethau. Fodd bynnag, gwnaed pob ymdrech eto i ddiogelu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac ysgolion wrth baratoi’r gyllideb.
33. Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn gofyn bod y Cyngor yn cadw golwg ar ei gyllideb a gweithredu’n briodol. Felly, bydd yn angen arolygu a rheoli’r gyllideb yn agos yn ystod y flwyddyn a bydd angen adolygu’r sefyllfa ariannol yn barhaol.
34. Yn olaf, rwy’n dal yn ddiolchgar iawn i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cymorth, cydweithrediad a gwaith caled wrth baratoi’r gyllideb hon.
M S Owen
Prif Swyddog Cyllid a Pherfformiad
Cynhyrchu Cyllideb Refeniw 2009/2010
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynhyrchu Cyllideb Refeniw 2009/2010 - fformat PDF 10Kb ![]()
Gwybodaeth Dreth Y Cyngor 2009/2010
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Gwybodaeth Dreth Y Cyngor 2009/10 - fformat PDF 10Kb ![]()
Dangosyddion Darbodus FY 2009/10 - FY 2011/12 a Strategaeth Reoli’r Trysorlys 2009/10 – 2011/12
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.