Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gosod cyllideb bob blwyddyn. Mae'r gyllideb yn penderfynu faint y bydd y Cyngor yn ei wario ar bob un o'r gwasanaethau niferus y mae'n eu darparu i bobl leol. Mae'r gyllideb wedi'i chreu gan arian o grantiau'r llywodraeth, y gronfa genedlaethol o ardrethi busnes ac annomestig a'r dreth gyngor y mae trigolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei thalu.
Mae gan y Cyngor ffordd o osod ei gyllideb sydd wedi’i chynllunio’n dda ac sy’n cynnwys ffurfio Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer cyfnod o 3 blynedd. Yna mae’n ystyried manylion y gyllideb flynyddol drwy gyfres o Weithdai, Pwyllgorau Craffu a Bwrdd Gweithredol. Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y gyllideb yn ystod mis Tachwedd 2011. Ceisiwyd barn trigolion, busnesau ac undebau yn ystod y cyfnod yma. Cymeradwyir y gyllideb derfynol a’r dreth gyngor mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ym mis Chwefror.
Wedi cymryd i ystyriaeth Setliad Refeniw Terfynol Llywodraeth Cymru, ynghyd â chaniatáu am chwyddiant a phwysau penodol ar y gyllideb, roedd gofyn gwneud arbedion o £3.5m. Edrychodd y Cyngor ar ei feysydd gwasanaeth i gyd i weld ymhle y gallai wneud ei arbedion. Mae wedi diogelu cyllidebau ysgol a gofal cymdeithasol.
Mae’r Cyngor eisiau sicrhau bod y penderfyniadau y mae’n eu gwneud yn rhai teg a’i fod yn deall sut y gallai newidiadau effeithio ar bobl leol. Mae’r gyfraith yn dweud y dylid gwneud hyn drwy wneud asesiad o effaith cydraddoldeb.
Mae asesu effaith cydraddoldeb yn ffordd o ddeall sut y gallai penderfyniad effeithio ar wahanol grwpiau o bobl gan benderfynu a yw hyn yn deg ac a ellid gwneud unrhyw beth i’w wneud yn decach. Trwy ddilyn proses gyllideb fanwl sydd wedi’i chynllunio’n dda, bwriad y Cyngor yw osgoi gwneud arbedion a allai gael effaith mawr ar gydraddoldeb i wasanaethau rheng flaen.
Mae’r Cyngor wedi edrych ar yr holl gynigion cynilo a gyflwynwyd a’u sgrinio i weld a ddylid eu hasesu. Rydym yn gwneud y penderfyniad yma drwy edrych ar y cynigion sy’n fwyaf tebygol o effeithio ar bobl leol ac sydd am swm materol o arian
Mae’r tabl isod yn dangos y penderfyniadau ariannol hynny y cafwyd asesiad cydraddoldeb ohonynt.
| Disgrifiad o’r prosiect a’i amcanion | Arbediad 2012/2013 £k | Nodiadau | |
|---|---|---|---|
| 1. | Troi gofal cartref o fewn y Cyngor yn wasanaeth asesu ac ailalluogi | 150 | Nodiadau: Troi gofal cartref o fewn y Cyngor yn wasanaeth asesu ac ailalluogi - Fersiwn Word 92Kb |
| 2. | Ailganolbwyntio'r gwasanaeth presennol yn nhai gwarchodol Plas yn Rhos Gostwng y ddibyniaeth ar ddarpariaeth "breswyl" |
150 | Nodiadau: Ailganolbwyntio'r gwasanaeth presennol yn nhai gwarchodol Plas yn Rhos - Fersiwn Word 62Kb |
| 3. | Gostwng costau staffio a sicrhau mwy o gydraddoldeb darpariaeth yn Nant Silyn. | 50 | Nodiadau: Gostwng costau staffio a sicrhau mwy o gydraddoldeb darpariaeth yn Nant Silyn - Fersiwn Word 155Kb |
| 4. | Ailddarparu gofal seibiant | 50 | Nodiadau: Ailddarparu gofal seibiant - Fersiwn Word 155Kb |
| 5. | Ailstrwythuro'r gwasanaethau dydd (yn cynnwys Haulfan, strwythur rheoli'r cyfleoedd gweithio) | 150 | Nodiadau: Ailstrwythuro'r gwasanaethau dydd - Fersiwn Word 182Kb |
| 6. | Ailstrwythuro Cynlluniau Byw'r Gymuned (gan gynnwys rheolaeth) | 200 | Nodiadau: Ailstrwythuro Cynlluniau Byw'r Gymuned - Fersiwn Word 191Kb |
| 7. | Adolygu contractau cyfredol a grantiau i gadarnhau 'gwerth ychwanegol' gyda'r trydydd sector | 25 | Nodiadau: Adolygu contractau cyfredol a grantiau i gadarnhau 'gwerth ychwanegol' gyda'r trydydd sector - Fersiwn Word 63Kb |
| 8. | Adolygiad o'r llety | 48 | Nodiadau: Adolygiad o'r llety - Fersiwn Word 50Kb |
| 9. | Adolygu gweithrediad y Cynllun Bathodyn Glas | 10 | Cyflwynwyd y cynllun Cymru gyfan rhad ac am ddim Nodiadau: Adolygu gweithrediad y Cynllun Bathodyn Glas - Fersiwn Word 48Kb |
| Disgrifiad o’r prosiect a’i amcanion | Arbediad 2012/2013 £k | Nodiadau | |
|---|---|---|---|
| 10. | Cau'r cyfleuster Shopmobility yn Nôl yr Eryrod: | 5 | Nodiadau: Cau'r cyfleuster Shopmobility yn Nôl yr Eryrod: - Fersiwn Word 51Kb |
| 11. | Rhagor o ostyngiad yn Ariannu Partneriaeth Parc Caia: Gostwng dibyniaeth Partneriaethau Parc Caia (CPP) ar y Cyngor wrth ddarparu arian ar gyfer costau cynnal craidd y sefydliad a helpu i wneud CPP yn fwy hunan-gynaliadwy drwy gynyddu incwm o ffynonellau hunan-gynhyrchu | 97 | Cafwyd Asesiad o Effaith yn 2009 mewn perthynas â'r Strategaeth Ailgynhyrchu Cymunedol trosfwaol Nodiadau: Rhagor o ostyngiad yn Ariannu Partneriaeth Parc Caia: Gostwng dibyniaeth Partneriaethau Parc Caia - Fersiwn Word 62Kb |
| 12. | Rheoli Adnoddau | 312 | Nodiadau: Rheoli Adnoddau - Fersiwn Word 63Kb |
| Disgrifiad o’r prosiect a’i amcanion | Arbediad 2012/2013 £k | Nodiadau | |
|---|---|---|---|
| 13. | Dim adnewyddu'r contract i'r gwasanaethau ffoaduriaid: Gostwng lefel ariannu'r cyngor i wasanaethau cymorth lloches mewn ymateb i'r gostyngiad yn y nifer o geiswyr lloches sy'n dod i Wrecsam o dan raglen wasgaru'r Swyddfa Gartref. | 36 | Rhif Cyfeirio EASI: EIA/00457 Nodiadau: Dim adnewyddu'r contract i'r gwasanaethau ffoaduriaid - Fersiwn Word 50Kb |
| Disgrifiad o’r prosiect a’i amcanion | Arbediad 2012/2013 £k | Nodiadau | |
|---|---|---|---|
| 14. | Y Cytundeb Partneriaeth Iechyd Galwedigaethol Gostwng y gwariant ar Iechyd Galwedigaethol drwy sefydlu partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sir y Fflint a gwella ansawdd y gwasanaeth. |
38 | Nodiadau: Y Cytundeb Partneriaeth Iechyd Galwedigaethol - Fersiwn Word 65Kb |
| Disgrifiad o’r prosiect a’i amcanion | Arbediad 2012/2013 £k | Nodiadau | |
|---|---|---|---|
| 15. | Gwasanaeth Gwella Ysgol cydweithredol Gogledd Cymru Codi safonau cyflawniad disgyblion mewn ysgolion drwy'r rhanbarth cyfan. |
100 | Nodiadau: Gwasanaeth Gwella Ysgol cydweithredol Gogledd Cymru - Fersiwn Word 60Kb |
| 16. | Ailstrwythuro'r ddarpariaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol | 38 | Nodiadau: Ailstrwythuro'r ddarpariaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol - Fersiwn Word 51Kb |
| 17. | Strwythur yr Uned Cyfeirio Disgyblion a Chymorth Ymddygiad | 22 | Rhif Cyfeirio EASI: EIA/00490 Nodiadau: Strwythur yr Uned Cyfeirio Disgyblion a Chymorth Ymddygiad - Fersiwn Word 50Kb |
| 18. | Ad-drefnu'r Gwasanaeth Anghenion Arbennig Gostwng lefel ariannu'r cyngor i'r gwasanaethau AAA gan barhau i ddarparu gwasanaethau'n effeithiol, yn cynnwys dyletswyddau statudol |
21 | EIA/00539 Nodiadau: Ad-drefnu'r Gwasanaeth Anghenion Arbennig - Fersiwn Word 61Kb |
| 19. | Gostwng cyllid i'r gwasanaeth addysg awyr agored: | 8 | Nodiadau: Gostwng cyllid i'r gwasanaeth addysg awyr agored: - Fersiwn Word 61Kb |
| Disgrifiad o’r prosiect a’i amcanion | Arbediad 2012/2013 £k | Nodiadau | |
|---|---|---|---|
| 20. | Adolygiad Cludiant | 10 | Nodiadau: Adolygiad Cludiant - Fersiwn Word 51Kb |
| Disgrifiad o’r prosiect a’i amcanion | Arbediad 2012/2013 £k | Nodiadau | |
|---|---|---|---|
| 21. | Cynyddu'r ffi casgliadau swmpus | 3 | Rhif Cyfeirio EASI: Nodiadau: Cynyddu'r ffi casgliadau swmpus - Fersiwn Word 62Kb |
| 22. | Adolygiad Trafnidiaeth Gwella effeithiolrwydd, cynaliadwyedd a gostwng milltiredd a chostau teithio staff |
412 | Nodiadau: Adolygiad Trafnidiaeth - Fersiwn Word 63Kb |
| 23. | Mynwent Gostwng lefel y staffio. |
18 | Nodiadau: Mynwent - Fersiwn Word 60Kb |
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |